Diwedd y Byd?
Apocalyptic Cristnogol ac ymatebion i newid hinsawdd
Parch. Gethin Rhys, Swyddog Polisi Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru)
Traddodwyd yn Narlith Goffa Gethin Abraham-Williams ar Zoom,
20 Mai 2021. Addaswyd i’w gyhoeddi 8 Mehefin 2021.
Cyflwyniad
Rwy’n hynod ddiolchgar i Cytûn am estyn i mi’r fraint o draddodi Darlith Goffa Gethin Abraham-Williams eleni. Pleser digymysg oedd bod yn ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol i Gethin am ryw ddeunaw mis – cyfnod a nodweddwyd yn swyddfa Cytûn gan y dryswch bob tro y byddai Sasha yn gweiddi “Gethin!” a’r ddau ohonom yn ymateb!
Fe gafodd Cymru ei breintio i gael gwasanaeth eciwmenydd mor ymroddedig â Gethin am gyhyd; rydym o hyd yn gweld eisiau yn arw ei ddoethineb a’i ehangder gweledigaeth. Mae cael darlithio yn ei enw yn fraint aruthrol. Un o’i ragoriaethau oedd gallu cysylltu diwinyddiaeth â chwestiynau seciwlar yr oes. Ymgais sydd gen i yma i wneud hynny yn achos cwestiwn mwyaf ein hoes ni, sef yr argyfwng hinsawdd.
Rwyf am achub ar y cyfle hwn i gydnabod gyda diolch y sgyrsiau niferus a gefais sydd wedi fy helpu i wneud y cysylltiadau hynny. Yn benodol, mae yna ddau grŵp o bobl yr wyf wedi bod yn rhan ohonynt. Yn gyntaf, aelodau’r cwrs ar-lein yn haf 2020 o’r enw Climate Crisis, Averting Chaos in a Warming World, a arweiniwyd gan Feyzi Ismail yn yr Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd (SOAS) yn Llundain. Yn ail, grŵp Astudiaeth Feiblaidd Gofalaeth Caerdydd a Phenarth yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig, sydd yn 2021 wedi bod yn astudio Llyfr y Datguddiad, dan arweiniad ein gweinidog y Parchg David Dean. Mae’r ddau griw wedi helpu i hogi fy syniadau a gwella’r ddarlith hon. Mae’n rhaid dweud, serch hynny, mai fi yn unig sy’n cymryd cyfrifoldeb am bopeth sydd yn dilyn.
Rwy’n dyddio fy angerdd am yr amgylchedd nôl i 1978, pan oeddwn yn y Chweched Dosbarth yn Ysgol Gyfun Rhydfelen. Un o’m hoff fannau ar y pryd oedd Cwm Nofydd– nid yr heol o’r un enw yn Rhiwbeina ond y cwm bychan ei hun sy’n rhedeg i’r gorllewin o Goed y Wenallt. Roedd gwaelod y cwm yn hoff fan i bobl leol ddod i gael picnic ond y rhan uchaf yn hyfryd ac yn dawel o ran pobl ac yn gyforiog o flodau gwyllt ac adar yn canu. Dyma gyfnod adeiladu’r M4, ac un dydd roeddwn yn dilyn y llwybr heibio’r safle adeiladu i’r cwm. A dyna fraw! Roedd y cwm coediog cul bellach wedi ei lenwi â rwbel a godwyd wrth adeiladu’r draffordd – mi oedd hi’n lle cyfleus i’w adael. Fe gerddais i fyny’r cwm, y dagrau yn powlio i lawr fy wyneb yn edrych ar y dinistr. Mae yna bwynt lle mae’r gwastraff yn dod i ben, a mae rhan uchaf oll Cwm Nofydd bellach (yn eironig) yn ardal gwarchodaeth natur.
Wrth deithio nôl ac ymlaen i’r ysgol ar y bws roeddwn yn darllen. Y llyfr ar y pryd oedd Lord of the Rings (Tolkien, 1954-5). Roeddwn yn credu fy mod yn byw ym Mordor – y rhan anghyfannedd o Middle Earth lle mae Sauron yn byw a lle mae pob prydferthwch wedi ei rwygo o’r tir. Wyddwn i ddim am newid hinsawdd nag am yr argyfwng bioamrywiaeth – ond fe wyddwn fod dinistr ar y gweill.
Mae’r argyfwng hinsawdd wedi achosi i lawer mwy o bobl weld drychiolaeth dinistr o’u cwmpas a theimlo fod y diwedd wedi dod – a’r ymdeimlad wedi’i ddarlunio gan enw Gwrthryfel Difodiant. Mae’r naratif gwyddonol o fynnu gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau CO2 erbyn 2030 er mwyn osgoi trychineb yn ychwanegu dyddiad at yr hyn y mae llawer bellach yn ei alw yn apocalyps.
Apocalyps a’r apocalyptig
Mae’r hyn a elwir yn ysgrifennu apocalyptaidd i’w gael yn yr ysgrythurau Hebraeg a Christnogol. Ystyr y gair Groeg apocalypsis yw “dadorchuddiad neu ddinoethiad”, ac yn drosiadol “datguddiad” (Abbott-Smith, 1936, t. 50). Dyma enw llyfr olaf yr ysgrythurau Cristnogol, a gyfieithir fel arfer ‘Datguddiad Ioan’, ond a elwir gan yr Eglwys Gatholig yn ‘Apocalyps Ioan’. Oherwydd bod yr apocalypsau Beiblaidd a rhyngdestamentaidd yn datgelu hanesion am ddiwedd y byd, neu’r byd fel y mae ar hyn o bryd, daeth y gair Cymraeg i olygu gweledigaeth o’r fath amseroedd terfynol (Collins, 1990). A dyna sut rydw i’n defnyddio’r gair apocalyps. Rwy’n gwybod y bydd diwinyddion yn anesmwytho bob tro, oherwydd iddyn nhw mae apocalyps yn golygu datguddiad, ac eschatoleg yw’r astudiaeth o’r amseroedd terfynol. Ond nid yw’r gair eschatoleg yn ymddangos mewn gwaith seciwlar am newid hinsawdd – fe sonnir bob tro am ddarogan apocalyptaidd yn hytrach nag eschatolegol.
Mae’r cyrff swyddogol sy’n adrodd ar newid hinsawdd yn tueddu i eirio galwadau i weithredu mewn modd sobr a gofalus, fel yn y datganiad i’r wasg gyda lansio adroddiad 2018 gan y Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd (IPCC (2018a): “’The decisions we make today are critical in ensuring a safe and sustainable world for everyone, both now and in the future,…The next few years are probably the most important in our history,’” Ond roedd y Rhagair i’r adroddiad oedd yn cael ei lansio (IPCC, 2018) yn fwy diflewyn ar dafod – “Without increased and urgent mitigation ambition in the coming years, leading to a sharp decline in greenhouse gas emissions by 2030, global warming will surpass 1.5°C in the following decades, leading to irreversible loss of the most fragile ecosystems, and crisis after crisis for the most vulnerable people and societies. … Every bit of warming matters, every year matters, every choice matters” (Taalas & Msuya, 2018, t. 2). Pan fo llywodraethau yn hawlio eu bod yn ‘dilyn y wyddoniaeth’ am newid hinsawdd, cofier mai dyma’r wyddoniaeth y maent yn honni ei dilyn.
