Dydd Gweddi’r Byd 2026: Mudiad eciwmenaidd byd-eang dan arweiniad merched

Mae Cytûn yn falch o rannu manylion Dydd Gweddi’r Byd 2026, mudiad eciwmenaidd rhyngwladol dan arweiniad merched Cristnogol, sy’n dod â phobl at ei gilydd ledled y byd mewn gweddi ac undod.

Bob blwyddyn, bydd merched o wlad wahanol yn paratoi’r gwasanaeth, gan adlewyrchu eu taith ysbrydol, eu consyrn a’u diwylliant. Ar gyfer 2026, merched Nigeria sydd wedi paratoi’r gwasanaeth, gan leisio eu hangen am heddwch a chysur mewn byd llawn pryder ac ymrafael.

Maent yn ein gwahodd i ymuno â hwy ar ddydd Gwener 6 Mawrth 2026, mewn gwasanaeth sy’n seiliedig ar thema Mathew 11:28–30: “Rhoddaf orffwys i chi, dewch.”

Mae’r diwrnod yn dyst i undod byd-eang, wrth i “don o weddi” gylchynu’r byd dros 38 awr, gan gychwyn yn Samoa ac yn parhau drwy bob parth amser.

Mae Cytûn yn annog eglwysi ledled Cymru i ystyried cymryd rhan, boed hynny drwy gynnal gwasanaeth am y tro cyntaf neu ymuno â chynulliad lleol sydd eisoes yn bodoli. Mae adnoddau gan gynnwys posteri, deunyddiau gwasanaeth a chynnwys i’w lawrlwytho ar gael drwy wefan swyddogol Dydd Gweddi’r Byd yng Nghymru a Lloegr: https://www.wwdp.org.uk

Am wybodaeth bellach yng Nghymru, cysylltwch â chynrychiolydd Cymru ar y Pwyllgor Rhyngwladol:

nestamarydavies@gmail.com / 07870 323790

Am daflenni a phosteri cysylltwch â’r dosbarthwr:

margaretmaudmorgan@gmail.com

Mae cyflwyniad PowerPoint ar gael hefyd drwy:

marian.beech-hughes@ebcpcw.cymru

Gwahoddir eglwysi i rannu lluniau a myfyrdodau drwy dudalen Facebook Dydd Gweddi’r Byd, neu gyfrannu at y llyfryn Together in Prayer.

Fel sefydliad, rydym yn croesawu’n gynnes y cyfle hwn i uno mewn gweddi a gweithredu gyda merched Cristnogol ledled y byd, ac i gefnogi prosiectau sy’n cael eu harwain gan elusennau Cristnogol mewn cyd-destunau amrywiol.

Galw i weddio

Gadael Ymateb