Eglwysi’n cael eu gwahodd i archwilio ffydd a phoblyddiaeth

Darlith gyhoeddus am ddim yn archwilio sut y dylai Cristnogion ymateb i honiadau poblyddol wrth i etholiad hanesyddol y Senedd agosáu ym mis Mai

Wrth i Gymru baratoi ar gyfer etholiadau tyngedfennol y Senedd ym mis Mai 2026 – y rhai cyntaf o dan y system cynrychiolaeth gyfrannol newydd – mae eglwysi a chymunedau ffydd yn cael eu gwahodd i ddarlith amserol sy’n archwilio’r berthynas rhwng Cristnogaeth a gwleidyddiaeth boblyddol gyfoes.

Bydd y Parch. Dr Helen Paynter o Goleg Bedyddwyr, Bryste yn traddodi’r ddarlith “Poplyddiaeth, Gwleidyddiaeth a Hawlio Gristnogaeth: Sut ddylai’r Eglwys ymateb?” yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Ddinas, Caerdydd, ddydd Sadwrn 31 Ionawr am 14:00. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Mae’r ddarlith yn lansio cyfres newydd o ddigwyddiadau fel rhan o Raglen Diwinyddiaeth Gyhoeddus Cytûn, a fydd yn cynnwys darlithoedd, cyfweliadau a thrafodaethau drwy gydol 2026. Nod y rhaglen yw galluogi eglwysi ledled Cymru i ymgysylltu’n ystyriol â chwestiynau cymdeithasol a gwleidyddol dybryd. Wrth i wleidyddion droi’n gynyddol at iaith a delweddau Cristnogol i gefnogi symudiadau poblyddol, daw darlith agoriadol Dr Paynter ar adeg hollbwysig i gymunedau ffydd sy’n ceisio llywio’r cyfnod etholiadol sydd o’u blaen gyda chyfanrwydd diwinyddol ac eglurder.

“Ni fu’r berthynas rhwng ffydd a gwleidyddiaeth erioed mor gymhleth,” meddai Dr Cynan Llwyd Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn. “Wrth i ni nesáu at etholiadau’r Senedd, mae’n hanfodol bod Cristnogion yn gallu dirnad sut i ymateb pan gaiff eu ffydd ei chydio at ddibenion gwleidyddol – ac i ymgysylltu’n adeiladol â’n prosesau democrataidd. Dyma’r gyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau sydd wedi’u cynllunio i helpu eglwysi feddwl yn ddwfn am yr heriau hyn.”

Caiff y ddarlith ei chyflwyno mewn partneriaeth â Thabernacl yr Ais, Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Ddinas, a Choleg Bedyddwyr Caerdydd, gan adlewyrchu ymrwymiad eciwmenaidd i helpu eglwysi i ymgysylltu’n ystyrlon â heriau gwleidyddol cyfoes.

Manylion y Digwyddiad:

  • Pryd: Dydd Sadwrn 31 Ionawr 2026, 14:00
  • Ble: Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Ddinas, Windsor Place, Caerdydd CF10 3BZ
  • Cost: Mynediad am ddim
  • Archebu: Dim angen archebu

Gyda etholiadau’r Senedd yn dod â newidiadau cyfansoddiadol sylweddol i ddemocratiaeth Cymru, mae’r ddarlith agoriadol hon yn cynnig cyfle i eglwysi ac unigolion feddwl yn ofalus am sut y gall y gymuned ffydd Gristnogol gyfrannu at drafodaeth wleidyddol iach tra’n cynnal dilysrwydd diwinyddol.

Peidiwch â cholli’r cyfle i ymgysylltu ag un o’r cwestiynau mwyaf dybryd sy’n wynebu eglwysi heddiw. Dewch atom ar 31 Ionawr ar gyfer y gyntaf yn y gyfres bwysig hon, a darganfyddwch sut y gall Cristnogion ymateb yn feddylgar ac yn ffyddlon i boblyddiaeth yn ein bywyd gwleidyddol.

Hawlio Cristnogaeth