Roedd tafodiaith unigryw Sir Benfro i’w chlywed ar Faes Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las wrth i waith arbennig y diweddar Lyn Lewis Dafis gael ei ddathlu ym Mhabell yr Eglwysi.
Tua’r flwyddyn 2000 cyfieithodd Lyn Lewis Dafis (1960–2022), brodor o Fynachlog-ddu yng ngogledd Sir Benfro, y pedair Efengyl i dafodiaith ei fro enedigol. Roedd Lyn yn llyfrgellydd ac yn ddiweddarach yn offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru, ac roedd ganddo ddiddordeb dwfn mewn ieithoedd, yn enwedig ieithoedd a thafodieithoedd lleiafrifol.
Yn ystod y misoedd cyn yr Eisteddfod daeth criw o Sir Benfro ynghyd i roi llais newydd i’r gwaith drwy recordio Y Beder Ifingyl yn nhafodiaith y sir.
Cafwyd cyfle arbennig yn ystod Eisteddfod y Garreg Las i glywed am y prosiect, gwrando ar y recordiad a chofio’n annwyl am Lyn a’i gyfraniad unigryw.
Sian Wyn Rees oedd yn llywyddu’r cyfarfod, a chafwyd cefnogaeth Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a Chymdeithas y Beibl i’r prosiect.
Mae’r cyfieithiad yn gofnod gwerthfawr nid yn unig o neges yr Efengyl ond hefyd o iaith lafar a thafodiaith arbennig gogledd Sir Benfro. Mae’n cynnwys Efengylau Mathew, Marc, Luc ac Ioan mewn Cymraeg sy’n adlewyrchu’r ffordd y clywid yr iaith yn cael ei siarad yn y fro.
