Bob blwyddyn mae gan Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru stondin ar faes Eisteddfod yr Urdd, a hynny mewn cydweithrediad â chapeli ac eglwysi’r fro. Mae’n braf cael croesawu rhai miloedd o blant i mewn atom yn flynyddol dros y 6 diwrnod, i fwynhau’r arlwy ac amrywiaeth o weithgareddau.

O fewn y gofod, sy’n cael ei staffio gan staff Cytûn a nifer o wirfoddolwyr o’r eglwysi ac ysgolion Sul lleol, mae amrywiaeth o weithgareddau ar gael. Bydd plant a phobl ifanc wrth eu boddau yn cael dianc o brysurdeb y maes i chwarae Lego, Connex, Jenga, Connect 4 heb sôn am gyfle i gymryd rhan mewn gweithgaredd crefft, gwneud bathodyn, paentio wyneb neu ewinedd.  Bydd digon o gyfle hefyd am waith lliwio a chrefft, gan ganolbwyntio ar storïau o’r Beibl. Mae’n gyfle i Ysgolion Sul lleol greu baneri a phosteri yn arddangos eu gwaith ac i ddeud ychydig o’u hanes. Byddwn yn dosbarthu diodydd a fferins hefyd, heb sôn am gynnig copi o Efengyl beibl.net am ddim. Mae dewis da o lyfrau ar gael, a hynny i blant, rhieni, heb sôn am athrawon ysgol ac Ysgol Sul. Am 11.00 bob dydd byddwn yn darllen Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd, a hynny gan rai o ieuenctid y fro.

Noddir y gwaith hwn gan yr enwadau a’r mudiadau sy’n rhan o waith Cytûn, a mae croeso iddynt oll fod yn rhan o’r trefniadau. Cysylltwch gyda ni i wybod mwy am drefniadau ar gyfer eleni trwy aled@ysgolsul.com