Mae mudiadau megis Gwrthryfel Difodiant hyd yn oed yn llai parod i gymedroli eu geiriau. Mae ei gwefan yn dweud (2020) “we are heading for extinction”. Dyma sut yr hybwyd gwrthryfel Medi 2020:
…. ac efallai fod teitl y cyflwyniad hwn gan Wrthryfel Didodiant yn fwy eglur eto:
Fe welwyd yr ofn apocalyptaidd hwn ar waith yn ystod y ‘Gwrthryfel Fesul Un’ ym Mai 2021, pan fu unigolion yn atal y traffig yn dal placardau yn dweud pethau megis “I am terrified billions will die because of the climate crisis”.
Teitl cyflwyniad Greta Thunberg yn Davos 2020 oedd Averting a Climate Apocalypse (Thunberg, 2020) – iaith sy’n drawiadol iawn yng ngenau merch yn ei harddegau.
Mae delweddaeth apocalyptaidd wedi ymestyn i’r byd academaidd, fel yn y gyfres o bodlediadau Political Economy for the End Times (2020). Mae Leigh Phillips (2015, t. 1) yn darparu crynodeb da o ysgrifennu hinsawdd apocalyptaidd o’r fath yn ei lyfr Austerity Ecology & the Collapse-Porn Addicts, er mai ei fwriad yw ei wawdio yn hytrach na’i hyrwyddo. Mae Phillips yn tynnu ar iaith grefyddol (dyw e ddim yn hoff o hynny chwaith) i ddisgrifio’r meddylfryd hwn, er enghraifft mae’n galw The Breakdown of Global Capitalism: 2000-2030 – Preparing for the beginning of the collapse of industrial civilization gan yr ecolegydd Ramón Fernández Durán (2011) “an unremittingly disconsolate, secular Book of Revelation.” Fe ddeuwn yn ôl yn y man at Durán ac at Lyfr Datguddiad.
Apocalyptic Cristnogol
Mae apocalyptic Cristnogol i’w gael nid yn unig yn Llyfr Datguddiad, ond mewn mannau eraill yn y Testament Newydd hefyd. Mae 2 Pedr 3.7 yn cofio dinistr y byd gan lifogydd yn amser Noa, ac yn dweud …mae Duw wedi gorchymyn fod y nefoedd a’r ddaear bresennol wedi’u cadw i fynd trwy dân. Ie, wedi’u cadw ar gyfer dydd y farn…. (beibl.net). Mae dywediadau apocalyptaidd wedi’u priodoli i Iesu yn ‘yr apocalyps bach’, lle mae digwyddiadau erchyll yn rhagarfaethu “y dydd y daw eich Arglwydd” fel lleidr yn y nos (Mathew 24.42-43, BCND).
Mae J.J. Collins (1990, t. 304) yn nodi “Christian theologians have often viewed [llenyddiaeth apocalyptaidd] with suspicion because of its obscure imagery and fanatical tendencies.” Bu’r amheuon weithiau yn rhai teg, yn enwedig yn achos defnydd ffwndamentalaidd cyfoes o’r deunydd yma. Mae’r rhan fwyaf o Gristnogaeth geidwadol wedi gweld apocalyptic yn alwad am edifarhad a newid crefyddol gan unigolion, heb unrhyw gysylltiad â newid hinsawdd. Er enghraifft, mae’r esboniad ar 2 Pedr 3.7 (yr adnod am ddinistrio’r ddaear trwy dân yn hytrach na thrwy lifogydd) gan Simply Bible.com (2011), yn gorffen trwy ddweud, “From the flood to the fire people have been misled and have fallen from steadfast holiness. So during your short time on earth, look for the Lord’s coming and repent; grow in holiness and grace; be on guard against error [gan olygu anghywirdeb diwinyddol] that might lead you astray.”
Ond Llyfr y Datguddiad sy’n benthyg ei hun yn fwyaf amlwg i drafod newid hinsawdd. Gwrandewch ar rai adnodau o bennod 8, wrth i’r utgyrn seinio:
Seiniodd yr [angel] cyntaf ei utgorn. Yna daeth cenllysg a thân, yn gymysg â gwaed, ac fe’u bwriwyd ar y ddaear. Llosgwyd traean o’r ddaear, llosgwyd traean o’r coed, llosgwyd pob porfa las.
Seiniodd yr ail angel ei utgorn. Yna taflwyd i’r môr rywbeth tebyg i fynydd mawr yn llosgi’n dân. Trodd traean o’r môr yn waed, a bu farw traean o greaduriaid byw y môr, a dinistriwyd traean o’r llongau.
Seiniodd y trydydd angel ei utgorn. Yna syrthiodd o’r nef seren fawr yn llosgi fel ffagl; syrthiodd ar draean o’r afonydd ac ar ffynhonnau’r dyfroedd. Enw’r seren yw Wermod, a throdd traean o’r dyfroedd yn wermod, a bu farw llawer o bobl o achos chwerwi’r dyfroedd
[Datguddiad 8.7-11, BCND].
Dwy ddim yn credu i John ar Patmos ragweld yr argyfwng hinsawdd, ond does dim rhaid meddu ar ormod o ddychymyg i weld yn y bennod hon tanau gwyllt ein dyddiau ni, asideiddio’r moroedd, a difwyno dŵr yfed, heb sôn am ladd traean o greaduriaid y môr. Yn wir, mae’r ddynoliaeth wedi llwyddo i ladd dau draean o greaduriaid y môr er 1950 heb gymorth unrhyw angel (WWF, 2020). A wedyn mae’r locustiaid (Datguddiad pennod 9), llifogydd (12.15) a diflaniad yr ynysoedd (16.20).
Pan yw dinas ofnadwy Babilon (sef Rhufain) yn syrthio ym mhennod 18, Bydd masnachwyr y ddaear yn wylo a galaru amdani, oherwydd nid oes neb mwyach yn prynu eu nwyddau, eu llwythi o aur ac arian, o emau gwerthfawr a pherlau, o liain main a sidan, o borffor ac ysgarlad; eu llwythi o bob pren persawrus ac o bob gwaith ifori a gwaith pren drudfawr neu bres neu haearn neu farmor; eu llwythi o sinamon, sbeis a pherlysiau, o fyr a thus, o win ac olew, o flawd mân a gwenith, o wartheg a defaid, o geffylau a cherbydau, o gaethweision a bywydau pobl (Datguddiad 18.11-13, BCND) [Gyda llaw, fe ddywedir weithiau nad oes unrhyw gondemniad o gaethwasiaeth yn y Testament Newydd. Onid dyma’r condemniad – bod dinas anfad Babilon yn masnachu bywydau pobl?]
Ond nid pob arweinydd Cristnogol sy’n cysylltu penodau o’r fath â newid hinsawdd. Er enghraifft, fel yr adroddwyd gan Newyddion ABC yn 2008: “…evangelists like Ken Han, founder and CEO of Answers in Genesis and the Creation Museum in Petersburg, Ky., believe God – not man – is at work in recent weather phenomena. “There is earthly death payment for sin,” said Han. “Because of sin, God doesn’t hold the world perfectly together at times, and he uses certain events to judge a nation.” …When the world sins, “the whole of creation groans,” according to Han’s interpretation of a Biblical passage in Romans. Those groans are reflected in recent tornadoes and storms. “If you carefully look at events there are certain catastrophes,” said Han. “But God is in control and it’s not God’s fault, it’s our fault because we sinned against God.” (James, S.D., 2008)
Ar yr eithaf, efallai y bydd rhai Cristnogion yn croesawu’r newid yn yr hinsawdd a’r diwedd, gan gredu bod Llyfr Datguddiad hefyd yn nodi y bydd Cristnogion (neu o leiaf y math cywir o Gristnogion) yn cael eu hachub. Y locus classicus ar gyfer hyn yw’r Rapture Ready End Times News, gyda Behold, I come quickly (Datguddiad 3.11, KJV) ar ben y dudalen a ddiweddarir yn ddyddiol â’r trychinebau diweddaraf (os ydych chi’n mwynhau newyddion drwg, gallwch chi lawrlwytho’r ap i’ch ffôn). Er mai anaml, os o gwbl, y bydd y geiriau ‘newid hinsawdd’ yn ymddangos ar y safle, mae cysylltiad clir rhyngddo a llawer o’r digwyddiadau yr adroddir amdanynt. Un o’r prif straeon ar 17 Ebrill 2021, er enghraifft, oedd “Typhoon Surigae could become Earth’s first Category 5 of 2021, heads towards the Philippines this weekend”. Dau eitem yn ddiweddarach mae’r efengylydd Franklin Graham yn rhybuddio bod “barn Duw yn dod”a bod angen i ni “fynd ar ein gliniau ac edifarhau”- ond mae’n troi allan mai’r hyn sydd ganddo mewn golwg yw nid newid hinsawdd, nac yn wir teiffŵn Surigae, ond canlyniad etholiad Arlywyddol 2020 yr Unol Daleithiau.
