Rhaglen haf Cytûn yn dechrau

Roedd Cytûn yn falch o fod yn bresennol yn Eisteddfod yr Urdd yn Ynys Môn yr wythnos diwethaf, fel rhan o’n rhaglen haf ehangach o ymgysylltu ledled Cymru.

Cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd rhwng 23 a 29 Mai 2026, a bu’n gyfle gwerthfawr i gwrdd ag ymwelwyr, siarad â phartneriaid, a rhannu mwy am waith Eglwysi Ynghyd yng Nghymru. Yn ystod yr wythnos, recordiodd Cytûn gyfres o gyfweliadau, gan gynnwys sgyrsiau gydag ymwelwyr tro cyntaf â’r Maes ac arweinwyr o enwadau sy’n aelodau yng Nghymru ac ar draws y DU.

Mae’r fideos hyn bellach yn fyw ar wefan Cytûn o dan yr adran Digwyddiadau, ac maent hefyd ar gael ar dudalen Facebook Cytûn.

Mae rhaglen haf Cytûn yn parhau gyda chefnogaeth i aelodau lleol yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen rhwng 7 a 12 Gorffennaf 2026, wedi’i dilyn gan ein presenoldeb yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd rhwng 20 a 23 Gorffennaf 2026, ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Garreg Las, ger Aberteifi, rhwng 1 ac 8 Awst 2026.

Drwy’r cynulliadau cenedlaethol hyn, mae Cytûn yn parhau i annog sgwrs, cydweithio a thystiolaeth ar y cyd mewn cymunedau ledled Cymru. Mae croeso bob amser i ymwelwyr aci wirfoddolwyr ychwanegol.

Digwyddiadau’r Haf 2026