Wythnosau wedi'r daeargryn: Cymru'n cael ei hatgoffa bod modd dal i helpu Venezuela
Dros dair wythnos ers i ddau ddaeargryn grymus daro Venezuela ar 24 Mehefin, mae elusennau eglwysig a eciwmenaidd Cymru’n atgoffa cynulleidfaoedd bod yr argyfwng ymhell o fod ar ben.
Trawodd y daeargrynfeydd, o faint 7.2 a 7.5, o fewn eiliadau i’w gilydd ger prifddinas Venezuela, Caracas – y cryfaf i daro’r wlad ers dros ganrif. Yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae dros 4,400 o bobl wedi’u lladd, dros 16,700 wedi’u hanafu, a degau o filoedd yn dal ar goll. Amcangyfrifir bod 96,000 o adeiladau wedi’u difrodi neu eu dinistrio, a bod 680,000 o blant mewn angen brys am gymorth dyngarol.
Lansiodd y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) apêl ar draws y DU ar 1 Gorffennaf, gyda 14 o’r 15 elusen sy’n rhan ohono – gan gynnwys ein aelod Cymorth Cristnogol – yn ymateb ar lawr gwlad yn Venezuela. Erbyn dechrau Gorffennaf roedd yr apêl wedi codi dros £10 miliwn, gan gynnwys rhodd gan Ei Fawrhydi’r Brenin a £2 filiwn gan Lywodraeth y DU trwy’r cynllun UK Aid Match. Cyfrannodd Llywodraeth Cymru £50,000 pellach.
Er gwaethaf y ffigurau calonogol hyn, mae angen y bobl sydd wedi’u heffeithio yn dal i dyfu. Mae partneriaid lleol Cymorth Cristnogol yn Venezuela’n parhau i ddosbarthu bwyd, dŵr, citiau cymorth cyntaf a lloches i deuluoedd sydd wedi colli popeth, mewn gwlad oedd eisoes yn wynebu argyfwng economaidd difrifol cyn i’r daeargrynfeydd daro.
Dywedodd Dr Cynan Llwyd ar ran Cytûn : ‘Mae’n hawdd i argyfwng ddiflannu o’r penawdau, ond nid yw hynny’n golygu bod yr angen wedi diflannu. Rydym yn annog eglwysi ledled Cymru i gadw Venezuela yn eu gweddïau, ac i ystyried cynnal casgliad neu roi rhodd – mae pob ceiniog yn dal i gyfrif.’
