Sut mae etholiad 2026 wedi newid cyfansoddiad y Senedd? Beth yw’r heriau sy’n wynebu Llywodraeth nesaf Cymru?

Mae etholiad Senedd 2026 wedi arwain at y newid mwyaf yng nghyfansoddiad Senedd Cymru ers dechrau datganoli. Mae ehangu’r Senedd i 96 aelod, ynghyd â chyflwyno system etholiadol fwy cyfrannol, wedi creu Siambr fwy amrywiol yn wleidyddol, heb unrhyw blaid gyda mwyafrif.

Mae’r siart isod yn rhoi dadansoddiad manwl o gyfansoddiad newydd y Senedd.

Plaid Cymru yw blaid fwyaf y Senedd, a hynny am y tro cyntaf ers sefydlu’r blaid 100 mlynedd yn ôl. Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi datgan ei fwriad i gipio rôl y Prif Weinidog.

Mae Reform UK hefyd wedi ennill cynrychiolaeth sylweddol yn y Senedd am y tro cyntaf, digon i ffurfio’r wrthblaid, tra bod Llafur wedi gweld gostyngiad dramatig yn nifer ei seddi. Felly hefyd bu hanes y Ceidwadwyr Cymreig, ac mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau gydag un aelod etholedig yn unig, tra bod y Gwyrddion wedi ennill dwy sedd am y tro cyntaf.  

Disgwylir i’r Senedd weithredu mewn amgylchedd gwleidyddol cydweithredol. Ond, gyda gwahaniaethau mawr ar lefel polisi rhwng pleidiau’r chwith, y canol a Reform, ni fydd hynny yn hawdd i’w wneud.

Bydd adeiladu clymbleidiau a chydweithio ar sail materion penodol yn chwarae rhan bwysicach wrth ffurfio a chynnal Llywodraeth nesaf Cymru. Gall pleidiau llai a grwpiau unigol gael mwy o ddylanwad dros ddeddfwriaeth a blaenoriaethau polisi nag yn y Seneddau blaenorol.

Bwriad y trefniadau etholiadol newydd oedd gwneud y Senedd yn fwy cynrychioliadol o’r pleidleisiau a fwriwyd ledled Cymru. Mae’r canlyniadau’n awgrymu bod cydbwysedd y seddi yn adlewyrchu cyfran y bleidlais genedlaethol yn fwy agos nag o dan y system flaenorol.

Dywedodd Dr Cynan Llwyd, Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn: “Mae Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, yn llongyfarch Plaid Cymru ar ei buddugoliaeth yn etholiad Senedd 2026, ac yn llongyfarch Rhun ap Iorwerth wrth iddo baratoi i wasanaethu fel Prif Weinidog Cymru.

Ar adeg o newid yn ein bywyd cenedlaethol, gweddïwn drosto ef, dros holl aelodau etholedig y Senedd, a thros bawb sy’n cario cyfrifoldebau gwasanaeth cyhoeddus. Gofynnwn i Dduw roi doethineb, gostyngeiddrwydd a dewrder iddynt, ac i gryfhau pob ymdrech a wneir er lles pawb.

Mae Cytûn yn barod i gydweithio’n adeiladol â Llywodraeth newydd Cymru a chyda phartneriaid ledled cymdeithas i feithrin undod, cydweithrediad a gobaith. Croesawn yn arbennig yr alwad am “dosturi di-ildio”, a gweddïwn y bydd yr ysbryd hwn yn siapio bywyd cyhoeddus yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod.”

Llywodraeth newydd i Gymru