Ym 1924, cyflwynwyd deiseb goffa ryfeddol a lofnodwyd gan bron i 400,000 o fenywod yng Nghymru at fenywod yr UDA, i annog Llywodraeth yr UDA i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd. Mae canmlwyddiant yr ymgyrch hon wedi’i ddathlu trwy ddychwelyd y ddeiseb o’r Unol Daleithiau i Gymru, a digideiddio’r llofnodion – gan alluogi disgynyddion heddiw i ddatgelu ‘hanes cudd’ o weithredu dros heddwch gan y genhedlaeth hon o hen neiniau a mamau-cu. Archwiliwch fwy am hanes yr apêl yn: www.DeisebHeddwch.Cymru
Roedd Deiseb Heddwch y Merched yn gamp ryfeddol, ond ni chyflawnodd ei phrif nod ar unwaith. Yn ôl yng Nghymru, bu Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru (WLNU) yn ystyried beth i’w wneud nesaf. Penderfynasant wahodd arweinwyr cymunedau ffydd Cymru – yr eglwysi Cristnogol i bob pwrpas – i arwyddo apêl goffa debyg, Deiseb Heddwch yr Eglwysi, i Gyngor Ffederal Eglwysi Crist yn America. Mae llawer o’r dogfennau wedi’u digideiddio a gellir eu gweld, ynghyd â ffilm nodwedd esboniadol fer, yn: https://www.wcia.org.uk/1925-churches-peace_appeal/
Cyfleodd y Parchg Gwilym Davies, Ysgrifennydd yr WLNU, yr apêl yn bersonol i’r Cyngor Ffederal yn eu cyngres flynyddol yn Detroit yn Nhachwedd-Rhagfyr 1925. Heddiw, mae cymunedau ffydd Cymru (trwy Cytûn – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru a Chyngor Rhyng-ffydd Cymru) yn gweithio, gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Academi Heddwch Cymru, Cymdeithas y Cymod ac eraill i goffáu canmlwyddiant yn 2025, trwy:
- Treiddio’n ddyfnach i’r hanes
- Coffau’r Apêl mewn lleoliadau yng Nghymru sydd â chysylltiadau arbennig â’r llofnodwyr – gan gynnwys Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Cwm Rhymni (cartref Gwilym Davies) ac eraill.
- Gweithio gyda chenedlaethau heddiw i weld beth fyddai Apeliadau Heddwch gan gymunedau ffydd yn eu dweud yn 2025 – ac i bwy y dylid cyfleu’r rhain.
- Ysbrydoli cenhedlaeth newydd i archwilio sut y gall gwahanol grefyddau gydweithio a chyfrannu at y gwaith o chwilio am heddwch byd-eang heddiw.
Rydym am i hon fod yn bartneriaeth rhwng haneswyr, arweinwyr ffydd a charedigion heddwch yng Nghymru, yr UDA a’r tu hwnt.
A allech chi helpu gydag unrhyw ran o’r gwaith hwn? Os felly, cysylltwch â:
- • Gethin Rhys [ar gyfer cyswllt rhwng cymunedau ffydd] gethin@cytun.cymru
- • Craig Owen [ar gyfer yr agweddau hanesyddol a heddwch]: craigowen@wcia.org.uk
Gwelir Gethin a Craig yma yn dal Apêl 1925 yn Llyfrgell Teml Heddwch ac Iechyd Cymru.
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Isod gallwch wylio fideo byr am ail-ddarganfod yr Apel a’i arwyddocad, a gweminar a drefnwyd gan yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig yn treiddio’n ddyfnach i’r hanes (y ddau yn Saesneg). Ceir hefyd esboniad llawnach o’r cynllun canmlwyddiant, a sut i gyfrannu ato yn ymarferol ac yn ariannol, yn y ddogfen PDF o dan y fideos.