Y Senedd i Ddadlau ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Marw â Chymorth, 20 Ionawr 2026

Dylai’r Aelodau a cefnogwyr Cytûn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes), a fydd yn cael ei drafod yn y Senedd ddydd Mawrth 20 Ionawr 2026. Cyhoeddwyd y ddadl yn Natganiad Busnes yr wythnos hon, ac fe’i trefnwyd i bara am 30 munud.

Beth yw Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol?

Mae angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol (CCD) pan fo Senedd y DU yn deddfu ar faterion sy’n dod o fewn cymhwysedd datganoledig. Mae’r Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes), sy’n symud ymlaen ar hyn o bryd drwy San Steffan, yn cynnwys darpariaethau a fyddai’n gymwys i Gymru mewn meysydd lle mae gan y Senedd gyfrifoldeb deddfwriaethol, yn enwedig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Drwy’r CCD hwn, mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i’r Senedd roi ei chydsyniad i Senedd y DU ddeddfu ar y materion datganoledig hyn ar ran Cymru. Gall y Senedd ddewis rhoi cydsyniad, gwrthod cydsyniad, neu roi cydsyniad amodol.

Cwestiwn Sensitif ac Arwyddocaol

Mae’r cwestiwn o farw â chymorth yn codi pryderon moesegol, diwinyddol, meddygol a bugeiliol dwys. Mae eglwysi a Christnogion unigol ledled Cymru yn dal safbwyntiau sydd wedi’u hystyried yn ddwys ar y mater hwn, wedi’u llywio gan eu dealltwriaeth o sancteiddrwydd bywyd, tosturi tuag at ddioddefaint, cydwybod, a’r lles cyffredin.

Rôl Cytûn

Fel Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, mae Cytûn yn cydnabod amrywiaeth y safbwyntiau ymhlith ein henwadau aelod a’n haelodau unigol ar y cwestiwn sensitif hwn. Byddwn yn cefnogi ein haelodau i fynegi a rhannu eu safbwyntiau unigol gydag Aelodau’r Senedd cyn y ddadl.

Yn y dyddiau nesaf, byddwn yn darparu:

  • Gwybodaeth gefndir ar y broses CCD
  • Adnoddau i helpu aelodau i ymgysylltu â’u cynrychiolwyr yn y Senedd
  • Canllawiau ar sut y gall eglwysi hwyluso trafodaeth ystyriol ar y mater hwn

Byddwn yn ystyried ein ymateb ar ol i’r mesur cael ei drafod.

Rydym yn annog aelodau sy’n dymuno gwneud eu barn yn hysbys i gysylltu â’u Haelodau lleol o’r Senedd cyn dydd Mawrth 20 Ionawr.

Rhennir diweddariadau ac adnoddau pellach drwy ein sianeli arferol.

Diweddariad Cymorth i Farw

Gadael Ymateb