Mae’r demtasiwn i anwybyddu hyn i gyd yn cynyddu wrth sylweddoli fod hanes Cristnogaeth yn drwch o gau broffwydoliaethau am ddiwedd y byd. Mae Paula Clifford yn adrodd yr hanes yn ddifyr iawn yn ei llyfr A Brief History of End Time: Prophecy and Apocalypse, Then and Now (2016). I rai, mae holl gau broffwydoliaethau’r gorffennol yn ddigon o reswm i ychwanegu newid hinsawdd i’r un categori. Mae’n bwysig nodi nad dyna farn Paula Clifford ei hun, gan iddi hefyd ysgrifennu llyfr dan nawdd Cymorth Cristnogol yn rhybuddio’r eglwysi o ddifrifoldeb y sefyllfa, yn dwyn y teitl arwyddocaol ac apocalyptaidd, yn deillio o bennod 8 Llyfr Datguddiad y cyfeiriwyd ato uchod, Angels with Trumpets (2009).
Mae’r awydd i beidio â chael ei chysylltu â mudiadau eithafol eu cred wedi arwain Cristnogaeth fwy canol y ffordd, ryddfrydol, i ddewis fframio’r argyfwng hinsawdd nid mewn termau apocalyptaidd, ond ar ffurf hybu newidiadau i ffyrdd o fyw unigolion. Mae cyrsiau Grawys yn 2020 a 2021 yn cynnig llu o enghreifftiau o hyn (e.e. Eglwys Loegr, 2020; Joint Public Issues Team, 2020; USPG, 2021; ond diddorol gweld fod yr York Course yng Ngrawys 2021 [Davis, 2021] tipyn yn fwy heriol, yn cyfeirio’n agored at “argyfwng” hinsawdd).
Apocalyptic seciwlar newid hinsawdd a’i feirniaid
Mae gan y byd seciwlar yr hyn sy’n cyfateb i’r alwad Gristnogol efengylaidd i edifeirwch unigol a’r alwad Gristnogol ryddfrydol i newid ffordd o fyw. Mae gwefan People for the Ethical Treatment of Animals (PETA, 2020), o dan y pennawd ‘Fight Climate Change by Going Vegan’ yn dweud, “If you’re serious about protecting the environment, the most important thing that you can do is stop eating meat, eggs, and dairy ‘products’” (pwyslais gwreiddiol). Mae Cyfeillion y Ddaear (2020) yn annog darllenwyr eu gwefan “Put the brakes on climate breakdown” trwy hedfan llai, defnyddio cludiant cyhoeddus neu newid i gar trydan. Mae WWF (2020) yn awgrymu wrth ddarllenwyr ei gwefan hi “Help take action on climate change now, by making a lifestyle change. Learn more about how changing your diet, how you travel and even what you buy can reduce your impact on the environment by taking part in our Footprint Calculator.” Er bod y tair gwefan yn cynnwys hefyd galwadau am newid polisi gan lywodraethau, mae’r geiriad yn awgrymu bod atebion i newid hinsawdd yn gorwedd i raddau helaeth yn nwylo unigolion – ys dywed ambell Gristion, edifarhewch ac fe’ch achubir.
Mae’r ddadl unigolyddol seciwlar hon yn cael ei beirniadu gan nifer fawr o awduron, megis Elaine Graham-Leigh (2015), Leigh Phillips (2015) ac Aaron Bastani (2019). Fel y mae The Guardian (Beckett, 2019) yn dweud wrth adolygu llyfr Bastani Fully Automated Luxury Communism: A Manifesto, “You don’t have to share his confidence about [atebion technolegol i ofidiau amgylcheddol “terfynol”] to agree with his suggestion that the apocalyptic is a mode that the media and many of its consumers slip into too easily – sometimes for commercial or psychological rather than rational reasons…” Mae Giorgos Kallis (2019, p. 97) yn ei lyfr Limits: Why Malthus Was Wrong and Why Environmentalists Should Care yn nodi y gall pobl rymus gymryd mantais ar apeliadau ar unigolion i ymddwyn yn gyfrifol – “Like with Malthus, those with power often single out a weaker group to limit in the name of the common good – be it the poor, the foreigners, those of different skin color, or the immigrants.”
Felly mae Phillips a Bastani yn diystyru pryderon ‘apocalyptaidd’, gan ddadlau nad oes terfynau i dwf nac i’r hyn y gall yr hil ddynol ei gyflawni – y cyfan sy’n rhaid i ni ei wneud yw credu. Maen nhw’n enghreifftiau trawiadol, mewn gwirionedd, o ffydd anghrefyddol. Rhaid i mi ddweud fy mod i’n cael eu llyfrau yn gwbl anghredadwy – y peth gorau amdanynt, yn y ddau achos, yw’r teitl. Mae pethau’n dirywio ar ôl i chi ddechrau darllen y testun.
Mae’r mwyafrif o awduron seciwlar yn derbyn difrifoldeb y sefyllfa, ac hefyd yn dadlau nad yw newid unigol yn ddigonol, dim ond newid y system fydd yn gwneud y tro. Er enghraifft, mae Hill & Martinez-Diaz (2020), mewn erthygl o’r enw ‘Adapt or Perish’, yn galw am ystod o newidiadau systemig yn null gweinyddiaeth Unol Daleithiau’r America, er eu bod nhw’n syrthio’n brin o awgrymu newid y system gyfalafol ei hun. Mae eraill, fel Clark & York (2005) ac Elaine Graham-Leigh (2015) yn gweld y sefyllfa yn yr un modd â Naomi Klein – Cyfalafiaeth yn erbyn yr Hinsawdd (Klein, 2015, Capitalism vs the Climate, yr is-deitl i This Changes Everything – er bod argraffiad clawr papur Penguin yn hepgor yr is-deitl). Maen nhw’n dadlau mai dim ond tranc cyfalafiaeth all atal newid trychinebus yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, does yr un ohonynt yn cynnig glasbrint ar sut i symud o’r system gyfredol i drefn newydd y dyfodol. Gweledigaeth sydd ganddyn nhw, yn hytrach na chynllun – apocalyps (datguddiad, gweledigaeth) yn yr ystyr lythrennol, felly.
