Mae Cytûn, Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, yn cyhoeddi’r datganiad hwn cyn y ddadl a’r bleidlais yn y Senedd ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol (CCD) yn ymwneud â’r Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes), a drefnwyd ar gyfer 24ain Chwefror 2026.

Yn dilyn gweddi a thrafodaeth fanwl o fewn Grŵp Galluogi Cytûn, sy’n darparu’r sail gyfansoddiadol ar gyfer llunio polisi manwl gan y staff, mae’r sefydliad wedi cyhoeddi datganiad a hysbysiad i’r wasg manwl.
Mae’r rhain ar gael yn adran Adnoddau Polisi ar y wefan.
