EICH PANTRI LLEOL – URDDAS, DEWIS, GOBAITH

Gyda phryderon am dlodi bwyd a thanwydd ar gynnydd, ymwelodd Gethin Rhys â Hope Pantry, Merthyr Tudful, rhan o gynllun Eich Pantri Lleol a noddir gan Church Action on Poverty, mudiad cysylltiol ag Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon.

Mae drws di-sylw ar ymyl capel trawiadol Hope yng nghanol Merthyr yn arwain at y siop groser leol. Ond nid yw’n siop gyffredin. Mae Hope Pantry yn cynnig i aelodau, am £3.50 yr wythnos, siopa gwerth 3 calon neu 8 diemwnt (calon neu ddiemwnt yn aml yn prynu eitemau lluosog). Gall aelodau gyfnewid nwyddau gwerth 1 galon am 2 ddiemwnt.

Daw stoc craidd y Pantri gan Fareshare am £3.50 yr wythnos, ond yn ychwanegol at hyn gall aelodau godi ffrwythau, llysiau a bara ffres yn rhad ac am ddim, bwyd a fyddai fel arall wedi ei ddanfon i’r domen wastraff. Mae yna hefyd rywfaint o fwyd ar neu ar ôl ei ddyddiad, ond o hyd yn fwytadwy, sy’n rhad ac am ddim. Cyflenwir 0.5 tunnell o fwyd bob wythnos, a gwerthir y cyfan ohono. Mae’r Pantri felly’n gwneud cyfraniad mawr at fynd i’r afael â gwastraff bwyd a’i gost amgylcheddol yn ogystal â threchu tlodi. Mae’r Pantri hefyd yn cynnig detholiad o bethau ymolchi a deunyddiau glanhau, wedi’u hariannu gan grantiau a rhoddion.

Mae’r Pantri yn llawn bwyd ac ar agor ar foreau Mawrth a phrynhawn Gwener. Dydd Gwener sydd brysuraf – pan ymwelais i roedd ciw i lawr y stryd ymhell cyn yr amser agor. Mae system giwio drefnus, gyda thocynnau wedi’u rhifo, yn galluogi gwirfoddolwyr i gynnig te a choffi i’r rhai sy’n aros, i helpu’r rhai sydd angen cymorth gyda’u siopa, ac i weithredu’r til. Mae llawer o’r cwsmeriaid yn cyfarfod yma’n rheolaidd am goffi a sgwrs hefyd.

Gall unrhyw un ym mwrdeistref Merthyr Tudful ymuno, heb fod angen argymhelliad na phrawf modd. Mae gan Gellideg ei phantri cymunedol annibynnol ei hun. Mae’r ddau, ynghyd â mudiadau eraill, yn rhan o Rwydwaith Ffyniant Bwyd Merthyr Tudful, sy’n anelu at ddileu tlodi bwyd yn lleol.

Bu Heidi Jacobson, Cydlynydd croesawgar ac egnïol y Pantri, yn canu clodydd i’r gefnogaeth gan fudiad Your Local Pantry. Trwy sefydlu’r systemau aelodaeth, talu, rheoli stoc ac ati, maent yn gwneud y fentr yn bosibl i eglwys neu grŵp cymunedol lleol. Byddai James Henderson, Cydlynydd Datblygu Rhwydwaith y Pantri, wrth ei fodd yn clywed gan eglwysi eraill sydd am gefnogi eu cymuned yn y modd hwn. Gellir cysylltu ag ef drwy james@yourlocalpantry.co.uk  neu ar ffôn symudol: 07897 551 987

Mae Adroddiad Effaith Gymdeithasol 2021 – sy’n cynnwys llawer o ddyfyniadau gan wirfoddolwyr a chwsmeriaid y pantris yng Nghymru – yn dangos gwerth y cyfan. Gyda dadansoddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru o Ddatganiad Gwanwyn Canghellor y Trysorlys yn dangos y bydd aelwydydd cyfartalog yng Nghymru £315 y flwyddyn yn waeth eu byd o ganlyniad i newidiadau treth a budd-daliadau Llywodraeth y DU, dim ond cynyddu all yr effaith honno.

RHYFEL A FFOADURIAID WCRÁIN

Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin wedi arswydo ac ennyn ymateb twymgalon ar draws eglwysi Cymru. Bu Prif Weithredwr Cytûn, y Parch. Aled Edwards, yn llywyddu encil aml-ffydd ar risiau Senedd Cymru ar Fawrth 6. Cafwyd cyfraniadau dirdynnol o sawl cyfeiriad, gan gynnwys dau ifanc o Wcráin sy’n byw yng Nghymru, gan Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru (isod), sydd o dras Wcranaidd, a gwleidyddion y prif bleidiau eraill.

