Mae’r haf bob amser yn un o gyfnodau prysuraf calendr Cytûn
Dechreuodd ein rhaglen haf yn Eisteddfod yr Urdd, lle bu’n bleser gennym groesawu ymwelwyr i bresenoldeb Cytûn ar y Maes a chwrdd â phobl o bob rhan o Gymru.
Yn fwy diweddar, bu’n fraint gennym gefnogi eglwysi lleol sy’n aelodau o Cytûn yn ystod Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Dros y dyddiau nesaf byddwn yn rhannu lluniau, fideos a chyfweliadau, gan gynnwys sgwrs arbennig gyda’r Parchg Ruth Gee yn trafod beth mae’r Eisteddfod Ryngwladol yn ei olygu i’r gymuned leol a’i neges barhaus o heddwch a harmoni.
Sioe Frenhinol Cymru
Bellach mae ein sylw’n troi at Sioe Frenhinol Cymru, lle bydd Cytûn unwaith eto yn gweithio ochr yn ochr ag eglwysi sy’n aelodau i ymgysylltu ag ymwelwyr o bob rhan o Gymru, Ynysoedd Prydain a thu hwnt. Fel un o ddigwyddiadau amaethyddol pwysicaf Ewrop, bydd rhaglen eleni yn cynnwys recordio trafodaeth banel yn archwilio sut y gall eglwysi a chymunedau ddarparu cymorth bugeiliol effeithiol, yn enwedig wrth ymateb i’r her barhaus o sicrhau iechyd meddwl da mewn cymunedau gwledig ac amaethyddol.
Yna bydd y rhaglen haf yn dod i ben yn yr Eisteddfod Genedlaethol, lle bydd Cytûn unwaith eto yn bresennol ym Mhabell yr Eglwysi ochr yn ochr ag eglwysi sy’n aelodau.
P’un a fyddwch yn mynychu un o’r digwyddiadau hyn neu’n eu dilyn ar-lein, edrychwn ymlaen at rannu straeon, cyfweliadau a myfyrdodau o’n rhaglen haf.
