Bedydd, Priodas, Angladd? Dau o'r Tri Dan Sylw

Newidiadau ar y Gweill i Briodasau ac Angladdau?

Mae dwy agwedd ar y gyfraith sydd â chysylltiad agos â bywyd a gweinidogaeth yr eglwys – priodasau ac angladdau – yn cael sylw ar lefel y DU. Er nad yw’r materion hyn wedi’u datganoli, gallai’r newidiadau gael goblygiadau penodol i eglwysi, enwadau a sefydliadau Cristnogol yng Nghymru.

Mae Cytûn yn tynnu sylw ei aelodau at y gwaith hwn a byddem yn croesawu barn, drwy gynrychiolwyr ein henwadau a’n sefydliadau sy’n aelodau, am unrhyw faterion yng Nghymru a allai elwa o ymateb cydgysylltiedig.

Diwygio cyfraith priodasau

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymgynghori ar Tying the Knot: Reforming Weddings Law in England and Wales, ac mae croeso i ymatebion tan 24 Medi 2026.

Gallai’r cynigion newid yn sylweddol y ffordd y mae priodasau crefyddol yn cael eu cydnabod yn gyfreithiol a’u cynnal, gan gynnwys symud o system sydd wedi’i seilio’n bennaf ar adeiladau cofrestredig tuag at un sy’n canolbwyntio ar swyddogion awdurdodedig.

Ymhlith y materion mae:

  • cymhwysedd sefydliadau crefyddol a chred i enwebu swyddogion;
  • cyfrifoldebau a goruchwyliaeth swyddogion;
  • lle y gall priodasau gael eu cynnal yn gyfreithiol; a
  • mesurau diogelu o fewn y system briodasau.

Gallai’r cynigion fod yn arbennig o berthnasol i enwadau llai ac annibynnol, gan gynnwys aelodau Categori B Cytûn, gan y gallai’r gofynion cymhwysedd effeithio’n wahanol ar gyrff llai o gymharu ag enwadau mwy a hirsefydlog.

Mae hefyd safbwynt Cymreig penodol, gan gynnwys goblygiadau i le’r Gymraeg a’i defnydd ymarferol, ac i genhadaeth a gweinidogaeth eglwysi yng Nghymru.

Mae’n bosibl bod rhai aelodau, yn enwedig enwadau sy’n gweithredu ledled y DU a chyrff yr ymgynghorir â hwy’n rheolaidd, eisoes yn paratoi ymatebion. Byddem yn croesawu gwybodaeth am y gwaith hwn ac am unrhyw faterion sydd angen sylw penodol yng Nghymru.

Gofynnwn i aelodau sy’n dymuno cyfrannu at ystyriaeth Cytûn o’r ymgynghoriad wneud hynny drwy gynrychiolydd eu henwad neu sefydliad i Cytûn. Bydd y safbwyntiau’n cael eu hystyried gan Grŵp Galluogi Cytûn. Anfonwch gyfraniadau i post@cytun.cymru.

Os bydd yr ymatebion yn awgrymu y gallai cyfraniad gan Cytûn ychwanegu gwerth, byddwn yn trafod gydag aelodau y posibilrwydd o ddatblygu ymateb cydgysylltiedig.

Rhagor o wybodaeth

Tying the Knot: Reforming weddings law in England and Wales – GOV.UK

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 24 Medi 2026.

Angladdau, dulliau angladdol a gweddillion

Mae Comisiwn y Gyfraith hefyd yn gweithio ar Rights and Obligations Relating to Funerary Methods, Funerals and Remains, fel rhan o’i raglen ehangach Burial, Cremation and New Funerary Methods.

Mae’r gwaith hwn ar gam cynharach ac nid yw wedi cyrraedd ymgynghoriad cyhoeddus eto. Mae’n ystyried dymuniadau unigolyn ar gyfer ei gorff ar ôl marwolaeth, pwy ddylai wneud penderfyniadau am angladdau a gweddillion, anghydfodau teuluol, cyfrifoldeb am drefniadau, a statws cyfreithiol gweddillion dynol.

Gallai’r cwestiynau hyn fod â goblygiadau bugeiliol ac ymarferol pwysig i eglwysi, gweinidogion a’r rhai sy’n ymwneud â gweinidogaeth angladdau a phrofedigaeth.

Mae’n bosibl y bydd Comisiwn y Gyfraith yn cysylltu ag aelodau Cytûn i gymryd rhan mewn gwaith ymgysylltu cyn yr ymgynghoriad. Byddem yn croesawu clywed, drwy ein henwadau a’n sefydliadau sy’n aelodau, am unrhyw ymwneud â’r gwaith neu faterion a allai gael effaith benodol yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth

Rights and Obligations Relating to Funerary Methods, Funerals and Remains – Law Commission

Burial, Cremation and New Funerary Methods – Law Commission

 

Nid yw diwygio cyfraith ledled y DU bob amser yn cael yr un canlyniadau ymarferol yng Nghymru ag yn Lloegr. Gall fod angen rhoi sylw penodol i’r Gymraeg, enwadau llai, a realiti cenhadaeth, gweinidogaeth a gofal bugeiliol yng Nghymru.

Bedydd, Priodas, Angladd