Mae Cytûn wedi bod yn rhan o sefydlu ymateb Cymru fel Cenedl Noddfa i groesawu ffoaduriaid oddi yno i Gymru. Ceir mwy o fanylion am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yma. Gall mudiadau – gan gynnwys eglwysi – sy’n gallu cynnig cymorth ar raddfa fawr, o ran llety, cludiant, nwyddau neu cyfieithu nodi eu parodrwydd i helpu yma a gall unigolion sydd am gynnig llety neu gymorth arall weld manylion sut i wneud hynna yma.

Mae Cytûn yn argymell yn gryf y dylid cynnig cefnogaeth trwy fudiadau cymeradwy a dibynadwy yn unig. Yn ogystal â chynlluniau’r Llywodraeth, mae gan Housing Justice Cymru gynllun i letya ceiswyr lloches sy’n cyrraedd Cymru – o Wcráin neu wledydd eraill – heb y gallu i gyrchu cefnogaeth wladol. Ceir mwy o fanylion am y cynllun hwnnw yn Bwletin Polisi Chwef/Mawrth 2022 neu gan Romy Wood r.wood@housingjustice.org.uk

O ran helpu pobl yn Wcráin a’r gwledydd cyfagos, argymhelliad Cytûn a Llywodraeth Cymru yw y dylid gwneud hynny trwy apêl ariannol Pwyllgor Argyfyngau Brys y prif elusennau, DEC Cymru. Ceir manylion pellach am ran Cymorth Cristnogol yma ac apêl CAFOD yma. Er carediced yr awydd i ddanfon nwyddau mewn lorïau ar draws Ewrop, mae i hynny oblygiadau o ran creu tagfeydd sy’n rhwystro cymorth rhag cyrraedd, a thanseilio’r amgylchedd a’r economi leol. Mae gan yr elusennau yn DEC Cymru y modd i sicrhau prynu yr hyn sydd ei angen, ble a phryd sydd ei angen, trwy eich rhoddion ariannol hael.

Mae Cymdeithas y Beibl wedi galw ar bawb i gofio Wcráin, ar y cyd ag eglwysi’r wlad, trwy weddïo Salm 31 yn ddyddiol am 3yp (5yh amser Wcráin). Mae Cymorth Cristnogol yn cymell eglwysi i ymuno mewn gweddi dros Wcráin yn enwedig am 2yp ar Sul y Dioddefaint, Ebrill 3. Dyma’r weddi:

Dduw’r holl bobloedd a’r holl genhedloedd,
a greodd bopeth byw ac sy’n anadlu, yn unedig ac yn gyflawn,
dangos inni ffordd tangnefedd dy bresenoldeb llethol.
Codwn bobloedd Wcráin a Rwsia atat, pob plentyn ac oedolyn.
Dyhëwn am yr adeg pryd y caiff arfau rhyfel eu troi yn sychau aradr
pryd na fydd cenedl yn codi cleddyf yn erbyn cenedl.
Codwn ein llais atat am heddwch;
diogela’r rhai sy ond yn dymuno ac yn haeddu byw mewn diogelwch .
Cysura’r rhai sy mewn ofn am eu bywyd a bywyd eu ceraint.
Bydd gyda’r rhai sy’n galaru.
Newid galon y rhai sy’n mynnu trais ac ymosodiad
a llenwa arweinwyr gyda’r doethineb sy’n arwain at heddwch.
Cynnau ynom eto gariad am gymydog, ac angerdd dros gyfiawnder
a chydnabyddiaeth newydd fod gennym i gyd ran mewn heddwch.
Greawdwr pawb, clyw ein gweddi a thyrd â heddwch.
Gwna ni’n gyflawn.
Amen.

