Cefnogaeth i Sefydliadau Ffydd am ddim gan y Swyddfa Gartref

Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi lansiad Hyfforddiant Diogelwch Ffydd (FST), cynllun ymwybyddiaeth diogelwch newydd, am ddim, sydd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer cymunedau ffydd ledled Cymru a Lloegr. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar ran y Swyddfa Gartref gan CDS Support.

Bwriad y rhaglen yw helpu mannau addoli a sefydliadau ffydd i gryfhau eu harferion diogelwch, lleihau risgiau, a sicrhau bod cymunedau’n gallu parhau i gyfarfod yn ddiogel. Mae’r hyfforddiant yn addas ar gyfer ystod eang o bobl mewn lleoliadau ffydd, gan gynnwys arweinwyr ffydd, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, rheolwyr adeiladau, ac unrhyw un sy’n gyfrifol am ddiogelwch mewn man addoli neu sydd â diddordeb mewn gwella trefniadau.

Bydd modd cael mynediad at yr hyfforddiant drwy sesiynau wyneb yn wyneb neu rithwir gyda arbenigwyr diogelwch. Bydd modiwlau e-ddysgu hefyd ar gael yn fuan drwy blatfform ProtectUK. Mae’r cynllun yn gwbl ddewisol ac wedi’i gynllunio i ategu unrhyw drefniadau diogelwch sydd eisoes ar waith.

Gall grwpiau ffydd sydd â diddordeb gofrestru ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd drwy gysylltu â contact@cdssupport.uk.

Hyfforddiant Diogelwch