Wylo gyda’n gilydd: Aberfan ac ystyr undod Cristnogol
Wrth i Gymru nodi trigain mlynedd ers trychineb Aberfan, mae Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn, Dr Cynan Llwyd, wedi tynnu sylw at y gofal, y cydsafiad a’r eiriolaeth a gynigiwyd ar y cyd gan yr eglwysi.
Ar 21 Hydref 1966, llithrodd tomen o wastraff glo uwchben y pentref, gan gladdu Ysgol Iau Pantglas a chartrefi cyfagos. Bu farw 116 o blant a 28 o oedolion yn y drychineb.
Mewn myfyrdod ar yr achlysur, mae’n disgrifio sut y bu gweinidogion lleol yn gweddïo gyda’i gilydd ac yn cydlynu ymweliadau â chartrefi yn syth ar ôl y drychineb. Bu eglwysi o wahanol draddodiadau Cristnogol yn cydweithio i gefnogi’r teuluoedd mewn profedigaeth a’r gymuned ehangach.
Bu’r gweinidog Methodistaidd Irving Penberthy, a oedd yn adnabod llawer o’r plant drwy’r ysgol Sul, yn mynd gyda thadau wrth iddynt adnabod cyrff eu plant yng Nghapel Bethania. Yn ddiweddarach, disgrifiodd rannu eu galar fel “gweinidogaeth y dagrau”.
Parhaodd yr ymrwymiad hwn ar y cyd y tu hwnt i’r argyfwng uniongyrchol. Ym mis Gorffennaf 1967, gofynnodd Cyngor Eglwysi Merthyr i Erastus Jones wasanaethu fel bugail eciwmenaidd yn Aberfan. Cyfrannodd eglwysi Cymreig yng Nghanada at ariannu ei benodiad a sefydlu Tŷ Toronto, a fu’n cefnogi bywyd y gymuned ac, yn ddiweddarach, yn mynd i’r afael â chaledi cymdeithasol ac economaidd ledled y cymoedd.
Bu’r eglwysi hefyd yn helpu trigolion i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Bu Kenneth Hayes, gweinidog gyda’r Bedyddwyr a gollodd fab yn y drychineb, yn helpu i drefnu’r rhieni i gynrychioli eu buddiannau yn y tribiwnlys.
Wrth fyfyrio ar arwyddocâd hyn i eglwysi heddiw, mae Cynan yn ysgrifennu:
“Dylai ein galwad i undod, dealltwriaeth a thystiolaeth ar y cyd ddod i’r amlwg ym mywydau’r bobl rydym yn eu gwasanaethu. Mae cymdeithas yn tyfu drwy weddi a sgwrs, ac yn dyfnhau wrth inni ysgwyddo cyfrifoldebau gyda’n gilydd sy’n gofyn inni barhau’n bresennol dros amser.”
Dr Cynan Llwyd
Yn ei fyfyrdod, mae’n galw ar eglwysi i wrando’n amyneddgar, rhannu adnoddau a sefyll ochr yn ochr â chymunedau sy’n ceisio cyfiawnder, gan gydnabod y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn profi galar a ffydd.
Yn anad dim, mae’n pwysleisio bod yn rhaid cadw pobl Aberfan wrth galon y cofio:
“Wrth inni nodi trigain mlynedd, dylai ein sylw ganolbwyntio ar bobl Aberfan: y rhai a fu farw, y rhai a gollodd anwyliaid, y goroeswyr a’r cenedlaethau sy’n byw gyda’r hanes hwn. Mae eu straeon yn haeddu cael eu trin â gofal, ac mae eu lleisiau’n haeddu llywio’r ffordd y cofiwn y drychineb.”
Mae’r erthygl lawn yn Saesneg ar gael i’w darllen ar Substack personol Dr Cynan Llwyd.
Aberfan 2026