MAE NATUR YN CYFRI – AC YN CAEL EI GYFRIF




Llun gan Caring for God’s Acre: Eglwys San Mihangel, Llandre, Ceredigion

Mae eglwysi a chadeirlannau ym mhob rhan o’r wlad yn paratoi ar gyfer gweithgarwch blynyddol Eglwysi’n Cyfrif Natur. Bydd y cyfle hwn i hybu ‘gwyddoniaeth y dinesydd’, a gynhelir rhwng 4-12 Mehefin, yn croesawu pobl i fynwentydd a’u hannog i gofnodi pa anifeiliaid a phlanhigion a welant. Caiff y data hwnnw wedyn ei gadw ar gronfa cofnodion biolegol y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Trefnwyd mwy na 540 o weithgareddau a digwyddiadau gan eglwysi ar draws Cymru a Lloegr y llynedd. Cyflwynodd pobl 17,232 cofnod o ddata ar fywyd gwyllt a welsant, gan gofnodi 1,700 rhywogaeth.Caiff Eglwysi’n Cyfrif Natur ei gynnal ar y cyd gan elusennau cadwraeth A Rocha UK a Caring for God’s Acre ynghyd ag Eglwys Loegr a’r Eglwys yng Nghymru, ac mae’n agored i eglwysi o bob enwad.

Cynhelir gweithgarwch eleni yn ystod Wythnos Caru eich Mynwent (4-12 Mehefin). Mae Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy, esgob arweiniol yr Eglwys yng Nghymru ar yr amgylchedd, yn annog pobl i gymryd rhan. Dywedodd, “Mae’n gyfle i ddysgu am a gwerthfawrogi’r byd gwerthfawr sydd ar garreg ein drws a gwireddu ein cyfrifoldeb dros ei feithrin a’i ddiogelu. Gobeithiaf y bydd ein holl eglwysi gyda mynwentydd yn cofrestru ac yn cymryd rhan eleni ac yn cofnodi pa drysorau o’r byd naturiol a welant. Gweld y rhyfeddol, darganfod y prin a mwynhau cofnodi’r holl blanhigion ac anifeiliaid a welwch.”

Y llynedd, defnyddiodd llawer o eglwysi Eglwysi’n Cyfrif Natur fel cyfle i ymestyn allan i’w cymuned leol. Er enghraifft, ymunodd pobl o’r gymuned gyda phlwyfolion ym Mynwent Llandygwydd ger Aberteifi i osod maglau gwyfynod a chwilio am ystlumod dros ddeuddydd. Dywedodd y trefnydd, y Parch Anne Beman, i tua 20 o bobl gymryd rhan, yn cynnwys plant. Roeddem yn ffodus i weld tua 30 o ystlumod hirglust yn gadael eu man clwydo yn yr eglwys. Cawsant eu hadnabod yn nes ymlaen gan eu baw. Ar y bore Sadwrn buom yn archwilio’r maglau gwyfynod a gweld rhai rhywogaethau hardd iawn gydag enwau diddorol gwych fel rhisgl y cen, y llwyd ffawydd a’r gwyfyn gwythïen goch. Yna fe wnaethom ddechrau arolwg manwl o’r mynwentydd. Roedd yn llwyddiannus iawn a fedrem ni ddim bod wedi ymdopi heb help a gwybodaeth yr aelodau o grwpiau bywyd gwyllt.”

Dywedodd Andy Lester o A Rocha UK, “Mae Eglwysi’n Cyfrif Natur yn gyfle unigryw i’r rhai sy’n hoff o fynwentydd gymryd rhan yn y cyfrifiad natur mwyaf erioed. Gyda natur yn dal i ddirywio yn genedlaethol, bydd y cyfrifiad hwn yn rhoi data gwerthfawr ar yr hyn sy’n digwydd i fywyd gwyllt. Yn ei dro bydd hyn yn ein helpu i gyd-weithio i gymryd camau wedi eu targedu er adfer natur.”

Dywedodd Harriet Carty, Cyfarwyddwr Caring for God’s Acre, “Rydym yn falch iawn eto i fod yn rhan o drefnu Eglwysi’n Cyfrif Natur. Drwy gynlluniau fel hwn rydym yn dysgu mwy am bwysigrwydd mynwentydd fel llochesau ar gyfer natur. Gyda mwy nag 20,000 ar draws Lloegr a Chymru ni fu’r lleoedd arbennig hyn erioed yn hafanau mor hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt.”

