Cytûn yn galw ar y Senedd i wrthod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes)
Mae Cytûn, Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, wedi galw ar Aelodau o’r Senedd i bleidleisio yn erbyn y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol (CCD) yn ymwneud â’r Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes) pan fydd yn cael ei drafod (wedi ei drefnu ar hyn o bryd ar gyfer y 24ain Chwefror 2026). Mewn datganiad a gyhoeddwyd heddiw, daeth y corff eciwmenaidd cenedlaethol sy’n cynrychioli eglwysi Cristnogol ledled Cymru i’r casgliad na ddylid rhoi’r CCD, gan nodi pryderon heb eu datrys am ddarpariaethau’r Bil a pharch at gymwyseddau gofal iechyd datganoledig.

Mae’r datganiad yn cydnabod bod safbwyntiau ar farwolaeth â chymorth yn amrywio ar draws enwadau aelodol Cytûn, ond yn nodi bod nifer o eglwysi arwyddocaol—gan gynnwys yr Eglwys Gatholig, yr Eglwys yng Nghymru, yr Eglwys Fethodistaidd, Byddin yr Iachawdwriaeth, ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru—wedi mynegi gwrthwynebiad i egwyddor hunanladdiad â chymorth. Mae Cytûn yn pwysleisio na ddylid dehongli enwadau nad ydynt wedi cyhoeddi safbwyntiau ffurfiol, yn aml fel mater o egwyddor eglwysyddol, fel rhai sy’n cefnogi’r ddeddfwriaeth. Nid yw absenoldeb datganiad swyddogol yn dangos cymeradwyaeth.
Mae datganiad Cytûn yn tynnu sylw at y ffaith bod pryderon sylweddol a godwyd gan weithwyr iechyd proffesiynol, arbenigwyr gofal lliniarol, a’r ddau bwyllgor craffu yn y Senedd yn parhau heb eu datrys. Mae mwy na 250 o feddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru wedi disgrifio’r Bil fel un “ddiffygiol iawn”, tra bod Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd wedi codi cwestiynau difrifol am oblygiadau cyfansoddiadol “dull cul” Llywodraeth Cymru o benderfynu pa ddarpariaethau sydd angen cydsyniad y Senedd. Nid yw pryderon am ddarpariaeth y Gymraeg, capasiti’r gweithlu, a’r effaith ar gyllid gofal lliniarol wedi eu datrys yn foddhaol ychwaith. Mae Cytûn yn pwysleisio’r angen brys i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu buddsoddiad mewn gwasanaethau gofal lliniarol cynhwysfawr yn hytrach na dargyfeirio adnoddau i weithredu deddfwriaeth marwolaeth â chymorth. Byddai ehangu mynediad yn sylweddol at ofal lliniarol a gofal diwedd oes o ansawdd uchel yn darparu cefnogaeth dosturiol wirioneddol i unigolion â salwch terfynol a’u teuluoedd ledled Cymru.
Mae Cytûn hefyd yn nodi ym mis Hydref 2024 fod y Senedd wedi pleidleisio yn erbyn cynnig yn cefnogi marwolaeth â chymorth, gyda gwrthwynebiad gan aelodau ar draws yr holl brif bleidiau gan gynnwys nifer o Weinidogion Llywodraeth Cymru. Mae’r corff eciwmenaidd yn dadlau na fyddai rhoi cydsyniad deddfwriaethol yn parchu’r farn a fynegwyd yn glir, na breintiau’r Senedd a Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu gofal iechyd yng Nghymru. Mae Cytûn yn galw ar yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn y CCD er mwyn sicrhau bod argymhellion pwyllgorau’r Senedd a phryderon pobl Cymru yn cael eu parchu’n briodol.
I ddarllen y datganiad yn llawn, gweler ein adran adnoddau polisi.
