Nid ystyr undod yw bod yn garedig neu’n gyfeillgar wrth bobl yn unig, ond mae’n seiliedig ar addewid Iesu: ‘Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt’ (Mathew 18:20). Pan fyddwn yn caru fel y gwnaeth Iesu garu, yn barod i roi ein bywydau dros ein gilydd, Iesu ei hun sydd yma yn ein canol. Iesu sy’n newid calonnau pobl, sy’n cysuro’r rhai hynny sy’n dioddef, ac sy’n cynnig gobaith, heddwch a llawenydd. Cynhesrwydd y cariad hwn a roddodd i Focolare ei enw, yr ‘aelwyd’ neu’r ‘pentan’ yn yr Eidaleg.

Nid ein hymdrechion na’n hewyllys ein hunain yw’r ‘allwedd i undod’ ond cariad tuag at Iesu, ei ddarganfod Ef mewn ffordd arbennig mewn cyfnodau o ddioddefaint. Gwnaeth sylfaenydd Symudiad Focolare, Chiara Lubich, ei fynegi fel hyn:

‘Daethom i wybod mai dioddefaint mwyaf Iesu ac, felly, ei weithred fwyaf o gariad, oedd ar y groes pan gafodd brofiad o’r Tad yn ei adael: “Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist?” Gwnaeth hyn gyffwrdd â ni’n ddwfn. Ac oherwydd ein bod yn ifanc, yn frwdfrydig, ac oherwydd gras Duw, gwnaeth ein hannog i’w ddewis ef yn unig ar ôl iddo gael ei adael, fel y ffordd o wireddu ein delfryd o gariad.’

Mae sawl adeg yn ein bywydau pan fyddwn yn sownd heb wybod sut i symud ymlaen, sut i garu. Gallwn ddewis dweud, ‘Ydw, Iesu, rwy’n eich caru fan hyn, yma, fel hyn; yng nghanol y tywyllwch hwn, yn y camgymeriad hwn, yn yr ofn neu’r cywilydd hwn, yn fy methiant i neu fethiant eraill. Yn yr hyn sy’n ymddangos fel sefyllfa anobeithiol heb ateb iddi, rydych Chi yma.’Profiad aelodau o’r Symudiad, a fy mhrofiad fy hun, yw bod y dewis hwn o’r Iesu gadawedig yn dod â heddwch ac yn trawsnewid sefyllfaoedd mawr a bach. Yn rhannol, y ni sydd wedi newid, ond ceir hefyd yr hyn sy’n ymddangos fel gwyrthiau atgyfodi.

Hanes
Dechreuodd Symudiad Focolare yng nghanol dinistr yr Ail Ryfel Byd. Cafodd menyw ifanc o’r enw Chiara Lubich o dref Trent, yng ngogledd yr Eidal, deimlad ei bod wedi cael ei galw i ddilyn Duw.

Pan fyddai s?n y seirenau cyrch awyr i’w glywed, byddai hi a’i ffrindiau yn rhedeg i’r llochesi cyrch awyr, gan fynd â chopi o’r Efengylau gyda nhw. Nid oeddent yn gwybod pa mor hir oedd ganddynt i fyw, a gwnaethant ddechrau rhoi’r geiriau hyn ar waith. Gwnaethant ymweld â phobl sâl a thlawd a rhannu eu heiddo gyda nhw, gan gael profiad o gariad a haelioni Duw ganwaith drosodd. Pan oedd angen ar rywun, byddant yn gofyn i Dduw am yr angen hwnnw, a byddai’r nwyddau’n cyrraedd. Un wrth un, daeth geiriau’r Efengyl yn fyw, ac roeddent yn deall nad llyfr i’w ddarllen yn unig oedd hwn ond rhywbeth i’w fyw. Daeth byw trwy’r ‘Gair Bywyd’ a rhannu profiadau amdano yn agwedd allweddol ar fywydau’r rhai hynny a oedd yn byw’r ysbrydolrwydd undod, ac mae’n parhau i fod yn agwedd allweddol.

