Cytûn yn cyhoeddi dyddiadau Cwrs Croeso i Gymru 2026

Mae Cytûn yn falch o gadarnhau y cynhelir Cwrs Croeso i Gymru 2026 rhwng 23–25 Medi 2026 yng Nghanolfan Chwaraeon Cymru (Sport Wales) yng Ngerddi Sofia, Caerdydd (CF11 9SW).

Cwrs hyfforddiant yw hwn i weinidogion a gweithwyr Cristnogol sy’n dod i weithio yng Nghymru am y tro cyntaf, neu sy’n dychwelyd ar ôl cyfnod i ffwrdd. Mae’r cwrs yn gyfle i ddod yn fwy cyfarwydd â chyd-destun Cymru ac i gysylltu ag eraill sy’n dechrau gweinidogaeth neu waith yng Nghymru.

Derbynnir ceisiadau preswyl a dibreswyl. Y dyddiad cau am geisiadau yw 30 Awst 2026.

Am ragor o wybodaeth neu ymholiadau, cysylltwch â Sasha Perriam ar post@cytun.cymru.

Croeso i Gymru: 2026