Gwahodd eglwysi i ddathlu Sul Ymwybyddiaeth Anabledd 2026
Mae eglwysi ledled y DU yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn Sul Ymwybyddiaeth Anabledd 2026, wrth ryddhau adnodd creadigol newydd, am ddim, sydd ar gael i’w lawrlwytho oddi wrth yr elusen Gristnogol, Through the Roof
Mae thema 2026, ‘Un Corff, Llawer o Rannau’, yn tynnu ar 1 Corinthiaid 12 ac yn dathlu’r gwirionedd nad yw’r Eglwys yn gyflawn heb bobl anabl. Y dyddiad swyddogol yw 27 Medi 2026, er bod eglwysi’n cael eu hannog i gymryd rhan ar unrhyw Sul sy’n addas iddyn nhw.

Gweld pethau’n wahanol
Wrth galon yr adnodd newydd mae gweledigaeth Triona Brading, Cristion ifanc awtistig, hyrwyddwr anabledd Roofbreaker gyda Through the Roof, a hyfforddai ar gyfer y weinidogaeth. Mae Triona yn dod â mewnwelediad, llawenydd a dychymyg i’r ddelwedd Feiblaidd o Gorff Crist. Mae hi’n rhannu ei safbwynt fel Cristion awtistig yn ei phrif fideo a ffilmiwyd i eglwysi ei dangos ar gyfer Sul Ymwybyddiaeth Anabledd:
“Ni all y llygad ddweud wrth y llaw, ‘Does arnaf ddim dy angen di.’ Ni all y pen ddweud wrth y traed, ‘Does arnaf ddim eich angen chi.’” Allwch chi ddychmygu ffasiwn beth?
Rhannau o’r corff yn mynd ar grwydr ac yn torri’n rhydd o’r corff, yn neidio i ffwrdd ac yn ceisio byw’n annibynnol ar ei gilydd!
Mae ei hiwmor tyner yn cyflwyno her bwerus: beth mae’n ei olygu, mewn gwirionedd, i’r Eglwys fyw fel un corff, lle mae croeso i bob person a lle mae eu hangen – anabl ai peidio, lle mae pawb yn gallu chwarae eu rhan?
Adnodd AM DDIM i eglwysi!
Mae’r Adnodd Sul Ymwybyddiaeth Anabledd 2026 am ddim yn cynnwys:
- Dau fideo byr
- Amlinelliad o wasanaeth ‘parod i’w ddefnyddio’
- Syniadau ymarferol ar gyfer addoliad a gweithgareddau ieuenctid o bob oed.
Nod yr adnoddau yw helpu eglwysi i symud y tu hwnt i ymwybyddiaeth tuag at Fynediad, Perthyn a Chomisiwn: ABC Cynhwysiant Anabledd, ac i sbarduno sgyrsiau all arwain at newid parhaol.
Gall eglwysi ofyn am yr adnodd am ddim nawr ar: throughtheroof.org/forchurches/disability-awareness-sunday
Dangoswch y fideo. Gweddïwch gyda’ch gilydd. Dathlwch bob aelod o Gorff Crist.
Wrth i eglwysi ledled y DU – a thu hwnt – ymuno, mae Through the Roof yn gobeithio y bydd Sul Ymwybyddiaeth Anabledd 2026 yn ysbrydoli llawer i ddweud yn hyderus: un corff ydyn ni, gyda llawer o rannau – ac mae pawb yn bwysig.