I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru i gymryd rhan ewch i: https://www.caringforgodsacre.org.uk/get-involved/love-your-burial-ground-week/

COVID – DIWEDD Y CYFYNGIADAU, DECHRAU’R YMCHWILIAD

Wrth i ni fynd i’r wasg, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dirwyn i ben y cyfyngiadau Covid sy’n weddill, a gyflwynwyd o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1984, ar ddydd Llun y Pasg, Ebrill 18. Daeth y mesurau ar wahân a gyflwynwyd o dan Ddeddf Coronafeirws 2020 y DU i ben ar Fawrth 24. Pan ddaw rheoliadau Cymru i ben, bydd y sefyllfa gyfreithiol yn dychwelyd i’r hyn oedd yn bodoli cyn Mawrth 2020. Mae hyn yn golygu y bydd cyfrifoldebau’r sawl sy’n ymddiriedolwyr neu’n rheolwyr ar addoldai a chanolfannau cymunedol, a’r rhai sy’n trefnu digwyddiadau cyhoeddus gan gynnwys addoli, yn dychwelyd i ofynion blaenorol rheolau Iechyd a Diogelwch, Diogelu ac ati. Bydd angen i asesiadau risg a wneir o dan y ddeddfwriaeth hynny gynnwys asesiad o’r risgiau o ran Covid ynghyd â’r risgiau sy’n gysylltiedig â throsglwyddo afiechydon heintus eraill.

Fodd bynnag, mae Cytûn yn ymwybodol y gall agwedd aelodau eglwysig, fel eraill yn y boblogaeth, tuag at risg – yn enwedig y risg o ddal neu drosglwyddo salwch heintus – fod wedi newid yn dilyn profiadau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym yn deall bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu disodli’r tudalennau niferus o ganllawiau ar gyfer gwahanol fathau o sefydliadau a gweithgareddau – gan gynnwys y tudalennau canllaw ar gyfer addoldai ac angladdau – gydag un set o ganllawiau llawer mwy cyffredinol eu natur. I lawer o ymddiriedolwyr a rheolwyr gwirfoddol, bydd hyn yn golygu bod angen iddynt ddod o hyd i arweiniad penodol o rywle arall.

Mae Cytûn yn ystyried yr hyn y gallwn ei gynnig ar ein gwefan yn lle’r wybodaeth am reoliadau cyfredol Covid. Cyn gynted â phosibl ar ôl cyhoeddi canllawiau newydd Llywodraeth Cymru, byddwn yn cynhyrchu papur briffio gyda chyfeiriadau i’r rhannau pwysicaf ohono, a dolenni i ffynonellau eraill o wybodaeth (megis gwefan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch). Yn anffodus, nid yw Cytûn yn cael ei ariannu’n ddigonol i’n galluogi i geisio cyngor arbenigol ar Iechyd a Diogelwch, Diogelu, ac yn y blaen, a chan nad yw Cytûn ei hun yn berchen ar na’n rheoli addoldai nid oes gennym unrhyw sail i geisio cyngor cyfreithiol penodol – a fyddai, beth bynnag, yn amrywio o enwad i enwad yn dibynnu ar eu gwahanol strwythurau cyfreithiol a threfn eglwysig.

Byddem felly yn croesawu awgrymiadau gan aelod eglwysi a mudiadau ynghylch yr hyn a allai fod yn fwyaf defnyddiol yn y sefyllfa newydd hon. Yna bydd angen i Cytûn ystyried faint o’n hadnoddau cyfyngedig o ran staff a chyllid y gellir eu neilltuo i ddiwallu’r anghenion a nodwyd.

Wrth i Covid gilio’n raddol, mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu Ymchwiliad Covid-19 y DU, dan gadeiryddiaeth y Farwnes Hallett. Daw ymgynghoriad ar gylch gorchwyl Ymchwiliad y DU i ben ar Ebrill 7. Mae Cytûn wedi ymateb, yn nodi pwysigrwydd ffydd a grwpiau gwirfoddol eraill ac yn gofyn am eu cynnwys yn benodol yn y cylch gorchwyl. Rydym hefyd yn nodi pwysigrwydd ymholi i faterion yn ymwneud â gofal diwedd oes a thriniaeth yr ymadawedig a’r rhai mewn profedigaeth. Rydym hefyd yn gobeithio cyfarfod â thîm yr ymchwiliad yn fuan i drafod ffyrdd y gall eglwysi Cristnogol a grwpiau ffydd eraill gyflwyno tystiolaeth i’r Ymchwiliad a chymryd rhan ynddo.

