Darlith Cytûn i Archwilio Cenedlaetholdeb Cristnogol o Safbwynt Cymreig
Caerdydd, Ionawr 2026 – Mae Cytûn yn cynnal trafodaeth amserol ar genedlaetholdeb Cristnogol ddydd Mercher 12 Chwefror 2026 am 6.30yh, gan archwilio’r ffenomen fyd-eang a’i pherthynas â thraddodiad Cristnogol Cymru.

Cynhelir y digwyddiad yn Nhafarnacl, Yr Ais (The Hays) yng Nghaerdydd, a bydd yn cynnwys y Parchedig Dr Rhys Llwyd, Gweinidog Caersalem, Caernarfon, ac awdur cyhoeddedig y mae ei waith yn ymdrin â diwinyddiaeth gyhoeddus a chenedlaetholdeb Cristnogol.
Bydd Dr Llwyd yn trafod y pwnc “Cenedlaetholdeb Cristnogol: Cyllell Dau finiog?”, gan archwilio gwersi o draddodiad Cristnogol Cymru a’r heriau a berir gan fynegiadau cyfoes o genedlaetholdeb Cristnogol, yn enwedig yng ngoleuni datblygiadau gwleidyddol diweddar yn yr Unol Daleithiau a thu hwnt.
Daw’r drafodaeth ar adeg arwyddocaol, wrth i eglwysi ledled Cymru ymdrin â chwestiynau ynghylch y berthynas rhwng ffydd Gristnogol, hunaniaeth genedlaethol, ac ymgysylltiad gwleidyddol. Mae arbenigedd Dr Llwyd yn y maes hwn, gan gynnwys ei waith diweddar Tynged Cenedl (The Fate of the Nation), yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i sut y gall Cristnogion Cymru ymateb i’r materion cymhleth hyn.
Cynhelir y digwyddiad yn Gymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd ar gael, gan sicrhau hygyrchedd i bawb sy’n bresennol, a mewn partneriaeth a Coleg Bedyddwur, Caerdydd, Tabernacl yr Ais a Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Ddinas.
Manylion y Digwyddiad:
- Dyddiad: Dydd Mercher 12 Chwefror 2026
- Amser: 6.30yh
- Lleoliad: Tabernacl, Yr Ais (The Hays), Caerdydd
- Iaith: Cymraeg gyda chyfieithu ar y pryd