Themâu cyffredin a gwrthgyferbyniol yn yr apocalyptic seciwlar a’r apocalyptic Cristnogol
Mewn apocalyptic Cristnogol mae yna berygl ychwanegol, fel y dywed Maggi Dawn, gan grynhoi Robert Beckford (mewn cyd-destun gwahanol) – “a community can be disempowered if its people find too much solace in the promise of heaven, and rather than marshalling anger to right the situation they can accidentally end up colluding with the very system that visits injustice on them” (Dawn, 2020, t. 177)
Nid yw’r pryder ynghylch priodoldeb diwinyddol llenyddiaeth apocalyptaidd yn newydd – yn yr 16eg ganrif ystyriodd Martin Luther eithrio Datguddiad (ynghyd â sawl llyfr arall) o’i gyfieithiad o’r Testament Newydd i’r Almaeneg, er iddo yn y diwedd ei gynnwys; mae’r cyfieithydd modern o Gymru, John Henson, fodd bynnag, yn gadael Datguddiad allan o’i gyfieithiad Good as New (Henson, 2004).
Yn y maes seciwlar, mae Erik Swyngedouw (2010, t. 219) yn dadlau fod cyfalafiaeth, “y mae rheoli ofn yn leitmotif canolog iddi”, yn hyrwyddo delweddaeth apocalyptaidd er mwyn tynnu mater yr hinsawdd o’r maes gwleidyddol, cael gwared ar unrhyw obaith am achubiaeth [nodwch y gair crefyddol!] ac felly diarfogi pobl filwriaethus. Mae ef felly yn gweld apocalyptic seciwlar yn yr un ffordd y mae llawer o Gristnogion rhyddfrydol yn gweld apocalyptic Cristnogol – llenyddiaeth anobaith sy’n wrthgynhyrchiol ac y dylid ei anwybyddu.
Gwelir yr un duedd yn yr ymateb i bapur arloesol Jim Bendell (2020, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2018) Deep Adaptation. Nid oedd unrhyw gyfnodolyn academaidd yn barod i’w gyhoeddi. Yng ngeiriau Bendell ei hun yn ei Grynodeb, daw i’r casgliad “there will be a near-term collapse in society with serious ramifications for the lives of readers. The paper does not prove the inevitability of such collapse, … but it proves that such a topic is of urgent importance. … The paper offers a new meta-framing of the implications for research, organisational practice, personal development and public policy, called the Deep Adaptation Agenda. Its key aspects of resilience, relinquishment, restoration and reconciliation are explained. This agenda does not seek to build on existing scholarship on “climate adaptation” as it is premised on the view that societal collapse is now likely, inevitable or already unfolding. The author believes this is one of the first papers in the sustainability management field to conclude that climate-induced near-term societal collapse should now be a central concern for everyone, and therefore to invite scholars to explore the implications.”
Meddai un o’r adolygwyr dienw a’i gwrthododd, “I was left wondering about the social implications of presenting a scenario for the future as inevitable reality, and about the responsibility of research in communicating climate change scenarios and strategies for adaptation. As the authors pointed out, denial is a common emotional response to situations that are perceived as threatening and inescapable, leading to a sense of helplessness, inadequacy, and hopelessness and ultimately disengagement from the issue…” (dyfynnir gan Bendell, 2018). Er gwaethaf pryderon yr adolygydd, fodd bynnag, dadl Bendell yw y gall rhybuddion apocalyptaidd o’r fath fod yn alwad i weithredu yn hytrach nag i anobeithio. A dyna’n dwyn ni yn ôl i Lyfr Datguddiad.
Llyfr Datguddiad
Yn achos llenyddiaeth apocalyptaidd Hebraeg a Christnogol, dywed Jean-Pierre Prévost (1991, t. 18), “The apocalypses came into being at a time of crisis, or at least they perceive present history as critical and tormenting.” Ar un adeg, roedd esbonwyr Beiblaidd yn credu i Lyfr Datguddiad gael ei ysgrifennu yng nghanol erledigaeth dreisgar ar yr eglwys Gristnogol gan yr Ymerodraeth Rufeinig. Y farn gonsensws nawr (Williams, 2002, tt 10-11) yw iddo gael ei ysgrifennu mewn gwirionedd yn ystod teyrnasiad yr Ymerawdwr Domitian, cyfnod o liniaru ar yr erlid ar Gristnogion. Mae’r llyfr – yn enwedig y llythyrau at saith eglwys yn Asia Leiaf ym mhenodau 2 a 3 – yn beirniadu’r rhai a fu’n barod i gyfaddawdu yn ystod yr erledigaeth, ac yn annog pawb i wynebu’r hyn a all ddigwydd nesaf. I gyffredinoli’n aruthrol (a byddai angen darlith arall i fynd ar ôl hyn), yr amseroedd tawel hynny yw’r rhai mwyaf heriol. Mewn argyfwng, bydd adrenalin yn ein cynnal – fel y llywiodd cymaint o bobl trwy holl helbulon Covid. Yr hyn sy’n anodd yw goroesi un argyfwng a gwybod bod un arall ar y ffordd – wedi’r cyfan, sut ydych chi’n teimlo am y syniad o droi’r ailagor yn ôl oherwydd amrywiolyn Delta Covid-19?
Ac efallai mai natur ddi-baid y trychinebau yn Llyfr Datguddiad sy’n golygu nad yw’n cael ei werthfawrogi yn y Gorllewin. Pan wnaed y Beibl Saesneg yn hygyrch yn y 1960au gan y New English Bible (NEB), cyhoeddwyd cyfres ddefnyddiol o esboniadau ochr yn ochr ag ef. Ond yn yr esboniad ar Lyfr Datguddiad, mae T.F. Glasson (1965), Athro’r Testament Newydd yn New College, Llundain, yn brin iawn ei ganmoliaeth o’r testun. Dywed am y penodau apocalyptaidd 6-16, “it must be admitted that these central chapters … do not convey as much to a modern reader as chapters 1-5 and have not the same enduring value.” (t. 47), ac am bennod 18 – y disgrifiad o gwymp Babilon Fawr – fe ddywed “There is hardly a phrase which is specifically Christian” (t. 101).
Ond mae darllenwyr mewn mannau eraill yn darganfod gwerth parhaol a sylwedd Cristnogol ynddynt. Fel y dywed Wess Daniels (2019, t. 39), mae penodau o’r fath yn “well known to the poor of Central and South America. Firoenza suggests that one reason these texts often lack power for us is because we are reading them from a position of power. Adopting a middle-class, privileged reading means we lack the experiences these texts are talking about, and so we read them out of context. Could it be that the people who feel particularly uncomfortable with the struggle in Revelation are the same people who experience discomfort acknowledging race, class, and privilege?”
O’r tu allan i Gristnogaeth, fe fu Friedrich Engels (1883), cydweithiwr Karl Marx, yn tafoli Llyfr Datguddiad mewn ffordd debyg, gan ddyfynnu sylw Ernest Renan fod y cymunedau Cristnogol cynnar yn ymdebygu nid i “the parish congregations of our day; they were rather like local sections of the International Working Men’s Association” (t. 180). Wedi eu cyfeirio at gymunedau bychain dan orthrwm yn y ganrif gyntaf, roedd Llyfr Datguddiad yn gweld newid yn ‘y drefn’ a chwymp yr Ymerodraeth Rufeinig (yn enwedig felly pennod 18 yn disgrifio cwymp ‘Babilon Fawr’), ond ymateb unigolyddol a gafwyd gan y sawl a’i clywodd gyntaf, gan eu bod yn bobl prin eu grym a’u dylanwad.
Apocalyps a phryder, galar a dewrder
Yn ein hoes ni, mae Giorgos Kallis (2019, t. 119) yn nodi rôl gyfoes crefydd wrth feithrin ymysg unigolion ffordd o fyw sy’n ymfodloni ar lai o bethau materol, a gall hyn ysbrydoli pobl eraill. Fodd bynnag, cyfyng yw gallu’r unigolion hynny i gyflawni’r newid systemig sydd ei angen i osgoi trychineb – yn union fel yr oedd yn y ganrif gyntaf.
