Cytûn yn galw am undod ledled Cymru
Wrth i Gymru fynd i’r gorsafoedd pleidleisio heddiw yn Etholiad Senedd Cymru 2026, mae Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru yn gwahodd eglwysi, cymunedau a phleidleiswyr i fyfyrio ar yr alwad Gristnogol at undod.
Mewn neges fideo newydd a recordiwyd ar gyfer diwrnod yr etholiad, mae Dr Cynan Llwyd, Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn, yn tynnu ar eiriau Effesiaid 4, gan annog pobl ledled Cymru i geisio gostyngeiddrwydd, amynedd a heddwch ar adeg o newid gwleidyddol a thrafodaeth gyhoeddus.

Mae Dr Llwyd yn atgoffa gwylwyr fod etholiadau’n bwysig iawn, gan siapio bywyd ein cymunedau a chyfeiriad Cymru i’r dyfodol. Ond mae hefyd yn galw ar Gristnogion, eglwysi a phawb o ewyllys da i wrthsefyll rhaniad, i wrando’n hael, ac i gydweithio er lles pawb y tu hwnt i ddiwrnod pleidleisio.
Mae Cytûn yn annog pawb i wylio’r neges, i weddïo dros Gymru, ac i gadw cynrychiolwyr etholedig, ymgeiswyr a chymunedau yn eu gweddïau wrth i’r broses ddemocrataidd fynd rhagddi.
