Dod i Weinidogaethu a Gwasanaethu yng Nghymru?
Mae Cytûn yn falch o gadarnhau y cynhelir cwrs Croeso i Gymru 2026 rhwng 23–25 Medi 2026 yng Nghanolfan Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer gweinidogion a gweithwyr Cristnogol sy’n dod i weithio yng Nghymru am y tro cyntaf, neu sy’n dychwelyd ar ôl cyfnod i ffwrdd. Mae’n gyfle i ddod yn fwy cyfarwydd â chyd-destun Cymru, i gyfarfod ag eraill sy’n dechrau ar weinidogaeth neu wasanaeth yng Nghymru, ac i baratoi’n dda ar gyfer gweithio o fewn cymunedau Cymru.

Croesewir ceisiadau preswyl a di-breswyl. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Awst 2026.
I gael rhagor o wybodaeth, neu i wneud cais, ewch i dudalen cwrs Croeso i Gymru 2026. Am ymholiadau, cysylltwch â Sasha Perriam yn post@cytun.cymru.