Mewn mudiadau apocalyptaidd crefyddol a seciwlar, gall hyn arwain at drafferthion sylweddol. Mae Engels (1883, t. 181) yn nodi am Gristnogaeth a sosialaeth fel ei gilydd, eu bod i’w gweld “in the form of a variety of sects, and more so a series of conflicting individual perspectives – some clearer, some more explicit. more confusing, and the second is the vast majority…”. Yn yr 21ain ganrif, mae mudiadau fel Gwrthryfel Difodiant yn dueddol iawn o gecru’n fewnol ac ymrannu yn amryfal grwpiau bychain.
Fel y nododd adolygydd Bendell, gall y sawl sy’n rhan o fudiadau o’r fath ddioddef gan bryder dwfn. Dywed y Climate Psychology Alliance (2020), “Climate anxiety is spreading and beginning to permeate therapists’ consulting rooms. Many of climate change’s ‘canaries’, those such as activists and scientists, are at times having to face unmanageable feelings of despair, anger and grief….” Mae awduron megis Leigh Phillips (2015) yn beio’r naratif apocalyptaidd am y teimladau hyn, ond dywed y Climate Psychology Alliance, “… we need to hold the tension between hope and despair, between complacency and alarmism, between action and reflection. When these tensions are successfully held a vision emerges which can attract an engagement that is both practical and creative.”
Yn gyffredinol, mae hyd yn oed yr actifyddion hinsawdd ymhlith Cristnogion y Gorllewin wedi bod yn swil o fynegi gweledigaeth apocalyptaidd. Gwnaeth Operation Noah (elusen Gristnogol sy’n ymgyrchu dros wyro oddi wrth danwydd ffosil) ddefnydd o iaith apocalyptaidd yn Nhachwedd 2018, wrth drafod ei pherthynas â Gwrthryfel Difodiant a’i adain Gristnogol, Christian Climate Action: “Children alive today in the UK will face unimaginable horrors as a result of floods, wildfires, extreme weather, crop failures and the inevitable breakdown of society, when the pressures are so great.” (Operation Noah, 2018). Ond mae gweddill ei wefan yn cadw at naratif mwy confensiynol: “While facing up to the serious effects of global warming, despair is not an option for Christians. We are called to faith and action in a trusting response to God. As Christians we can live in hope, despite the dangers that threaten us.” (Operation Noah, 2020).
Roedd yr ebost a ddanfonwyd at gefnogwyr Cymorth Cristnogol ar gyfer Wythnos Cymorth Cristnogol ym Mai 2021 yn dwyn y pennawd “help stop the climate crisis”. Ond roedd y deunydd addoli yn eu hannog i wneud defnydd o “alarnad a gobaith apocalyptaidd” y proffwydi Hebraeg. Dyma ddechrau nodiadau pregeth Hannah Malcolm:
“We are entering an era of climate chaos. The news is increasingly dominated by extreme weather events. Anxiety, grief and anger related to climate breakdown are at an all-time high.
• Recent years have seen an increase in dystopia/ apocalyptic stories in popular culture, especially on television and in film.
• The prophetic apocalyptic texts in the Bible are part of the word of God. They can speak to us today, if we let them. (Cymorth Cristnogol, 2021)
Byddai’n ddiddorol gwybod faint o bobl fu’n defnyddio’r bregeth hon, o’u cymharu â’r bregeth amgen yn dwyn y teitl “Water, praise, love and joy”.
Fel y nodwyd eisoes, ffenomen y byd cyfoethog yw’r osgoi ar destunau apocalyptaidd ymhlith Cristnogion cyfoes. I’r gwrthwyneb, yn ôl Engels (1894, t. 275), roedd Cristnogaeth gynnar y gorllewin a esgorodd ar Lyfr Datguddiad yn “movement of oppressed people: it first appeared as the religion of slaves and freed men, of poor people deprived of all rights, of people subjugated or dispersed by Rome.” Yn yr un modd, yn y byd cyfoethog y gwelir pryder ymhlith y sawl sydd am hybu gweithredu am yr hinsawdd am wedd ‘negyddol’ iaith apocalyptaidd. Mae Kleres & Wettergren (2017, t. 516) yn nodi’r ystyron gwahanol a roddid i ‘ofni’ newid hinsawdd ymhlith actifyddion y gogledd a de y byd a gyfwelwyd ganddynt yn ystod COP21 – y gynhadledd a arweiniodd at Gytundeb Paris 2015. “The quotes from the south … differ from the pattern of northern activists by not picturing climate change as an abstract future threat. The source of fear is not imagined but present and acute.”
Wyddom ni ddim eto beth ddaw o’r byd hwn sy’n ofni’r newid yn yr hinsawdd. Ond fe wyddom beth ddigwyddodd i’r Cristnogion hynny oedd yn ofni’r Ymerodraeth Rufeinig. Mae John Michael Greer (2017, tt 98-9) yn Dark Mountain 12 yn gwneud y sylw pwysig hwn: “the principal force that attracts people to a newly founded religion is the power of example. What transformed Christianity from a fringe cult surrounding a minor Jewish religious figure to a massive social and religious force in the Roman world, more than anything else, was the simple fact that so many of its early believers were prepared to ignore the collective consensus of their society and, if necessary, emulate the founder of their faith and die for their beliefs. There were plenty of other new religions in the late Roman world; most of them made comfortable compromises with the social and spiritual habits of their time; today they are remembered only by specialist scholars.” Dyna pam bod penodau 2 a 3 Llyfr Datguddiad yn rhybuddio’r saith eglwys yr ysgrifennir atynt am un perygl yn arbennig – sef cyfaddawdu â’r Ymerodraeth.
Nid anobaith oedd canlyniad y Gristnogaeth apocalyptaidd honno, ond yn hytrach merthyrdod, dewrder ac arwriaeth ar raddfa anghyffredin. Daeth Cristnogaeth (yn ei hamryfal ffurfiau) yn grefydd fwyaf y blaned am y rhan fwyaf o’r canrifoedd dilynol. Felly beth ddigwyddodd i’r naratif apocalyptaidd? Rydym eisoes wedi clywed ei fod yn fyw ac yn iach ymhlith y tlawd a’r gorthrymedig heddiw. Ond beth amdanom ni orllewinwyr dosbarth canol? Gan Greer y ceir yr ateb. Dros ddwy fil o flynyddoedd, fe droes y Gristnogaeth gynnar apocalyptaidd, chwyldroadol, ferthyrol honno yn ‘Anthropolatry’ – addoli’r ddynoliaeth. Fel y clywsom, mae llawer sy’n wirioneddol bryderus am yr argyfwng hinsawdd – p’un ai ydynt yn Gristnogion, neu – fel Bastani – yn Farcsiaid – yn credu y gall y ddynoliaeth y maent yn ei haddoli ddatrys y sefyllfa. Fel y dywed Greer,“That blind faith remains welded in place even as decades slip past, one supposed solution after another fails, and the stark warnings of forty years ago have become the news stories of today. Nothing is changing except that the news just keeps getting worse. That’s the simple reality of the predicament in which we find ourselves today. Our way of life, here in the world’s industrial nations, guarantees that in the fairly near future no-one anywhere on the planet will be able to live the way we do. As resources run out, alternatives fail and the destructive impacts of climate change pile up, industrial humanity’s blind faith in its own omnipotence faces a shattering disconfirmation,”(Greer, 2017, p. 95) – neu, gallem ddweud, mae’n wynebu apocalyps.