Mae Cytûn hefyd wedi cysylltu â grŵp annibynnol Teuluoedd Covid-19 mewn Profedigaeth dros Gyfiawnder. Maent yn esbonio eu rôl fel a ganlyn:

Sefydlwyd y grŵp ar gyfer y rheini sydd wedi cael profedigaeth oherwydd penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru cyn ac yn ystod pandemig Covid-19 yng Nghymru. Rydym wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn ymchwiliad statudol cyhoeddus penodol i Gymru ar unwaith. Ar ôl cyfarfod â’r Prif Weinidog nifer o weithiau mae wedi cymryd safiad gwahanol a bydd Cymru yn awr yn rhan o ymchwiliad y DU. Fodd bynnag, nid yw’n iawn i Gymru fod yn ddim mwy na throednodyn mewn ymchwiliad gan Lywodraeth y DU – rhaid craffu’n briodol ar benderfyniadau a wnaed yng Nghymru. Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar yr hyn a ddigwyddodd, pam y digwyddodd ond yn bwysicaf oll sut y gallwn ei wella. Dyma pam ei bod mor bwysig clywed am eich profiadau. Os ydych wedi cael profedigaeth oherwydd Covid-19 yng Nghymru gall ein grŵp eich cynrychioli yn ymchwiliad y DU. Bydd eich llais yn rhan o’r dystiolaeth a fydd yn sicrhau y gwneir newidiadau.

Gwahoddir darllenwyr sydd â diddordeb i ymuno â grŵp Facebook y grŵp neu cysylltu trwy e-bost: cymru@covidfamiliesforjustice.org  neu ar Twitter: @cymru_inquiry

Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd

Wcráin: A yw cymunedau ffydd Cymru yn gwneud digon?

Dydd Mercher 4 Mai 2022, 12.00 – 13.15

Trwy Microsoft Teams neu gynhadledd ffôn

Am fwy o wybodaeth neu i gadw lle, cysylltwch â Jim Stewart  jimstewartwales@gmail.com

Ffydd, teuluoedd a gwellhad

Fforwm ar-lein – 10am tan 11.30am, Dydd Iau 12 Mai 2022

Mae Alcohol Change UK ac Adfam yn eich gwahodd i gymryd rhan yn mewn digwyddiad ar-lein fydd yn bwrw goleuni ar bwysigrwydd ffydd ym mywydau llawer o bobl wrth iddyn nhw ymgodymu â phroblemau alcohol, cyffuriau neu gamblo.

Ein gobaith yw y bydd hon yn fan cychwyn taith gan wasanaethau triniaeth tuag at ddeall yn well bwysigrwydd ffydd ym mywydau unigolion a theuluoedd; a gan sefydliadau ffydd tuag at ddeall problemau alcohol, cyffuriau a gamblo yn well.

Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda dau siaradwr gwadd:

•           Alison Mather, Cyfarwyddwr Gweithgor y Crynwyr ar Alcohol a Chyffuriau (QAAD)

•           Iman Atta, Prif Weithredwr Faith Matters

Wedyn bydd cyfleoedd am drafodaeth.

I gadw eich llefydd, cysylltwch ag Andrew Misell yn Alcohol Change UK andrew.misell@alcoholchange.org.uk

EHANGU COFRESTRU GWEITHWYR IEUENCTID

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch ehangu yr angen i gofrestru gweithwyr ieuenctid. Ar hyn o bryd, nid oes angen i weithwyr ieuenctid mewn sefydliadau ffydd yng Nghymru gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Bwriedir tynnu’r eithriad hwnnw (a nifer o eithriadau eraill). O weithredu’r bwriad hwnnw, byddai’n anghyfreithlon cyflogi gweithiwr ieuenctid nad yw wedi cwrdd â’r amodau cofrestru ac wedi cofrestru. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn gofyn barn am gofrestru gwirfoddolwyr mewn gwaith ieuenctid. Er bod y ddogfen ymgynghori yn argymell yn erbyn hynny, dywedir bod Llywodraeth Cymru yn agored i gael ei pherswadio fel arall. Byddai’r cofrestru hwn yn ychwanegol at yr angen i gael gwiriadau DBS dan y drefn diogelu.

Mae’n bwysig fod y bobl fwyaf addas o fewn pob enwad neu fudiad Cristnogol a effeithir yn cael gwybod am yr ymgynghoriad ac yn cael y cyfle i ymateb iddo. Bydd Cytûn yn hapus i grynhoi ymateb cyfansawdd, os yw’n haelodau yn dymuno hynny, ond fe fyddem yn argymell fod pob enwad/mudiad yn ymateb yn uniongyrchol hefyd. Gellir gweld yr ymgynghoriad a’r ffurflen ymateb yma: https://llyw.cymru/categoriau-cofrestru-newydd-ar-gyfer-cyngor-y-gweithlu-addysg. Y dyddiad cau yw Mai 24 2022. Os ydych am gyfrannu at ymateb cyfansawdd, bydd angen i ni dderbyn eich sylwadau erbyn Dydd Llun 16 Mai 2022 trwy gethin@cytun.cymru.