Ar ôl y rhyfel, gwnaeth y ffordd hon o fyw ledaenu i rannau eraill o’r Eidal a thu hwnt – i Lwtheriaid yn yr Almaen, Calfiniaid yn y Swistir, Anglicaniaid yn y Deyrnas Unedig, a Christnogion Uniongred yn Nhwrci – a gwnaeth pob un ohonynt ganfod ffordd o fyw a oedd yn apelio atynt hwythau yn rhan o’r bywyd Cristnogol hwn sy’n seiliedig ar yr Efengylau.

Cefais fy magu yn yr Eglwys Anglicanaidd yn Lloegr, gan gael fy nghyflwyno i ysbrydolrwydd y Focolare am y tro cyntaf pan oeddwn yn 11 mlwydd oed. Roeddwn i newydd gael fy mharatoi ar gyfer conffirmasiwn, a gwnaeth eu neges o gariad ar y cyd fy nenu’n fawr atynt. Roedd i’w gweld mor syml ac amlwg. Ffordd o fod yn Gristion y gallai unrhyw un ei byw ydoedd. Yn fy nosbarthiadau derbyn, ni wnaeth neb fy nysgu mai’r peth cyntaf a’r mwyaf pwysig yw cariad. Ceisiais roi’r neges seml ond sylfaenol hon ar waith. Des i’n fwy amyneddgar gyda fy chwiorydd, yn fwy parod fy nghymwynas gyda fy rhieni, yn fwy dewr gyda fy ffrindiau. Roedd yn debyg i ddod o hyd i’r perl gwerthfawr y mae rhywun yn barod i adael popeth ar ei gyfer – yn gudd ond yn amlwg.

Yn ystod y 1950au a’r 1960au, sefydlwyd dimensiwn eciwmenaidd y Symudiad Focolare. Ar ôl hyn, yn ystod y 1970au, daeth perthnasau mwy dwfn gyda phobl o grefyddau eraill. Roedd y Focolare eisoes wedi cael eu gwahodd i Gamer?n, yng ngorllewin Affrica, yn ystod Ail Gyngor y Fatican yn y 1960au. Gwnaethant agor safle cenhadu gydag ysgol, ysbyty a gweithdai yn Fontem, Lebialem. Yno, daethant i adnabod a pharchu llawer o arferion diwylliannol a chrefyddol traddodiadol y Bangwa. Mae’r neges o gariad ac undod hefyd yn apelio at Hindwiaid, Mwslimiaid a Bwdyddion – i bobl o bob ffydd ac i’r rhai hynny heb ffydd. Oherwydd mai’r cyntaf o’r deg gorchymyn yw i garu, nid i droi, nid oes unrhyw un wedi’i eithrio.

Yn nifer o’r cymunedau Focolare sydd wedi codi o amgylch y byd, ac yn y torfeydd gwyliau dros dro (y mae’r ddau ohonynt yn cael eu galw’n ‘Mariapolis’ neu ‘Dinas Mair’), yr unig reol yw caru eich gilydd. Er bod nifer o brosiectau cymdeithasol sy’n cael eu cynnal gan aelodau o’r Symudiad Focolare – busnesau sy’n cael eu rheoli ar sail egwyddorion cymunedol, cyfarfodydd mawr a bach ar gyfer pobl o wahanol oedrannau, swyddi a chefndiroedd – yr un yw’r neges ym mhob un ohonynt: mai un teulu ydym, a bod galw am yr holl ddynolryw i fod yn unedig – i beidio â bod yr un peth, yn union yr un fath – ond i fyw yn parchu ac yn cyfathrebu â’i gilydd mewn cymdeithas sy’n seiliedig ar gariad.

I mi, ac i bob un sy’n ceisio byw’r ysbrydolrwydd undod, ein haddewid a’n her bob dydd yw i gredu mewn cariad.