Felly a all cymunedau bychain, ofnus, y sawl sy’n wirioneddol ymrwymedig yn ecolegol wneud yr hyn wnaeth y cymunedau bychain, ofnus, o Gristnogion? Mae Cassegård (2015) yn credu i fethiant COP21 (cynhadledd Paris) i wneud mwy, esgor yn rhai o’r ymgyrchwyr siomedig oedd yno ar “what might be called a post-apocalyptic sensibility. By that I mean a sensibility that becomes dominant when people start to experience themselves as victims of a loss that they are powerless to prevent or that has already occurred. … The post-apocalypse, then, doesn’t mean that things won’t get any worse. They may certainly grow worse. But while preventing that, people must also redress wrongs, help victims and do what they can in the ruins…. Since the apocalypse is socially and geographically uneven, issues such as justice and inequality are likely to become permanent features of environmentalist discourse. … Lastly, recovery and salvage may very well become major goals of much environmental activism, along with older goals such as preserving nature or limiting damage.”
Ys dywedodd Vaclav Havel (a ddyfynnir gan O’Brien, 2010, t. 30) mewn cyd-destun cynharach: “Hope is definitely not the same thing as optimism. It is not the conviction that something will turn out well, but the certainty that something makes sense, regardless of how it turns out.” Dywed O’Brien mai’r hyn a wna’r gobaith hwn yw “mourns the past, while it anticipates the future. Those who hope live … ‘as if,’ as if the world was as it should be, as it could be. It is an act of defiance, one that exhibits freedom.” (tt 33-34). Dyna’n union yr ymateb ôl-apocalyptaidd y gobeithiai Jim Bendell ei feithrin yn Deep Adaptation – cysyniad gweithredol yw addasu. Nid Deep Despair oedd enw’r erthygl – ei adolygwyr, yn gaeth i Anthropolatri’r oes, fu’n anobeithio ac yn ceisio atal ei gyhoeddi.
Mae Swyngedouw (2013, t. 12) yn awgrymu fod apocalyptic yr hinsawdd yn sylfaenol wahanol i apocalyptic y Beibl. “Saint John’s biblical apocalypse … found its redemption in God’s infinite love, while relegating the outcasts to an afterlife of permanent suffering. … The environmental apocalypse, in contrast, … is not immediate and total (but slow and painful), not revelatory (it does not announce the dawn of a new rose-tinted era); no redemption is promised (for the righteous ones), and there are no outcasts. Indeed, if the boat goes down, the first-class passengers will also drown.”
Ond fe all fod Swyngedouw yn camgymryd natur apocalyptic yr hinsawdd. Mae cyfweliad â chyd-sylfaenydd Gwrthryfel Difodiant, Gail Bradbrook, yn gorffen fel hyn: “… after a pause, she began to imagine a couple of scenarios: one dystopian, one utopian. In the first, humanity destroys itself, ‘and perhaps the universe learns something from that’. In the second, a truly global citizens’ assembly is established, humanity reunites, and we ‘use the sort of energy that has previously been used in a war to go into a rapid healing situation. It is all possible.’ She paused again, before adding: ‘I can’t think of anything else I would rather do with my life. It is such an honour to try. What else can we all do?’” (Taylor, 2020).
Dywed Durán (2011, t. 96) “The catastrophe has the possibility to be a midwife to new times. … It is time to think of the catastrophe as a new opportunity to intervene and transform reality. There is no other option than to live with it, taking advantage of it if that is possible while being aware of the tough times that are ahead.” Efallai fod hyn yn cadarnhau disgrifiad Leigh Phillips (gweler uchod) o waith Durán fel Llyfr Datguddiad seciwlar, nid oherwydd unrhyw anobaith ynddo, ond am ei fod yn alwad i weithredu yn wyneb grymoedd gorlethol. Mae’r diwinydd Catholig J.J. Collins (1990, t. 304) yn dweud am destunau apocalyptaidd y Beibl fod eu gwerth yn gorwedd “in their ability to envision alternatives to the world of present experience and thereby to provide hope and consolation.”
Cofier bod Llyfr y Datguddiad yn gorffen, ar ôl yr holl drychinebau, y mil blynyddoedd a dydd y farn, gyda’r addewid hwn – addewid a glywir yn y gorllewin erbyn hyn yn bennaf mewn angladdau – Yna gwelais nef newydd a daear newydd; oherwydd yr oedd y nef gyntaf a’r ddaear gyntaf wedi mynd heibio, ac nid oedd môr mwyach. A gwelais y ddinas sanctaidd, y Jerwsalem Newydd, yn disgyn o’r nef oddi wrth Dduw, wedi ei pharatoi fel priodferch wedi ei thecáu I’w gŵr. Clywais lais uchel o’r orsedd yn dweud, “Wele, y mae preswylfa Duw gyda’r ddynoliaeth; bydd ef yn preswylio gyda hwy, byddant hwy yn bobloedd iddo ef, a bydd Duw ei hun gyda hwy, yn Dduw iddynt. … Yna dangosodd yr angel imi afon dŵr y bywyd, yn ddisglair fel grisial, yn llifo allan o orsedd Duw a’r Oen, ar hyd canol y ddinas. Ar ddwy lan yr afon yr oedd pren y bywyd, yn dwyn deuddeg cnwd, gan roi pob cnwd yn ei fis; ac yr oedd dail y pren er iachâd y cenhedloedd. (Datguddiad 21.1-4 & 22.1-2, BCND).
Fel y dywed Wess Daniels (2019, t. 124), “John tells his people (here in chapter 21) living under the Roman empire in the first century that God’s holy city is coming down right in the middle of that Roman city. God is dwelling with you in the midst of all of the pain, suffering, and oppression. You are called to be faithful even when you are being crushed. Be that holy city and a light to the nations. Come out of empire. Reject the practices of the imperial religion that lead to adultery. Have no illusions. Don’t be duped by the emperor’s sorcery. Be that alternative community – the multitude – that rejects the beastly economics of the empire, and follow the lamb that was slain. He will lead you to life and victory. This is happening right now, right here. You don’t have to wait. God is with you now. Now is the time of victory, so live as though that reality is here.”
Mae Durán yn ei ‘Lyfr Datguddiad seciwlar’ yn disgrifio’r ‘nef newydd a’r ddaear newydd’ fel hyn: “The new economies … will be based on re-usage, recycling and environmental sanitation of an urban-agro-industrial system in decomposition. This will involve recovering part of the pre-industrial and simple industrial technologies that have been displaced by the power and the complexity of a hyper-technological society. The technological remains of this society will probably continue to be used in a partial and declining form over time,…. Later in the mid- and long-term it will be essential to continue developing a simple technology that makes it possible to journey to eco-technical societies” (t. 106).
Y tro cyntaf i mi glywed darlith am Lyfr y Datguddiad oedd gan yr Athro John Fenton ym Mhrifysgol Rhydychen. Ar ôl y ddarlith fe ofynnodd un myfyriwr iddo – beth ddylem ni ei wneud felly? Ac ateb John Fenton – “Ymunwch â Greenpeace”. Ac fe wnes i.
