Cytûn yn cyhoeddi dyddiadau Cwrs Croeso i Gymru 2026

Mae Cytûn yn falch o gadarnhau y cynhelir Cwrs Croeso i Gymru 2026 rhwng 23–25 Medi 2026 yng Nghanolfan Chwaraeon Cymru (Sport Wales) yng Ngerddi Sofia, Caerdydd (CF11 9SW).

Y ffi ar gyfer presenoldeb preswyl yw £360 gan ei bod yn cynnwys y costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â llety dros nos a lletygarwch ar y safle, yn ogystal a’r rhaglen hyfforddi.

Mae’r ffi ddi-breswyl o £300 yn addas i gyfranogwyr sy’n mynychu sesiynau’r cwrs ond nad oes angen llety arnynt, gan ei gwneud yn opsiwn cost is i’r rhai sy’n gallu teithio i mewn bob dydd. I archebu lle neu godi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Sasha, cydlynydd y cwrs, trwy post@cytun.cymru.

Cwrs hyfforddiant yw hwn i weinidogion a gweithwyr Cristnogol sy’n dod i weithio yng Nghymru am y tro cyntaf, neu sy’n dychwelyd ar ôl cyfnod i ffwrdd. Mae’r cwrs yn gyfle i ddod yn fwy cyfarwydd â chyd-destun Cymru ac i gysylltu ag eraill sy’n dechrau gweinidogaeth neu waith yng Nghymru.

Derbynnir ceisiadau preswyl a dibreswyl. Y dyddiad cau am geisiadau yw 30 Awst 2026.

Am ragor o wybodaeth neu ymholiadau, cysylltwch â Sasha Perriam ar post@cytun.cymru.