Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn gwahodd ceisiadau am swydd Pennaeth Ariannol, wedi’i lleoli yn Swyddfa’r Gymanfa yn Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, gyda’r cyfle i weithio’n hyblyg o’r cartref hefyd.

Gyda mwy na 440 o gynulleidfaoedd a thros 12,000 o aelodau, mae’r Eglwys yn chwilio am unigolyn profiadol i ddarparu arweinyddiaeth strategol ac i gynghori ar stiwardiaeth ariannol yr enwad.
Mae hon yn swydd barhaol (35 awr yr wythnos), a chyfle i ymuno â Chynllun Pensiwn yr Eglwys.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 24 Chwefror 2026 am 4yp.
Mae’r hysbyseb swyddogol ar gael ar-lein neu am ffurflen gais, cysylltwch â Swyddfa’r Gymanfa drwy swyddfa.office@ebcpcw.cymru.
