Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn yn pwysleisio undod wrth arweinwyr ffydd Cymru gyfarfod dros heddwch

Yn gynharach ym mis Ebrill, ac yng nghyd-destun etholiad y Senedd, ymgasglodd arweinwyr prif gymunedau ffydd Cymru yn y Deml Heddwch ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd ddydd Llun i lofnodi datganiad cyhoeddus o undod wrth inni baratoi ar gyfer etholiadau’r Senedd. Gellir darllen y datganiad yn un o’r lluniau isod. Dyma’r hyn â rannodd Dr Cynan Llwyd yn y digwyddiad.

“Mae’n fraint sefyll yma heddiw, ac yn anrhydedd arbennig gwneud hynny ochr yn ochr ag arweinwyr Cristnogol, Mwslemaidd ac Iddewig wrth inni gadarnhau ein hymrwymiad cyffredin i heddwch a chyfeillgarwch. Mewn dyddiau a nodweddir gan ryfel, ofn, rhaniadau ac ansicrwydd, mae’r foment hon yn bwysig. Mae’n bwysig am ei bod yn dweud, yn gyhoeddus ac yn eglur, nad oes rhaid i ffydd arwain at amheuaeth na gelyniaeth, ond y gall fod yn rym ar gyfer iacháu, dewrder a gobaith.

“Fel Cristion, rwyf am ddweud yn glir pam fy mod i yma.

“Rwyf yma oherwydd Iesu Grist. Fe, yr hwn y mae Cristnogion yn ei ddilyn, yw Tywysog Tangnefedd. Ef yw’r un a’n dysgodd mai’r gorchmynion mwyaf yw caru Duw a charu ein cymydog. Ef yw’r un nad oedd ei gariad byth yn gul nac yn amodol, ond a roddwyd yn rhad i’r rhai a anwybyddwyd, yr estron, y tlawd, y clwyfedig, a’r dieithryn. Fe ddymchwelodd rwystrau gelyniaethus. Croesodd ffiniau yr oedd eraill yn ofni eu croesi. Galwodd ei ddilynwyr nid i dra-arglwyddiaethu, ond i wasanaethu; nid i ennyn casineb, ond i geisio heddwch. Darostyngodd ei hun hyd angau, ie, angau ar groes.

“Felly, i Gristnogion ac eglwysi, dylai’r diwrnod hwn ein hatgoffa o bwy yw ein Harglwydd, ac felly ein hatgoffa o beth y gelwir ni i fod. Tangnefeddwyr.

“Ac i’n ffrindiau Mwslemaidd ac Iddewig, rwyf am ddweud hyn gyda didwylledd a gostyngeiddrwydd: rydym yn sefyll gyda chi mewn ymrwymiad cyffredin i heddwch a chymod. Rydym yn anrhydeddu eich presenoldeb, eich cyfeillgarwch, a’ch tystiolaeth. Gwyddom fod ymddiriedaeth yn cael ei hadeiladu nid yn unig gan eiriau a leferir mewn seremonïau fel hyn, ond gan berthnasoedd, undod, a dewrder a ddangosir dros amser. Rydym wedi ymrwymo i’r gwaith hwnnw.

“Rwyf hefyd am ddweud, yn dyner ond yn ddiamwys, nad yw’r rhai sy’n lapio creulondeb mewn iaith Gristnogol, nac yn gwisgo gwaharddiad mewn symbolau crefyddol, yn siarad dros Cristnogaeth. Nid yw gwleidyddiaeth greulon, boed fel y’i gwelir yn Trump, yn MAGA, yn ralïau Unite the Kingdom, mewn rhai pleidiau gwleidyddol sy’n sefyll yn yr etholiad yma yng Nghymru ymhen tair wythnos, nac yn y rhai sy’n cario croesau fel bathodynnau rhaniadau yn hytrach nag arwyddion o gariad hunanaberthol, yn cynrychioli’r Efengyl a gyhoeddwn. Nid arf ofn yw croes Crist, ond arwydd o gariad sy’n cymodi.

“Felly boed i hyn fod yn fwy na llofnod. Boed iddo fod yn dystiolaeth. Tystiolaeth y gallwn ni yng Nghymru anghytuno’n ddwfn, ac eto barhau i gerdded gyda’n gilydd mewn haelioni a pharch. Tystiolaeth na chaiff casineb y gair olaf.

“A thystiolaeth fod heddwch yn dal yn bosibl, trwy ras Duw.”

Datganiad y Deml Heddwch