Dathlodd Cytûn, Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, orseddiad hanesyddol y Parchedicaf Cherry Vann fel pymthegfed Archesgob Cymru mewn gwasanaeth cenedlaethol a gynhaliwyd yn Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw, Casnewydd, ddydd Sadwrn, wythfed o Dachwedd.

Gwnaeth Archesgob Cherry, a etholwyd gan Goleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru ym mis Gorffennaf, hanes fel y fenyw gyntaf i wasanaethu fel Archesgob Cymru. Mae hi’n parhau yn ei rôl fel Esgob Mynwy, swydd y mae wedi ei dal ers ei chysegru yn 2020.
Gwelodd y gwasanaeth gynrychiolwyr o eglwysi a chymunedau ffydd ar draws Cymru yn ymgynnull i dystio i’r garreg filltir arwyddocaol hon yn hanes eglwysig Cymru. Chwaraeodd Dr Cynan Llwyd, Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn, ran allweddol yn y seremoni drwy gyflwyno’r Archesgob i arweinwyr eglwysig a chrefyddol o bob cwr o Gymru.
Wrth sôn am yr achlysur, dywedodd Dr Cynan Llwyd
“Roedd yn llawenydd a braint fawr cyflwyno Archesgob Cherry i aelodau’r teulu ecwmenaidd a’r cymuned ffydd ehangach fel rhan o’r gwasanaeth hanesyddol hwn. Mae’r foment hon yn cynrychioli nid yn unig cam arwyddocaol i’r Eglwys yng Nghymru, ond hefyd i’r gymuned Gristnogol ehangach ar draws ein cenedl.”
Roedd y gwasanaeth gorseddu yn cynnwys traddodiadau Cymreig ac ecwmenaidd cyfoethog, gan gynnwys defnydd o Feibl Archesgobion Mynwy a’r Kyrie yn y Gymraeg a gyfansoddwyd gan Paul Mealor, a ganwyd yng Nghoroni’r Brenin Siarl III yn 2023.
Yn ei sylwadau yn dilyn ei hethol ym mis Gorffennaf, pwysleisiodd Archesgob Cherry ei hymrwymiad i iachâd a chymod, gan ddatgan:
“Y peth cyntaf y bydd angen i mi ei wneud yw sicrhau bod y materion a godwyd yn ystod y chwe mis diwethaf yn cael eu trafod yn iawn a’m bod yn gweithio i ddod â iachâd a chymod, ac i adeiladu lefel dda iawn o ymddiriedaeth ar draws yr Eglwys a’r cymunedau y mae’r Eglwys yn eu gwasanaethu.”
Mae aelodaeth Cytûn yn dymuno’n dda i’r Archesgob newydd ac yn ei chynnal hi a’r Gymuned Anglicanaidd yng Nghymru yn ei gweddïau ar yr adeg hon.
