Galwad i Gristnogion ledled Cymru weddïo dros undod

Ar adeg pan fo ofn ac ymraniad yn gallu siapio ein cymunedau yn rhy hawdd, mae Cristnogion ledled Cymru yn cael eu gwahodd i wneud rhywbeth gwahanol: dod ynghyd, gweddïo gyda’n gilydd ac ailddarganfod yr hyn sy’n ein huno yng Nghrist.

Bydd Wythnos Weddi am Undod Cristnogol, 18–25 Ionawr 2027, yn dod â Christnogion o wahanol draddodiadau ynghyd o dan y thema ‘Peidiwch ag ofni’.

Paratowyd gweddïau a myfyrdodau 2027 gan gynrychiolwyr eglwysi Iwerddon. Gan dynnu’n benodol ar Luc 12:22–34, maent yn myfyrio ar Iesu fel y Bugail Da a’i alwad i’r ‘praidd bychan’ fyw nid mewn ofn, ond mewn ymddiriedaeth, gobaith a gwasanaeth.

I Cytûn, mae hyn yn fwy nag wythnos yng nghalendr yr eglwys. Mae’n gyfle i wneud undod Cristnogol yn weladwy yn ein cymunedau – drwy weddïo ac addoli gyda’n gilydd, ond hefyd drwy gryfhau’r berthynas rhwng eglwysi a dod o hyd i ffyrdd newydd o dystio a gwasanaethu gyda’n gilydd.

Adnoddau i eglwysi

Mae Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon (CTBI) wedi paratoi adnoddau i helpu eglwysi, partneriaethau eciwmenaidd lleol ac unigolion i gymryd rhan yn yr Wythnos Weddi.

Mae’r adnoddau’n cynnwys llyfryn Cymraeg/Saesneg 2027, deunydd i’w ddefnyddio mewn addoliad, poster amlieithog ac adnoddau cyflwyno.

Lawrlwythwch adnoddau Cymraeg/Saesneg Wythnos Weddi am Undod Cristnogol 2027:

Wythnos Weddi am Undod Cristnogol 2027 – adnoddau Cymraeg/Saesneg

Yn draddodiadol, cynhelir yr Wythnos Weddi rhwng 18 a 25 Ionawr, er y gall cymunedau ddewis ei nodi adeg y Pentecost neu ar adeg addas arall.

Peidiwch ag ofni. Gweddïwch gyda’ch gilydd. Adeiladwch berthynas. Gwnewch undod Cristnogol yn weladwy.

Peidiwch ag ofni