Mae Llyfr Datguddiad, Deep Adaptation a Greenpeace fel ei gilydd yn defnyddio grym y dychymyg i weld o bell y dydd yn dod, a’i ddwyn i fodolaeth. Mae’r mudiad ôl-apocalyptaidd seciwlar, Dark Mountain, hefyd yn anelu at ryddhau grym y dychymyg a’r holl gelfyddydau creadigol i’n helpu i ymdopi â galar ac ofn yr oes bresennol. Mae Cyfrol 19 y gyfres, Requiem, a lansiwyd fis Ebrill 2021 (Campbell, Pocock & McLane, 2021), yn cynnwys yn ei enw gydnabyddiaeth o natur yr oes dywyll bresennol – wedi’i ysbrydoli gan yr angladd a gynhaliwyd yn 2019 am y rhewlif cyntaf yng Ngwlad yr Iâ i ddiflannu’n llwyr, mae’n recwiem ar gyfer rhywogaethau sy’n cael eu difodi, bioamrywiaeth sy’n darfod a phobl sy’n marw.
O fewn Cristnogaeth, mae awydd tebyg yn codi am alarnadu a gweithredu, a rwy’n argymell cyfrol rymus olygwyd gan Hannah Malcolm (2020), Words for a Dying World: Stories of Grief and Courage from the Global Church. Nodwch y teitl – galar a dewrder ar y cyd.
Nid rhywbeth newydd yw hyn i’r ffydd Gristnogol, hyd yn oed yma yn y gorllewin. I Gristion o Gymro fel fi, mae’r enw Dark Mountain yn dwyn i gof yr emyn “Dros y bryniau tywyll, niwlog” – emyn a ysgrifennwyd yn y Gymraeg a’r Saesneg gan William Williams, Pantycelyn ym merw diwygiad Methodistaidd y 18fed ganrif. Roedd e’n gwybod digon am fryniau tywyll niwlog – roedd e’n marchogaeth drostyn nhw bob dydd o’i weinidogaeth yn Llanymddyfri i’w gartref ym Mhantycelyn. Ond nid y tywyllwch oedd Pantycelyn yn ei weld. Mae Pantycelyn yn cyfeirio ar ddiwedd yr emyn at “dir Emaniwel”. Enw a ddefnyddir ym Mathew 1.23 i gyfeirio at Iesu yw Emaniwel, sy’n golygu “Duw gyda ni”. Y ddaear hon yw tir Emaniwel, nid rhyw fan gwyn fan draw, a dros y tir hwnnw y gwelai Pantycelyn y wawr yn torri.
Rhwng y ddau bennill fe osodais eiriau Saesneg o faniffesto Dark Mountain – maniffesto’r bryniau tywyll niwlog yn yr 21ain ganrif.
Dros y bryniau tywyll niwlog,
Yn dawel, f’enaid, edrych draw –
Ar addewidion sydd i esgor
Ar ryw ddyddiau braf gerllaw:
Nefol Jiwbil,
Gad im weld y bore wawr.
“The end of the world as we know it is not the end of the world full stop. Together, we will find the hope beyond hope, the paths which lead to the unknown world ahead of us.” (Kingsnorth & Hine, 2009).
Gwawria, gwawria, hyfryd fore,
Ar ddiderfyn fagddu fawr,
Nes bod bloedd yr euraid utgorn
Yn atseinio’r nen a’r llawr,
Holl derfynau
Tir Emaniwel i gyd!
Llyfryddiaeth
Cyfieithiadau o’r Beibl y cyfeirir atynt
BCND – Y Beibl Cymraeg Newydd: Argraffiad diwygiedig (Cymdeithas y Beibl, 2004)
beibl.net – beibl.net (Cymdeithas y Beibl, 2015)
Henson, J. (2004), Good as New: A Radical Retelling of the Scriptures (O Books)
KJV – The Bible: Authorized King James Version (Oxford World’s Classics, Oxford University Press, 1997)
NEB – The New English Bible: New Testament (arg. 1af, 1961; 2il arg. yn rhan o’r Beibl cyfan, 1970; Gwasg Prifysgol Rhydychen & Gwasg Prifysgol Caergrawnt)
Llyfrau ac erthyglau – Llyfr Datguddiad
Bauckham, R. (2000), ‘Revelation’ yn J. Barton & J. Muddiman (gol.), The Oxford Bible Commentary (Oxford University Press)
Brown, R.E., Fitzmeyer, J.A. & Murphy, R.E. (gol., 1989), The New Jerome Biblical Commentary (Geoffrey Chapman)
Collins, A.Y. (1989b), ‘The Apocalypse (Revelation)’, pen. 63 yn Brown, Fitzmeyer & Murphy (eds, 1989)
Collins, A.Y. (1989a), ‘Eschatology and Apocalypticism’ yn Brown, Fitzmeyer & Murphy (gol., 1989), pen. 81 tt 1359-1364
Daniels, C.W. (2019), Resisting Empire: The Book of Revelation (Barclay, Newberg)
Engels, F. (1883), ‘The Book of Revelation’ yn Progress Vol. 2, ail-argraffwyd yn Marx Engels On Religion (Progress Publishers, Moscow, arg. diw., 1975)
Engels, F. (1894), ‘On the History of Early Christianity’ yn Die Neue Zeit Cyf. 1, tt 4-13, cyfieithiwyd yn Marx Engels On Religion (Progress Publishers, Moscow, arg.diw., 1975)
Glasson, T.F. (1965), The Revelation of John (The Cambridge Bible Commentary on the New English Bible, Cambridge University Press)
W. Howard-Brook & A. Gwyther (1999), Unveiling Empire: Reading Revelation Then and Now (Orbis)
Maxwell, M. (1997), Revelation (The People’s Bible Commentary; The Bible Reading Fellowship)
Prévost, J.-P. (1991), How to Read the Apocalypse (cyf. J. Bowden & M. Lydamore, 1993; SCM Press)
Rowland, C. (1993), Revelation (Epworth Commentaries; Epworth Press)
Williams, C.H. (2002), Llyfr Datguddiad (Y Beibl Cymraeg Newydd – Cyfres o Esboniadau; Gwasg Pantycelyn a Phwyllgor y Beibl Cymraeg)
Llyfrau, erthyglau a gwefannau eraill a grybwyllir
Cyrchwyd pob gwefan 3 Mehefin 2021.
Abbott-Smith, G. (1936), A Manual Greek Lexicon of the New Testament (3ydd arg., T&T Clark, Caeredin)
Bastani, A. (2019), Fully Automated Luxury Communism: A Manifesto (Verso)
Beckett, A. (2019), Review of Bastani (2019) yn The Guardian 29 May 2019
Bendell, J. (2018), https://jembendell.com/2018/07/26/the-study-on-collapse-they-thought-you-should-not-read-yet/
Bendell, J. (2020), Deep Adaptation: A Map for Navigating Climate Tragedy (IFLAS Occasional Paper no. 2, University of Cumbria), gellir lawrlwytho yr ail argraffiad diwygiedig o http://www.lifeworth.com/deepadaptation.pdf
Campbell, N., Pocock, J. & McLane, M. (2021), Dark Mountain Issue 19: Requiem (Dark Mountain)
Cassegård, C. (2015), Towards a post-apocalyptic environmentalism? yn https://mobilizingideas.wordpress.com/2015/05/04/towards-a-post-apocalyptic-environmentalism/
Clark, B. & York, R. (2005), ‘Carbon Metabolism: Global Capitalism, Climate Change, and the Biospheric Rift’ yn Theory and Society, 34(4): 391-428.
