Croeso i adnoddau Sul Cyfiawnder Hiliol (SCH) eleni ar gyfer eglwysi Prydain ac Iwerddon, sydd wedi’u llunio gan Grŵp Ysgrifenwyr Sul Cyfiawnder Hiliol (RJSWG) a’u cynhyrchu gan Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae eleni yn flwyddyn bwysig i gyfiawnder hiliol yn y gwledydd hyn gan ei bod yn nodi 30 mlynedd ers sefydlu SCH. Sefydlwyd SCH gan yr Eglwys Fethodistaidd yn 1995 yn dilyn llofruddiaeth hiliol trasig y bachgen ifanc Du Stephen Lawrence yn ne-ddwyrain Llundain ym mis Ebrill 1993. Roedd y teulu Lawrence yn mynychu’r Eglwys Fethodistaidd leol yn y rhan honno o’r brifddinas, a chytunodd yr Eglwys Fethodistaidd i gefnogi’r teulu wrth sefydlu ymgyrch i geisio sicrhau cyfiawnder ac er er mwyn dod o hyd i lofruddwyr y bachgen ifanc Stephen. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, cytunodd Comisiwn yr Eglwysi
dros Gyfiawnder Hiliol (CCRJ), i sefydlu rhaglen o dan nawdd Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon, i drefnu a hybu’r Sul arbennig hwn er mwyn i’r holl eglwysi allu ymgysylltu ag ef. Cawn ddarganfod mwy am yr hanes hwn gan y Parchg David Haslam, cyn weinidog Methodistaidd a phennaeth y CCRJ yn ystod y cyfnod hyn, sy’n myfyrio ar y penblwydd a’r hyn y mae’n ei olygu i gyfiawnder hiliol yn ein gwlad heddiw.
Mae’r thema eleni, â’r teitl ‘Cot o lawer o liwiau’, yn adlewyrchu’r amrywiaeth cynyddol sy’n bodoli ymysg eglwysi ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae’r Hen Destament, neu’r Beibl Hebraeg, a’r Testament Newydd yn gyforiog o gyfeiriadau at amrywiaeth, yn y byd hwn ac yn y Deyrnas i ddod. Dim ond myfyrio ar adnodau sy’n sôn am ‘dŷ gweddi i’r holl genhedloedd’ (Eseia 56:7), digwyddiadau’r Pentecost (Actau 2) neu’r ‘lliaws … o bob cenedl’ (Datguddiad 7:9-17) sydd angen i ni wneud – sydd i gyd yn cynnwys eiriau sy’n golygu ‘pob llwyth a chenedl’, i weld bod amrywiaeth ethnig yn rhan o gynllun dwyfol Duw. Nid oes fawr o amheuaeth bod eglwysi Prydain, yn enwedig yn y dinasoedd mwy, yn ficrocosm o’r byd mewn cynulleidfa, sy’n wir yn fendith y mae’n rhaid ei ddathlu. Yn yr un modd, mae’r ffaith bod amrywiaeth credinwyr wedi rhoi bywyd ysbrydol sydd mawr ei angen i’n heglwysi yn brawf bod hwn yn fudiad o Dduw y mae’n rhaid i ni ei ganmol a diolch amdano. Yn ein myfyrdodau a’n pregethau, mae aelodau’r RJSWG ac eraill, sy’n hanu o sawl rhan o’r byd, yn disgrifio eu profiadau o fod yn rhan o’r ‘Cot o lawer o liwiau’.
Eto i gyd, er gwaethaf y realiti anhygoel hwn, mae anghydraddoldeb yn dal i fodoli yn yr eglwys ac yn dal i fod yn ffactor sy’n difetha profiadau gormod o bobl o dreftadaeth mwyafrif byd-eang neu gefndiroedd Du a Brown. Mae hyn yn gadael pobl gyda’r teimlad fel petaen nhw ddim yn perthyn i dŷ’r Arglwydd, neu ddim yn cael y cyfle i defnyddio eu doniau a roddwyd gan Dduw i hyrwyddo Teyrnas yr Arglwydd. O ystyried y gostyngiad digroeso mewn presenoldeb eglwysig dros y degawdau diwethaf, mae’n rhaid i eglwysi Prydain ac Iwerddon ddeffro i’r realiti fod Duw yn gwneud ‘peth newydd’ (Eseia 43:19) ymhlith y Yn ein myfyrdodau a’n pregethau, mae aelodau’r RJSWG ac eraill, sy’n hanu o sawl rhan o’r byd, yn disgrifio eu profiadau o fod yn rhan o’r ‘Cot o lawer o liwiau’.