CYNLLUN GRANT GWIRFODDOLI CYMRU

Mae cynllun prif grant Gwirfoddoli Cymru 2022-25 yn derbyn ceisiadau nawr gan ddefnyddio Porth Ymgeisio Amlbwrpas (MAP) CGGC. Eleni, bydd y cynllun yn canolbwyntio ar brosiectau sy’n mynd i’r afael â’r rhwystrau i wirfoddoli, yn rhoi profiad cadarnhaol i’r gwirfoddolwr ac yn cael effaith hirdymor ar y gymuned. Bydd cyllid o hyd at £25,000 y flwyddyn ar gael, dros uchafswm o ddwy flynedd. Os oes gan eich mudiad ddiddordeb mewn manteisio ar gynllun prif grant Gwirfoddoli Cymru, ewch i dudalen grantiau Gwirfoddoli Cymru i gael rhagor o fanylion neu cysylltwch â volwalesgrants@wcva.cymru.

CYNLLUN PRENTISIAETHAU LLYWODRAETH CYMRU YN AGOR

Mae Llywodraeth Cymru yn hysbysebu hyd at 50 o gyfleoedd prentisiaeth. Eleni maent yn cynnig tri llwybr gwahanol, gyda phob un yn arwain at gymhwyster NVQ lefel 3.

  • Gweinyddiaeth Busnes
  • Data Digidol a Thechnoleg
  • Cyllid

Maent yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan y rhai sydd heb eu cynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu, megis pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl.

Cynhelir sesiynau rhithwir i roi gwybodaeth i ymgeiswyr am y gwahanol lwybrau sydd ar gael, y broses ymgeisio a’r cymorth a fydd ar gael i ymgeiswyr. Bydd hyn yn cynnwys sut y gallwn ddileu unrhyw rwystrau a allai atal pobl rhag gwneud cais a sut y gallwn wneud addasiadau rhesymol i sicrhau bod y broses recriwtio yn deg ac yn hygyrch i chi.

5 Ebrill 2022 14:00 –15:00 Tocynnau ar Eventbrite

12 Ebrill 2022 11:00 – 12:00 Tocynnau ar Eventbrite

Mae’r Tîm Digidol yn cynnal sesiwn benodol am y cynllun Digidol, Data a Thechnoleg ar 11 Ebrill 2022 am 11:00 –12:00. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am y cynllun DDaT, anfonwch e-bost at ddat@llyw.cymru i gofrestru ar gyfer y sesiwn.

Os nad ydych yn medru mynychu unrhyw un o’r digwyddiadau hyn ond mae gennych gwestiynau ynglŷn â’r cynllun, cysylltwch ag apprenticeshipscheme@gov.wales

CYTÛN YN YR EISTEDDFODAU A’R SIOE

Wedi 2 flynedd o ohirio Eisteddfod yr Urdd, Y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol, mae’n dda cael cadarnhad bod y 3 digwyddiad yn cymryd lle eleni fel digwyddiadau wyneb yn wyneb gyda maes i’w grwydro o’i gwmpas. Bydd yn dair blynedd ers i ni gyfarfod a chael cyfle i gymdeithasu yn y gwyliau hyn, a bydd yn braf cael ail-gysylltu unwaith eto, a chael cyfle am banad a chacen gri!   
Cynhelir cyfarfodydd fel a ganlyn er mwyn trafod syniadau / thema, pa weithgarwch lleol y gellir eu cynnwys o fewn y babell a cheisio cymorth gan wirfoddolwyr:

  • Ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Dinbych (Mai 30 – Mehefin 4) – cyfarfod am 7.00y.h. nos Fercher Ebrill 6ed yng Nghapel y Dyffryn, Llandyrnog
  • Ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd (Gorffennaf 18-21) – cyfarfod am 12.00 pnawn Llun Ebrill 4ydd yng Nghanolfan Gristnogol y Gymru Wledig (CCRW) ar faes y Sioe.
  • Ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, Tregaron (Gorffennaf 30 – Awst 6) – cyfarfod am 7.00y.h. nos Lun Ebrill 4ydd yng Nghapel Bwlchgwynt, Tregaron

Am fanylion pellach cysylltwch gyda Aled Davies ar 07894580192 neu aleddavies@cytun.cymru

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL

Yn gweithio gartref. Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost: gethin@cytun.cymru         www.cytun.co.uk        @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Happy to communicate in Welsh and English

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2022. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar Fai 23 2022.