Digwyddiadau

Dyma manylion Digwyddiadau Cytûn, lle gallwch ddarganfod ymgynnulliadau, cynadleddau a gwasanaethau sydd wedi’u trefnu gan Cytûn a’n heglwysi aelod. Mae’r digwyddiadau hyn yn dathlu ein ffydd gyffredin, yn meithrin cydweithrediad ac yn dyfnhau dealltwriaeth ar draws traddodiadau Cristnogol yng Nghymru. Dewch i ymuno â ni wrth i ni ddod ynghyd mewn addoliad, deialog a gweithredu dros undod a gobaith.


Darlith Gyhoeddus – Poplyddiaeth, Gwleidyddiaeth a Hawlio Gristnogaeth: Sut ddylai’r Eglwys ymateb?
Gan Parch. Dr Helen Paynter o Goleg Bedyddwyr, Bryste

Dydd Sadwrn 31 Ionawr 2026, 14:00
Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Ddinas, Windsor Place, Caerdydd CF10 3BZ
Mynediad am ddim does dim angen archebu lle


Mae Cytûn, mewn partneriaeth â Chyngor Ysgolion Sul, wedi dechrau’r cylch cynllunio ar gyfer digwyddiadau haf 2026, gyda chyfres o gyfarfodydd trefnu yn cael eu cynnal yn ystod Chwefror a Mawrth 2026.

Eisteddfod yr Urdd – Ynys Môn (23–29 Mai 2026)
Cyfarfod trefnu: Dydd Mawrth, 2 Chwefror 2026, 7.00yh Capel Lôn y Felin, Llangefni

Y Sioe Frenhinol Gymreig – Llanelwedd (20–23 Gorffennaf 2026)
Cyfarfod trefnu Pabell yr Eglwysi: Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2026, 12.30yh Canolfan CCRW, Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd

Eisteddfod Genedlaethol – Y Garreg Las ger Aberteifi (1–8 Awst 2026)
Cyfarfod trefnu Pabell yr Eglwysi: Dydd Iau, 5 Mawrth 2026, 7.00yh Capel Mair, Aberteifi

Am ragor o fanylion cysylltwch ag aled@ysgolsul.com