At:- Yr Athro Elwen Evans, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Yr Athro Wendy Larner, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd
Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Simon Pirotte, Prif Weithredwr MEDR
Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Llywodraeth Cymru
Buffy Williams AS, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Senedd Cymru
Tom Giffard AS, Llefarydd y Blaid Geidwadol ar Addysg
Heledd Fychan AS, Llefarydd Plaid Cymru ar Addysg
Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
4 Mawrth 2025
Annwyl gyfeillion
LLYTHYR AGORED: DYFODOL DIWINYDDIAETH A’R DYNIAETHAU YM MHRIFYSGOLION CYMRU
Rydym yn ysgrifennu ar ran Ymddiriedolwyr Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru) i fynegi ein gofid dwys am y toriadau posibl i ddysgu ac ymchwil ym maes Diwinyddiaeth yn benodol a’r Dyniaethau yn gyffredinol ym mhrifysgolion Cymru.
Rydym yn ategu pryderon a fynegwyd gan ddau aelod blaenllaw o aelod eglwysi Cytûn ar raglen Bwrw Golwg. Dywedodd yr Athro D. Densil Morgan, ‘Mae’n ymddangos na fydd yr un adran ddiwinyddol mewn prifysgol yng Nghymru o gwbl – mae’r peth yn drasiedi. Lle roedd gyda chi Gaerdydd, Llanbed a Bangor yn cynnig holl rychwant diwinyddiaeth, astudiaethau Beiblaidd, astudiaethau athrawiaethol, hanes yr Eglwys, athroniaeth crefydd – mae’r adrannau i bob pwrpas wedi cau.’ Meddai Dr Rosa Hunt, ‘Mae’r datblygiad hyn yn ofnadwy i bwnc academaidd Astudiaethau Crefyddol yng Nghymru. O ystyried rôl crefydd wrth lunio Cymru a’n byd amrywiol heddiw, byddai’n “drychineb” colli’r maes astudio pwysig hwn i fyfyrwyr ac academyddion fel ei gilydd.’
Credwn yn gryf fod dealltwriaeth dda am grefydd yn hynod bwysig o ran meithrin cyd-ddealltwriaeth o’r lefel leol i’r lefel fyd-eang, a mae astudiaethau academaidd o holl feysydd diwinyddiaeth ac astudiaethau crefyddol yn hanfodol i greu’r fath ddealltwriaeth.
Ond mae ein gofid yn lledu y tu hwnt i faes diwinyddiaeth a chrefydd, oherwydd y toriadau yn y Dyniaethau eraill. Mae dysgu’r pynciau hyn – Hanes, Hanes a Ieithoedd yr Henfyd, Ieithoedd Modern a Cherddoriaeth – yn greiddiol i alluogi i Gymru gymryd ei lle o fewn diwylliant Ewrop. Byddai colli dysgu’r pynciau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg yn andwyo ein hunaniaeth ac yn gwanhau gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddefnyddio’r iaith ym meysydd dysg, yn ogystal â cholli’r llif angenrheidiol o fyfyrwyr cymwysedig allai ddysgu’r Dyniaethau a Ieithoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Gofynnwn, felly, i chi ail-ystyried gweithredu toriadau o’r fath.
Hoffem hefyd dderbyn gwybodaeth am ddau fater penodol:
- A fydd trefn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn galluogi sicrhau dysgu ac ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr holl bynciau hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol?
- Beth fydd y trefniadau ar gyfer y llyfrgelloedd ac adnoddau eang sydd wedi eu casglu yn y prifysgolion? A ddiogelir y llyfrau, papurau a chreiriau, mewn modd sydd yn galluogi myfyrwyr ac ymchwilwyr y dyfodol i’w cyrchu a’u defnyddio, ac os felly ymhle a sut?
Byddem yn falch o dderbyn eich ymateb, ac os yn bosibl cwrdd â chi i drafod ymhellach.
Yr eiddoch yn gywir,


Jennifer Hurd (Parch. Ddr) Cynan Llwyd (Dr)
Cadeirydd Ysgrifennydd Cyffredinol