Cytûn yn edrych yn ôl ar wythnos arwyddocaol ym mywyd gwleidyddol Cymru

Roedd yr wythnos ddiwethaf yn un arwyddocaol ym mywyd gwleidyddol Cymru, wrth i’r Brenin Siarl III agor y Seithfed Senedd yn ffurfiol ddydd Iau 15 Hydref. Roedd y seremoni ym Mae Caerdydd yn dilyn gwasanaeth eciwmenaidd cenedlaethol yng Nghadeirlan Llandaf ddydd Mawrth 13 Hydref.

Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn, Dr Cynan Llwyd, yn croesawu’r gynulleidfa i’r gwasanaeth bendithio ar gyfer y Seithfed Senedd.

Cynrychiolodd Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn, Dr Cynan Llwyd, y mudiad ar y ddau achlysur, a oedd yn gyfle i fyfyrio ar gyfrifoldeb gwasanaeth cyhoeddus ac ar gyfraniad eglwysi a chymunedau ffydd at fywyd Cymru.

Daeth cynrychiolwyr eglwysi, cymunedau ffydd a bywyd cyhoeddus Cymru ynghyd yn y gwasanaeth i ddiolch am y rhai sy’n gwasanaethu Cymru ac i weddïo dros y gwaith sydd o’u blaenau. Pregethodd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Cherry Vann, a chyfrannodd arweinwyr eglwysig a phartneriaid rhyngffydd weddïau a bendithion. Estynnwyd gwahoddiad i wleidyddion o bob plaid sydd â chynrychiolaeth yn y Senedd.

Mae Cytûn yn diolch yn gynnes i Gadeirlan Llandaf am ei lletygarwch a’r gwaith sylweddol a wnaed i baratoi a chynnal y gwasanaeth.

Yn ystod yr agoriad seremonïol ddydd Iau, anerchodd y Brenin Aelodau’r Senedd a dyfynnodd eiriau’r diweddar hanesydd John Davies: “Canys gwydn yw’r hen genedl hon.”

Wrth edrych yn ôl ar yr wythnos a myfyrio ar y geiriau hynny, dywedodd Dr Llwyd:

“Mae undod rhwng eglwysi yn gofyn am ddyfalbarhad: yr amynedd i barhau i wrando, y gostyngeiddrwydd i ddysgu oddi wrth ein gilydd, a’r dewrder i ddilyn ein galwad gyffredin gan bontio ein gwahaniaethau.

“Yn Cytûn, rydym yn ceisio meithrin yr ymrwymiad hwnnw drwy weddi, cyfeillgarwch a chydweithio ymarferol. Mae gan bob traddodiad Cristnogol ddoniau a all gyfoethogi ein tystiolaeth a’n gwasanaeth ar y cyd.

“Gweddïodd Iesu ar i’w ddilynwyr fod yn un er mwyn i’r byd gredu. Mae ein hundod yn dod â chyfrifoldeb i wneud cariad Crist yn weladwy drwy’r ffordd rydym yn trin ein gilydd ac yn gwasanaethu ein cymdogion.

“Wrth i Gymru gychwyn ar dymor newydd y Senedd, bydded i’w heglwysi fod yn ddyfal wrth garu, yn hael wrth gydweithio ac yn ffyddlon wrth weithio er lles pawb sy’n galw Cymru’n gartref.”

Agoriad y Senedd 2026