Dathlu llawen wrth i Gymru groesawu Esgob newydd Bangor

Roedd yn achlysur llawen yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn wrth i Gristnogion o bob cwr o Gymru ddod ynghyd i ddathlu cysegru’r Gwir Barchedig Dr Manon Ceridwen James yn Esgob Bangor.

Daeth cannoedd i Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw ar gyfer yr Ordeinio Esgobol, gan ymuno â theulu, ffrindiau a chydweithwyr yr Esgob Manon, ynghyd â chynrychiolwyr o’r Eglwys ehangach, wrth iddi ddechrau pennod newydd yn ei gweinidogaeth.

Mae Cytûn yn llongyfarch yr Esgob Manon yn gynnes ac yn ymuno â’r Eglwys yng Nghymru ac Esgobaeth Bangor i ddathlu ei gweinidogaeth newydd.

“Rydym yn dathlu gyda’r Eglwys yng Nghymru ac Esgobaeth Bangor wrth i’r Gwir Barchedig Dr Manon Ceridwen James gael ei chysegru’n Esgob Bangor. Mae Manon yn gyfaill ac yn gefnogwraig frwd i waith eciwmenaidd yng Nghymru, ac edrychwn ymlaen at gael parhau i gydweithio â hi wrth iddi gamu i’r rôl newydd. Dymunwn haelioni a bendith helaeth Duw ar ei gweinidogaeth.”

Magwyd yr Esgob Manon yn Nefyn, ym Mhen Llŷn. Fe’i hordeiniwyd yn ddiacon yn Eglwys Gadeiriol Sant Deiniol yn 1994 ac roedd ymhlith y menywod cyntaf i gael eu hordeinio’n offeiriaid yn yr esgobaeth yn 1997. Gyda’i chysegru, hi bellach yw’r fenyw gyntaf i wasanaethu fel Esgob Bangor.

Mae ei gweinidogaeth wedi cynnwys gwaith plwyfol a rolau ym meysydd addysg, hyfforddiant a galwedigaethau yn esgobaethau Bangor a Llanelwy. Daeth yn Ddeon Eglwys Gadeiriol Sant Deiniol ym mis Hydref 2025, ar ôl gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Gweinidogaeth yn Athrofa Padarn Sant.

Roedd y gwasanaeth cysegru hefyd yn adlewyrchu treftadaeth Gristnogol a Chymraeg gyfoethog yr esgobaeth. Fe’i cynhaliwyd yn agos at ŵyl Sant Deiniol, sylfaenydd y gymuned Gristnogol gynnar ym Mangor, ac at ddiwrnod coffáu William Salusbury a’r Esgob William Morgan, y bu eu gwaith yn cyfieithu’r Ysgrythurau a’r Llyfr Gweddi yn ddylanwad parhaol ar ffydd Gristnogol, yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.

Roedd neges arbennig o berthnasol i fywyd eciwmenaidd Cymru hefyd yng ngeiriau’r Esgob Manon ei hun wrth iddi fyfyrio ar ei gweinidogaeth newydd:

“Wrth i mi ymateb i’r alwad hon, rwy’n gobeithio y bydd hefyd yn gyfle i bobl ar draws Esgobaeth Bangor, a thu hwnt, fyfyrio ar eu galwad eu hunain ac ar yr hyn y gallai Duw fod yn ein galw i’w wneud gyda’n gilydd. Rwy’n gyffrous o ystyried y cyfleoedd sydd gennym i wasanaethu ein cymunedau ac i rannu cariad Duw gyda phawb.”

Mae’r pwyslais hwnnw ar yr hyn y mae Cristnogion yn cael eu galw i’w wneud gyda’i gilydd wrth galon gwaith Cytûn a’n hymrwymiad cyffredin i eciwmeniaeth yng Nghymru.

Bydd y dathlu’n parhau ym Mangor ddydd Sadwrn 19 Medi, pan fydd yr Esgob Manon yn cael ei sefydlu’n Esgob Bangor yn Eglwys Gadeiriol Sant Deiniol am 2pm ac yn cael ei chroesawu gan gynrychiolwyr o bob rhan o’r esgobaeth.

Mae Cytûn yn estyn ein llongyfarchiadau cynhesaf a’n gweddïau i’r Esgob Manon wrth iddi ddechrau’r weinidogaeth newydd hon, ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio â hi yn ein tystiolaeth Gristnogol gyffredin ledled Cymru.

Gallwch wylio’r llifiad byw ar YouTube yma: Cysegru – YouTube  

Croesawu Esgob Newydd Bangor