Yn dilyn y newyddion dros y penwythnos am yr ymosodiad ar aelodau’r Gymuned Iddewig yn Awstralia, mae Dr Cynan Llwyd, Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn: Eglwysi Gyda’i Gilydd yng Nghymru, wedi rhannu neges ar ran y gymuned Gristnogol eciwmenaidd.

“Yng nghyfnod tywyllaf y flwyddyn, rydym yn galaru oherwydd yr ymosodiad treisgar ar aelodau o’r gymuned Iddewig ar Draeth Bondi ddoe. Mae gweithredoedd o gasineb o’r fath yn brifo nid yn unig y rhai sy’n cael eu targedu’n uniongyrchol, ond hefyd bawb sy’n hiraethu am heddwch, cyfiawnder ac urddas at bob bod dynol.

“Mewn amser pan fo’r cysgodion yn ymestyn, cawn ein hatgoffa o sicrwydd yr Efengyl fod Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef (Ioan 1:5). Rydym yn sefyll mewn undod â’n cymdogion Iddewig, gan eu dal yn ein gweddïau ac rydym yn hymrwymo eto i’r gwaith o fyw bywydau o dosturi, i gymodi ac amddiffyn pob un sy’n dioddef rhagfarn neu ofn.

“Yn ddiweddarach yr wythnos hon, mae cynrychiolwyr Cytûn yn edrych ymlaen i ymuno fel gwesteion Pwyllgor Gwaith, y Cyngor a Rabbi Synagog Unedig Caerdydd wrth gynnau’r Menorâ, a fydd yn cael ei gynnal yn y Senedd. Yno byddwn yn sefyll yn unedig mewn gwrthwynebiad i gasineb a gwahaniaethu ac yn y gobaith parhaus yn ein ffydd a’n hetifeddaeth y rhannwn.

“Boed i oleuni Duw yn ein harwain tuag at iachád, ac at ddewrder i wynebu casineb ym mhob ffurf.”

Datganiad ar yr ymosodiad Bondai