Mae Undeb Bedyddwyr Cymru (UBC / BUW) yn chwilio am arweinydd newydd i ymuno â nhw fel Ysgrifennydd Cyffredinol gan wasanaethu fel Prif Weithredwr yr Undeb mewn cyfnod pwysig o drawsnewid a datblygiad.

Bydd deiliad y swydd yn darparu arweinyddiaeth strategol ar draws gwaith yr Undeb, y Welsh Baptist Union Corporation, a Chronfa Adeiladu Bedyddwyr Cymru, gan helpu i siapio cenhadaeth a gweledigaeth y gymuned fedyddwyr yng Nghymru.
Mae’r Undeb yn chwilio am arweinydd gweledigaethol gyda sgiliau profedig i arwain sefydliad cenedlaethol, cefnogi eglwysi a gweinidogion, ac ymateb i heriau a chyfleoedd cyfoes.
Mae’r enwad yn anogi ceisiadau gan unigolion sy’n teimlo galwad i wasanaethu mewn rôl arweinyddiaeth genedlaethol o bwys.
