SENEDD YR ARGYFWNG

Er i’r llun hwn gael ei dynnu ar Ebrill 1af, go brin y gallai fod yn fwy difrifol, gan mai dyma gyfarfod arlein cyntaf unrhyw senedd yn y Deyrnas Unedig. Ymunodd nifer fach o Aelodau Cynulliad â chynhadledd fideo o’u cartrefi, wrth iddynt ufuddhau i’r cyfyngiadau a osodwyd ar gymdeithas yng Nghymru i geisio gwrthsefyll pandemig byd-eang COVID-19. Gosodwyd cworwm o 4 aelod o’r 60 arferol ar gyfer pleidleisio (ond ni fu angen pleidlais yn y sesiwn hon).  

Nid oedd yn syndod i’r sesiwn ganolbwyntio ar y pandemig, gyda chwestiynau i Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AC, a’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething AC am hynt yr afiechyd a’r mesurau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru. Fe fydd sesiynau dilynol yn cynnwys peth busnes arall hefyd.

Gan fod y sefyllfa yn newid yn ddyddiol, nid yw’r Bwletin Polisi hwn yn ceisio amlinellu’r ddeddfwriaeth gymhleth ac anarferol a wnaed, na sut y mae’n cael ei gweithredu yng Nghymru. Ond mae’n bwysig i eglwysi, grwpiau ffydd a darllenwyr eraill nodi fod yr is-ddeddfwriaeth a wneir yng Nghymru yn wahanol mewn ffyrdd pwysig i’r hyn sy’n berthnasol yn Lloegr – er enghraifft, o gwmpas cynnal angladdau. Mae canllaw i’r ddeddfwriaeth, gyda phwyslais arbennig ar yr effaith ar eglwysi Cristnogol, yn cael ei ddiweddaru’n gyson ar wefan Cytûn: https://www.cytun.co.uk/hafan/covid-19-papur-briffio/

Mae gwefan Cytûn hefyd yn cynnwys datganiadau gan arweinyddion eglwysig, dolenni i addoli arlein a galwadau i weddïo, a dolenni i wybodaeth a ddarperir gan ein haelod eglwysi a mudiadau. Mae Cytûn hefyd yn trydar yn rheolaidd @CytunNew ac yn cynnal tudalen Facebook newydd gydag amrediad eang o wybodaeth ac ysbrydoliaeth. Sefydlodd Cyngor Rhyng-ffydd Cymru hefyd dudalen Facebook newydd, gyda deunydd gan y grwpiau ffydd sy’n aelodau ohono.

Mae Cytûn yn darparu gwasanaeth briffio ar gyfer arweinyddion enwadol ac eraill sydd ag angen derbyn diweddariadau am y datblygiadau deddfwriaethol parthed COVID-19. Dylai unrhyw ddarllenwyr sydd am danysgrifio gysylltu â gethin@cytun.cymru.

CYLLIDEB DDI-WAELOD?

Go brin y bydd neb yn cofio i baratoi cyllidebau llywodraethol erioed fod yn fwy di-drefn nag y bu’r broses ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-2021, a ddechreuodd ar Ebrill 6, Yn dilyn y dadleuon am ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, yr addoedi ddwywaith ar Senedd San Steffan ac Etholiad Cyffredinol y DU fis Rhagfyr, fe fu raid i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei chyllideb hi heb wybod cynnwys Cyllideb y DU, er bod llawer o’i hariannu yn ddibynnol ar honno. Cyhoeddwyd y gyllideb derfynol ar gyfer Cymru ar Chwefror 25 ac fe’i cytunwyd gan Senedd Cymru ar Fawrth 3. Cyflwynwyd Cyllideb y DU ar Fawrth 11.

Drylliwyd y cyllidebau terfynol honedig hyn o fewn diwrnodau, ac i bob pwrpas gosodwyd yn eu lle ymrwymiad Canghellor Trysorlys y DU, Rishi Sunak AS, i wneud “beth bynnag sydd ei angen” i fynd i’r afael â phandemig COVID-19. Arweiniodd hyn at basio yn San Steffan y Contingencies Fund Act 2020 sy’n caniatáu i Lywodraeth y DU gynyddu ei chronfeydd argyfwng o 2% o’i gwariant blynyddol i gyn gymaint â 50%. Mae hyn yn rhoi rhyddid anhygoel i Lywodraeth y DU wario arian yn ôl ei dymuniad i fynd i’r afael â’r argyfwng. Gall hyn fod trwy ddatgyfeirio arian o feysydd eraill, neu benthyca, neu gyfuniad o’r ddau.

