Gwahoddir eglwysi i helpu i lunio presenoldeb Cytûn yn nigwyddiadau cenedlaethol Haf 2026
Mae Cytûn, mewn partneriaeth â Chyngor Ysgolion Sul, wedi dechrau’r cylch cynllunio ar gyfer digwyddiadau haf 2026, gyda chyfres o gyfarfodydd trefnu yn cael eu cynnal yn ystod Chwefror a Mawrth 2026.

Mae’r cyfarfodydd hyn yn gyfle i eglwysi, enwadau a sefydliadau Cristnogol ddod ynghyd i lunio presenoldeb eciwmenaidd ar y cyd mewn tri digwyddiad cenedlaethol mawr yn ystod haf 2026. Gan adeiladu ar brofiad blynyddoedd blaenorol, bydd y ffocws ar groeso, gwelededd a ffyrdd creadigol o ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru a thu hwnt.
Cynhelir y cyfarfodydd trefnu fel a ganlyn:
Eisteddfod yr Urdd – Ynys Môn (23–29 Mai 2026)
Cyfarfod trefnu: Dydd Mawrth, 2 Mawrth 2026, 7.00yh, Capel Lôn y Felin, Llangefni
Y Sioe Frenhinol Gymreig – Llanelwedd (20–23 Gorffennaf 2026)
Cyfarfod trefnu Pabell yr Eglwysi: Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2026, 12.30yh, Canolfan CCRW, Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd
Eisteddfod Genedlaethol – Y Garreg Las ger Aberteifi (1–8 Awst 2026)
Cyfarfod trefnu Pabell yr Eglwysi: Dydd Iau, 5 Mawrth 2026, 7.00yh Capel Mair, Aberteifi
Croesewir yn gynnes bawb sydd â diddordeb mewn cyfrannu at gynllunio, cyflwyno neu fywyd y digwyddiadau hyn. Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech hefyd rannu’r wybodaeth hon mor eang â phosibl gyda’ch eglwysi lleol, cymdeithasau a chysylltiadau. Croeso cynnes i bawb.
Er bod yr Eisteddfodau yn dathlu ac yn hyrwyddo’r Gymraeg, mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg, dysgwyr, dechreuwyr, a’r rhai nad ydynt eto wedi cael y cyfle i ddysgu’r iaith i wirfoddoli a chymryd rhan lawn yn y presenoldeb eciwmenaidd ar y cyd.
Rhagor o wybodaeth a chyswllt
Am ragor o fanylion neu i gymryd rhan, cysylltwch â: Aled Davies Cyfarwyddwr, Cyngor Ysgolion Sul a Cyhoeddiadau’r Gair aled@ysgolsul.com