Clifford, P. (2009), Angels with Trumpets: The church in a time of global warming (Cymorth Cristnogol/Darton, Longman & Todd)
Clifford, P. (2016), A Brief History of End Time: Prophecy and Apocalypse, Then and Now (argraffiad newydd; Sacristy Press, Durham)
Climate Psychology Alliance (2020), ‘Responding to climate anxiety’ yn https://www.climatepsychologyalliance.org/about/what-we-do
Collins, J.J. (1990), ‘Old Testament Apocalypticism and Eschatology’ yn R.E. Brown, J.A. Fitzmeyer & R.E. Murphy (gol.), The New Jerome Biblical Commentary (Student edition, Geoffrey Chapman, 1993)
Cook, P.E.G. & Harrison, G. (eds, 1985), Christian Hymns (2il arg.; Mudiad Efengylaidd Cymru, Penybont-ar-Ogwr)
Cyfeillion y Ddaear (2021), ‘Responsible travel: eco tips for getting around’, https://friendsoftheearth.uk/climate-change/responsible-travel
Cymorth Cristnogol (2021), Climate Justice sermon pack, yn https://www.christianaid.org.uk/sites/default/files/2021-02/J204726%20CAW21%20Sermon%20Notes%20AW.pdf
Davis, B. (2021), York Course: Caring for Creation (archebir gan https://www.yorkcourses.co.uk/product/caring-for-creation/ )
Dawn, M. (2020), ‘The Earth is the Lord’s: Finding a Way to Worship in Times of Despair’ yn Malcolm, H. (ed., 2020)
Durán, R.F. (2011), The Breakdown of Global Capitalism: 2000-2030 – Preparing for the beginning of the collapse of industrial civilization (Argraffiad Saesneg, Corporate Europe Observatory, 2012) yn https://corporateeurope.org/sites/default/files/attachments/breakdown_capitalism_final.pdf
Graham-Leigh, E. (2015), A diet of Austerity: Class, Food and Climate Change (Zero Books)
Eglwys Loegr (2020), ‘Live Lent: Care for God’s Creation’ yn https://www.chpublishing.co.uk/features/live-lent
Greer, J.M. (2017), ‘Confronting the Cthulhucene’ yn D. Hine & S. Wheeler, Dark Mountain 12: Sanctum (Dark Mountain Project), gellir ei lawrlwytho o www.dark-mountain.net
Gwrthryfel Difodiant (2021), https://extinctionrebellion.uk/the-truth/
Hill, A. & Martinez-Diaz, L. (2020) ‘Adapt or Perish. Preparing for the Inescapable Effects of Climate Change’ yn Foreign Affairs, Ionawr/Chwefror: 107-117
Hopkins, R. (2020), From What is to What if: Unleashing the power of imagination to create the future we want (Chelsea Green Publishing)
IPCC (2018), Global Warming of 1.5C ynhttps://www.ipcc.ch/sr15/
IPCC (2018a), Dataganiad i’r wasg am Global Warming of 1.5C: Summary for Policymakers yn https://www.ipcc.ch/2018/10/08/summary-for-policymakers-of-ipcc-special-report-on-global-warming-of-1-5c-approved-by-governments/
James, S.D. (2008), ‘Apocalypse Now: Floods, Tornadoes, Locusts’ yn ABC News 13.06.2008 https://abcnews.go.com/US/Weather/story?id=5062583&page=1
Joint Public Issues Team (2020), Living Lent: Creating a climate of change, yn https://livinglent.org/
Kallis, G. (2019), Limits: Why Malthus Was Wrong and Why Environmentalists Should Care (Stanford University Press)
Kingsnorth, P. & Hine, G. (2009), ‘The Eight Principles of Uncivilisation’ yn Uncivilisation: The Dark Mountain Manifesto, at https://dark-mountain.net/about/manifesto/
Klein, N. (2015), This Changes Everything: Capitalism vs the Climate (arg. Penguin, 2016)
Kleres, J. and Wettergren, A. (2017), Fear, hope, anger, and guilt in climate activism, yn Social Movement Studies, 16(5): 507-519
McIntosh, A. (2020), Riders on the Storm: The Climate Crisis and the Survival of Being (Birlinn, Edinburgh)
Malcolm, H. (ed., 2020), Words for a Dying World: Stories of Grief and Courage from the Global Church (SCM Press)
Meinecke, S. (2019), ‘God and the earth: evangelical take on climate change’ in DW.com 7 March 2019 yn https://www.dw.com/en/god-and-the-earth-evangelical-take-on-climate-change/a-47781433
O’Brien, W. (2010), ‘Exercise of hope’, yn McDonald, J. & Stephenson, A. M. (gol.) The Resilience of Hope (Rodopi, Amsterdam) pp 29-39
Ocean-Climate (2020), gwefan https://ocean-climate.org/en/awareness/the-decline-of-marine-biodiversity/
Operation Noah (2018), ‘Statement on Extinction Rebellion’ yn https://operationnoah.org/news-events/statement-on-extinction-rebellion/
Operation Noah (2021), ‘Hope-inspired’ yn https://operationnoah.org/home/hope-inspired/
PETA (2021), ‘Fight Climate Change by Going Vegan’, https://www.peta.org/issues/animals-used-for-food/global-warming/
Phillips, L. (2015), Austerity Ecology & the Collapse-Porn Addicts (Zero Books)
Political Economy for the End Times (2020), podlediadau yn https://soundcloud.com/user-436935247
Prévost, J-P (1991), How to Read the Apocalypse (cyf. SCM Press, 1993)
Rapture Ready End Times News (2021), https://www.raptureready.com/category/rapture-ready-news/ (diweddarir yn ddyddiol)
SimplyBible.com (2011), ‘From the Flood to the Fire – Peter’s wake up call’ yn https://www.simplybible.com/f450-2pet-from-flood-to-fire.htm
Swyngedouw, E. (2010), ‘Apocalypse Forever? Post-political Populism and the Spectre of Climate Change’ yn Theory, Culture & Society Vol. 27(2–3): 213–232
Swyngedouw, E. (2013), ‘Apocalypse Now! Fear and Doomsday Pleasures’ in Capitalism Nature Socialism, Cyf. 24, Rhif 1, tt 9-18
Taalas, P. & Msuya, J. (2018), Rhagair i IPCC (2018), gellir ei lawrlwytho o https://www.ipcc.ch/site/assets/uploads/sites/2/2019/05/SR15_Foreword.pdf
Taylor, M. (2020), ‘The evolution of Extinction Rebellion’ yn The Guardian 4 Awst 2020, https://www.theguardian.com/environment/2020/aug/04/evolution-of-extinction-rebellion-climate-emergency-protest-coronavirus-pandemic
Tolkien, J.R.R. (1954-5), The Lord of the Rings (3 cyfrol, Allen & Unwin)
Thunberg, G. (2020), Averting a Climate Apocalypse, ar gael yn https://extinctionrebellion.uk/2020/01/21/greta-thunberg-averting-a-climate-apocalypse-davos-2020/
USPG (2021), Ar Gyfer Amser fel Hwn: Cwrs astudio chwe sesiwn – Archwilio cyfiawnder ecolegol (USPG), gellir ei lawrlwytho o https://www.uspg.org.uk/engage/support5/forsuchatime/lent-course-2021/
Watts, J. (2018), ‘We have 12 years to limit climate change catastrophe, warns UN’ yn The Guardian 8 Hydref 2018, https://www.theguardian.com/environment/2018/oct/08/global-warming-must-not-exceed-15c-warns-landmark-un-report
Williams, W. (Pantycelyn) (1772), O’er the gloomy hills of darkness (Christian Hymns, Mudiad Efengylaidd Cymru, 1977, rhif 460); cyf. Dros y bryniau tywyll niwlog (Y Caniedydd, Gwasg John Penry, Abertawe, 1961, rhif 288)
WWF (2020), Living Planet Report 2020 yn https://livingplanet.panda.org/en-gb/
WWF (2021), ‘Making a Lifestyle Change’, https://www.wwf.org.uk/earthhour/lifestyle-change