Diweddariad ar Adolygiad Llywodraeth Cymru o Orchymyn Eithriadau Gofal Plant
Ar 11 Awst 2025, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar Orchymyn Drafft Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2026 a’r cynnig ar gyfer Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ar gyfer Darparwyr Gofal Plant, Chwarae a Gweithgareddau. Bu’r ymgynghoriad yn rhedeg am ddeuddeg wythnos a daeth i ben ar 3 Tachwedd 2025.

O dan Orchymyn Drafft Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2026, caiff darparu addysg grefyddol ei ystyried yn bennaf o fewn yr eithriad “Hyfforddiant a Thiwtora”.
Mae’r gorchymyn drafft yn cadw “astudiaeth grefyddol neu ddiwylliannol” fel un o’r mathau penodol o weithgareddau y gellir eu heithrio rhag cofrestru fel gofal dydd. Fodd bynnag, mae Gorchymyn Drafft 2026 yn cyflwyno terfynau llymach ar y ffordd y darperir yr addysg hon:
- Trothwy Cofrestru ar gyfer Plant Dan 5 oed: Os yw person yn darparu addysg grefyddol i blant 4 oed neu iau am fwy na 2 awr ar unrhyw un diwrnod, mae’n debygol y bydd gofyn iddo gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.
- Ehangder y Gweithgareddau: Dim ond os yw darparwr yn cynnig hyfforddiant neu diwtora mewn dim mwy na dau fath o weithgaredd o’r rhestr gymeradwy y caiff ei eithrio (sy’n cynnwys chwaraeon, y celfyddydau perfformio, y celfyddydau a chrefft, astudio ysgol/cymorth gyda gwaith cartref, ac astudiaeth grefyddol/diwylliannol).
- Gofal Digwyddiadol: Er mwyn i’r eithriad fod yn gymwys, rhaid i unrhyw ofal a ddarperir yn ystod y sesiynau hyn fod yn ddigwyddiadol i’r prif ddiben o ddarparu addysg grefyddol.
Yn ogystal ag ymateb Cytûn, derbyniwyd 97 ymateb ysgrifenedig pellach, ynghyd â 35 o gyfranogwyr a gyfrannodd drwy grwpiau ffocws.
Mae’r ymatebion yn adlewyrchu ystod eang o safbwyntiau gan unigolion, grwpiau a sefydliadau ledled Cymru, gyda chynrychiolaeth gan gynnwys y sector cofrestredig, y sector anghofrestredig, cyrff rheoleiddio, a phlant a theuluoedd.
Cynhaliwyd gweithdai ymgysylltu gyda phlant a phobl ifanc gan Plant yng Nghymru. Cymerodd 41 o blant a phobl ifanc rhwng 10 a 25 oed ran yn y gweithdai hyn. Er na fydd y gweithdai hyn yn ffurfio rhan o’r ymgynghoriad ffurfiol, darparwyd mewnwelediadau gwerthfawr, a bwriedir cyhoeddi’r gwaith hwn ochr yn ochr â chrynodeb ymatebion yr ymgynghoriad.
Dull Dadansoddi a Gwneud Penderfyniadau
Mae pob ymateb wedi’i adolygu a’i ddadansoddi gan swyddogion Llywodraeth Cymru er mwyn nodi themâu allweddol, patrymau, a meysydd o gytundeb neu wahaniaeth barn. Dadansoddwyd adborth ansoddol a meintiol ill dau. Cefnogodd Cytûn egwyddor gwell rheoleiddio a chynnal eithriadau i gefnogi darpariaethau ffydd-seiliedig a sector gwirfoddol eraill i blant, yn ogystal â’u rhieni a allai fod yn cymryd rhan eu hunain mewn gweithgareddau crefyddol neu weithgareddau eraill. Nodwyd hefyd gyda Llywodraeth Cymru fod diffyg tystiolaeth empirig glir ar hyn o bryd bod newid yn angenrheidiol, a bod perygl y gallai newidiadau arwain at ganlyniadau anfwriadol a rhoi darpariaeth bresennol mewn perygl.
Bydd eglwysi a sefydliadau am ystyried yr effaith y gallai’r newidiadau hyn ei chael ar eu darpariaeth a’u rhaglenni unigol.
Opsiwn Cymeradwyo Gwirfoddol
O dan y newidiadau arfaethedig, gall darparwyr addysg grefyddol sy’n parhau i fod wedi’u heithrio rhag cofrestru gorfodol (er enghraifft, y rhai sy’n gweithredu am lai na 2 awr) ddewis ymuno â’r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol newydd. Mae hyn yn eu galluogi i ddangos eu bod yn bodloni safonau diogelwch sylfaenol, megis gwiriadau DBS a hyfforddiant diogelu, ac yn galluogi teuluoedd sy’n cymryd rhan i hawlio Gofal Plant Di-dreth neu gymorth gofal plant drwy Gredyd Cynhwysol.
Awgrymir y bydd eglwysi a sefydliadau sydd â’r capasiti a’r arbenigedd angenrheidiol am ystyried sut y gallai’r cynllun hwn gefnogi eu gweinidogaeth.
Camau Nesaf
Bydd y camau nesaf yn cynnwys profi pellach a thrafodaethau gyda’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Rydym wedi ymrwymo i gadw rhanddeiliaid yn gyfredol wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo. Bydd dadansoddi ymatebion yr ymgynghoriad ar y cynnig ar gyfer Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ar gyfer Darparwyr Gofal Plant, Chwarae a Gweithgareddau yn cael ei wneud nesaf.
Amserlenni Allweddol
Dylai eglwysi a grwpiau Cristnogol eraill sy’n darparu gofal plant fel gwasanaeth digwyddiadol nodi a bod yn ymwybodol o’r gwaith parhaus yn y maes hwn o bolisi cyhoeddus.
- Disgwylir cyhoeddi crynodeb o ymatebion yr ymgynghoriad erbyn diwedd mis Ionawr, neu cyn gynted ag sy’n bosibl wedyn.
- Gosod y Gorchymyn yn y Senedd ym mis Chwefror 2026
- Craffu gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
- Trafodaeth yn y Senedd
Disgwylir y bydd Gorchymyn Eithriadau Drafft 2026, os caiff ei basio gan y Senedd, yn cael ei wneud ym mis Ebrill 2026, ac yn dod i rym ym mis Ebrill 2027, ac y bydd yn gwbl orfodadwy erbyn mis Ebrill 2028 yn dilyn cyfnod pontio o flwyddyn.
Bydd Cytûn yn parhau i fonitro’r maes polisi hwn ac i gynrychioli safbwynt cytbwys o groesawu gwelliannau i’r ddarpariaeth heb roi rhaglenni presennol mewn perygl. Byddwn hefyd yn parhau i alw ar y llywodraeth i sicrhau bod yr holl newidiadau arfaethedig i’r rheoleiddio yn cael eu hasesu o ran risg ac yn cael eu seilio ar sylfaen gadarn o dystiolaeth glir o arfer gorau.
