A yw eich eglwys neu enwad wedi dweud eu dweud?

Mae Cytûn yn annog eglwysi, enwadau a sefydliadau Cristnogol ledled Cymru i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion i gyflwyno Hawl Cymunedol i Brynu yng Nghymru.

Byddai’r cynllun arfaethedig yn rhoi cyfle i gymunedau gofrestru adeiladau a thir sydd o bwys lleol, a chael y cyfle cyntaf i’w prynu pan fydd perchnogion yn penderfynu eu gwerthu.

Gallai’r cynigion gael goblygiadau sylweddol i eglwysi a chapeli, yn enwedig o ran dyfodol adeiladau addoli, rheoli eiddo enwadol a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr elusennol.

Fodd bynnag, mae cyfleoedd hefyd i ddiogelu adeiladau cymunedol, cefnogi perchnogaeth gymunedol a datblygu defnydd newydd ar gyfer adeiladau er budd pobl leol.

Mae Cytûn yn annog enwadau i ystyried manteision ehangach y cynigion ochr yn ochr â’u goblygiadau ymarferol a chyfreithiol.

Nid yw Grŵp Galluogi Cytûn wedi mabwysiadu safbwynt penodol ar y cynigion. Rydym yn annog pob enwad i gyflwyno ei ymateb ei hun yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru, ac yn croesawu copïau o’r ymatebion hynny er mwyn rhannu a deall safbwyntiau’r eglwysi.

Gweithredwch nawr

Dyddiad cau’r ymgynghoriad yw 4 Ionawr 2027.

Darllenwch y cynigion a chyflwynwch eich ymateb drwy wefan Llywodraeth Cymru:

Ymgynghoriad Hawl i Brynu

Hawl Cymunedol i Brynu