Heddwch a Dilema Wleidyddol i Gymru

Ar 6 Awst, wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol ymgynnull yn ardal Y Garreg Las, nododd Cytûn Ddiwrnod Hiroshima, 81 mlynedd ers y tro cyntaf i fom atomig gael ei ddefnyddio mewn rhyfel. Mae gan y digwyddiad a’r cofio arwyddocâd arbennig eleni.

Mae Llywodraeth newydd Plaid Cymru eisoes yn wynebu dilema gwleidyddol anodd. Sut mae llywodraeth dan arweiniad plaid sydd wedi ymrwymo i heddwch, hawliau dynol a chyfraith ryngwladol yn cysoni’r egwyddorion hynny â’i chyfrifoldeb dros ddiogelwch, datblygu economaidd a miloedd o swyddi arbenigol yng Nghymru?

Mae’r tensiwn hwnnw bellach yn un cyfredol. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i uwchgynhadledd Defence Security Resilience Cymru sydd i’w gynnal yng Nghasnewydd wedi denu beirniadaeth gan ymgyrchwyr heddwch, yn enwedig o ystyried gwrthwynebiad blaenorol Plaid Cymru i ddigwyddiadau’r diwydiant arfau.

Ni fydd Gweinidogion yn bresennol, er y bydd gweision sifil yno i gefnogi busnesau o Gymru, wrth i’r Llywodraeth ddatblygu fframwaith moesegol newydd ar gyfer y sector amddiffyn.

Yr Her i Ddiwinyddiaeth a Thystiolaeth

I’r eglwysi, mae’r rhain yn gwestiynau diwinyddiaeth gyhoeddus yn ogystal â rhai gwleidyddol. Mae’r materion hyn hefyd yn rhan o flaenoriaethau polisi Cytûn ar Ddinasyddiaeth – gan ystyried sut mae Cristnogion a’r eglwysi yn ymwneud â’r dewisiadau moesol a gwleidyddol sy’n wynebu ein cymdeithas.

Mae gan Anghydffurfiaeth hanes sylweddol o dystiolaeth Gristnogol dros heddwch. Cynrychiolir y traddodiad yma heddiw o fewn Cytûn gan aelodau sy’n cynnwys Undeb yr Annibynwyr Cymraeg sydd â’i Rhwydwaith Heddwch, a Chymdeithas Grefyddol y Cyfeillion (y Crynwyr) ochr yn ochr â’r dystiolaeth Gristnogol barhaus dros heddwch ar draws yr enwadau.

Myfyrdod Dydd Hiroshima

Yn gynharach y diwrnod hwnnw, arweiniodd Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg fyfyrdod ar stondin Cytûn, gan fyfyrio ar Hiroshima, heddwch a’r alwad Gristnogol i fod yn dangnefeddwyr.

Mae’r myfyrdod ar gael yn Gymraeg yn unig.

Hiroshima 2026