Mae Cytûn, Eglwysi ynghyd yng Nghymru, wedi cyhoeddi newid pwysig yn ei ddull o ymgysylltu â pholisi, gan lansio recriwtio ar gyfer Grŵp Cynghori Polisi newydd, ochr yn ochr â chyfathrebu mwy targedig ac ymatebol.

I gryfhau ein gwaith o ymgysylltu a’r Senedd a Llywodraeth Cymru, rydym wedi dechrau ceisio enwebiadau ar gyfer Grŵp Cynghori Polisi, gyda ymddiriedolwyr ac aelodau ar draws aelodaeth Cytûn yn cael eu gofyn i adnabod ymgeiswyr addas. Mae’r recriwtio’n dilyn yr arweiniad a rannwyd yng Nghyfarfod yr Arweinwyr yn Llandudno yn ddiweddar, ac mae deunyddiau recriwtio, sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac sy’n nodi’r ystod o sgiliau a phrofiad sy’n cael eu ceisio ar gyfer y grŵp, bellach wedi’u cylchredeg drwy’r aelodau.
Mae’r datblygiadau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau bod Cytûn yn parhau i fod yn ymatebol, yn gydweithredol ac yn effeithiol wrth hyrwyddo ein gweledigaeth eciwmenaidd fel sylfaen ein cenhadaeth. Rydym yn symud tuag at ddull mwy ystwyth a phwrpasol a fydd yn gwasanaethu ein blaenoriaethau a rennir yn well, ac yn galluogi ymgysylltu polisi mwy effeithiol ar draws ein haelodaeth.
Yn hytrach na gosod terfyn amser caeth, mae Cytûn yn cydnabod yr heriau sy’n bodoli wrth recriwtio gwirfoddolwyr ac yn gobeithio, drwy ymdrechion cydgysylltiedig ar draws yr aelodaeth, y gellir dod â grŵp o unigolion ynghyd i helpu llunio’r agenda bolisi a gwasanaethu’r weledigaeth ar gyfer tystiolaeth ecwmenaidd effeithiol.
Anogir eglwysi aelodau i ystyried ymgeiswyr posibl ac i gylchredeg y deunyddiau recriwtio o fewn eu rhwydweithiau. Mae manylion llawn a chanllawiau ymgeisio ar gael gan Cytûn yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Strategaeth Gyfathrebu
Rydym hefyd yn y broses o ail-linio ein gwefan i ddarparu adnoddau ar-lein cliriach a mwy ffocwsiedig. Bydd y platfform gwell yn gwneud briffiau polisi, ymatebion i ymgynghoriadau a chyfleoedd i ymgysylltu yn haws eu canfod, ac yn fuan bydd yn cynnwys system hysbysu i roi gwybod i danysgrifwyr am ddiweddariadau unwaith y bydd yn gwbl weithredol. Bydd hefyd yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio’n llawn â’r gofynion perthnasol o ran diogelu data a diogelwch.

Mewn newid arwyddocaol i’w strategaeth gyfathrebu, mae Cytûn wedi symud i ffwrdd o’i drefn Bwletin Polisi bob deufis. Bydd y sefydliad yn cyhoeddi bwletinau bellach pan fo angen, gan ddarparu diweddariadau pwrpasol, amserol gyda galwadau gweithredu clir lle gall llais eglwysi aelodau wneud y mwyaf o effaith. Mae bwletin, yn benodol i ofyniad y Senedd i basio Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn ymateb i’r Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes) sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan Dŷ’r Arglwyddi, wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar.
Mae’r newidiadau i’n ffordd o weithio a chyfathrebu yn adlewyrchu’r ymrwymiad adnewyddedig i wasanaethu’r enwadau a’r sefydliadau sy’n aelodau, ac i’n gweledigaeth a rennir o Undod Cristnogol a phartneriaeth Ecwmenaidd.
