Crefydd a’r Cyfryngau yng Nghymru

Mae Cytûn yn falch o gefnogi datblygiad dau ddigwyddiad newydd a fydd yn dod â chymunedau ffydd a’r cyfryngau ynghyd yng Nghymru fis Tachwedd.

Bydd digwyddiadau Creu Cysylltiadau: Crefydd a’r Cyfryngau yng Nghymru, a drefnir gan y Religion Media Centre, yn cael eu cynnal ym Mangor ar 2 Tachwedd ac yng Nghaerdydd ar 9 Tachwedd 2026.

Mae Cytûn wedi bod yn awyddus i gefnogi datblygiad y digwyddiadau hyn fel cyfle i gryfhau perthnasoedd a dealltwriaeth rhwng cymunedau ffydd a’r rhai sy’n gweithio ar draws y cyfryngau yng Nghymru.

Bydd Creu Cysylltiadau yn dod ag arweinwyr a sefydliadau ffydd ynghyd â newyddiadurwyr a gweithwyr proffesiynol eraill yn y cyfryngau, gan gynnig cyfle i feithrin cysylltiadau newydd ac archwilio sut mae crefydd a chredoau wedi’u plethu i fywyd Cymru.

Bydd gweithwyr proffesiynol o’r cyfryngau teledu a radio yn bresennol, ynghyd â golygyddion a gohebwyr sy’n gweithio yn y cyfryngau print ac ar-lein, i ateb cwestiynau ac egluro sut maent yn gweithio. Bydd cyfle hefyd i gynrychiolwyr ffydd siarad am eu gwaith a chyflwyno straeon o’u cymunedau.

I Cytûn, mae annog y math hwn o ddeialog yn arbennig o werthfawr. Mae gan Gymru dirwedd grefyddol amrywiol, ac mae eglwysi a chymunedau ffydd eraill yn parhau i gyfrannu at fywyd cyhoeddus yn genedlaethol ac yn lleol. Gall meithrin cysylltiadau cryfach â newyddiadurwyr helpu cymunedau ffydd i ddeall y cyfryngau’n well, gan hefyd alluogi newyddiadurwyr i ddatblygu cysylltiadau a dealltwriaeth ddyfnach o grefydd a chred yng Nghymru heddiw.

Bangor

Dydd Llun 2 Tachwedd 2026, 13:30–18:00

Neuadd Powis, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, LL57 2DG

Archebwch eich lle am ddim: Eventbrite – Bangor

Caerdydd

Dydd Llun 9 Tachwedd 2026, 13:30–18:00

Y Deml Heddwch, King Edward VII Avenue, Caerdydd, CF10 3AP

Archebwch eich lle am ddim: Eventbrite – Caerdydd

Mae lleoedd am ddim, ond mae angen archebu ymlaen llaw.

Creu Cysylltiadau