Nid yw’r setliad datganoli yn caniatáu gosod trefniadau tebyg yn eu lle ar gyfer Llywodraeth Cymru, sydd â chronfeydd bychain wrth gefn ar gyfer argyfyngau a gallu cyfyng iawn i fenthyca arian, a mae’n rhaid iddi felly geisio adnoddau ychwanegol gan Lywodraeth y DU neu drwy ddargyfeirio gwariant o feysydd eraill. Gan fod meysydd megis iechyd, gofal cymdeithasol, llywodraeth leol a datblygu economaidd wedi eu datganoli i Gymru, mae hyn wedi creu heriau i Lywodraeth Cymru a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill ar hyn o bryd. Disgrifir y rhain mewn papur briffio gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu cyflwyno cyllideb atodol, yn cymryd i ystyriaeth y cyhoeddiadau wnaed yng Nghyllideb y DU, mor fuan ag y bo modd. Ond mae datblygiadau ers hynny wedi golygu na ellir cyflawni’r addewid hwnnw yn unol â’r amserlen wreiddiol.

Croesawyd rhai o’r newidiadau wnaed i’r Credyd Cynhwysol yng Nghyllideb y DU gan elusen banciau bwyd Cristnogol Trussell Trust. Roedden nhw’n falch fod y Llywodraeth am ddyblu’r amser a roddir i bobl ad-dalu tâl rhag blaen a lleihau faint y gellir ei ddidynnu o daliad Credyd Cynhwysol, er na fydd y newid yn dod i rym nes mis Hydref 2021. Ond mae Trussell Trust a darparwyr eraill banciau bwyd yn parhau i bryderu am y cyfnod aros o bump wythnos rhwng gwneud cais ar gyfer Credyd Cynhwysol a derbyn y tâl rheolaidd cyntaf, yn gwthio llawer o bobl i argyfwng. Maen nhw’n parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i gael gwared ar yr aros gan ddefnyddio’r hashnod #5WeeksTooLong. Croesawodd Trussell Trust rai o’r camau gymerwyd i newid Credyd Cynhwysol yn ystod epidemig COVID-19, ond teimlai fod hyn yn dangos y brychau sylfaenol yn y drefn. Gellir darllen y diweddaraf am ymateb banciau bwyd Trussell Trust yma.

Mewn ymateb i gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru dywedodd Katie Dalton, Cyfarwyddwr Cymorth Cymru, Stuart Ropke, Prif Swyddog Gweithredol Cartrefi Cymunedol Cymru ac Eleri Butler, Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Ferched Cymru:

“Rydym yn siomedig na chafodd y Grant Cymorth Tai ei gynyddu yng nghyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. Fodd bynnag, sylweddolwn y cafodd Llywodraeth Cymru ei rhoi yn y sefyllfa ryfedd o orfod cyflwyno ei chyllideb cyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wneud ei chynlluniau gwariant yn glir.

“Cawsom ein calonogi gan sylwadau diweddar gan y Gweinidog Tai a’r Gweinidog Cyllid sydd wedi cydnabod y galwadau trawsbleidiol am fwy o fuddsoddiad ac y bydd y Grant Cymorth Tai yn flaenoriaeth ar gyfer cyllid ychwanegol o gyllideb y Deyrnas Unedig.

“Gwyddom fod gwasanaethau ar bwynt tyngedfennol, yn dilyn dros £37 miliwn o doriad gwir dermau dros y degawd diwethaf o lymder. Rydym yn annog Gweinidogion Cymru i sicrhau fod y Grant Cymorth Tai ar flaen y rhes ar gyfer cyllid ychwanegol.”

Er i Lywodraeth Cymru bellach gyhoeddi ariannu ychwanegol ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a digartrefedd yn ystod argyfwng COVID-19, nid elusennau digartrefedd yn unig fydd yn disgwyl cyllideb atodol Cymru pan ddaw gyda chryn bryder.

UNIGRWYDD AC YNYSIGRWYDD YNG NGHYMRU

Mae’n eironig i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Cysylltu Cymunedau, ei strategaeth ar fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yng Nghymru, ar Chwefror 11, a hynny ond ychydig wythnosau cyn i fynd i’r afael â phandemig COVID-19 olygu cyflwyno polisïau sydd yn hollol groes i argymhellion y strategaeth honno. Ond mae hyn yn golygu y bydd y strategaeth hyd yn oed yn bwysicach pan fydd bywyd cymdeithasol normal yn dychwelyd.

Cynhyrchwyd y strategaeth yn dilyn ymgynghori sylweddol y bu Cytûn a grwpiau ffydd eraill yn rhan bwysig ohono. Roeddem yn siomedig felly mai un cyfeiriad penodol yn unig sydd i rôl cymunedau ffydd, a hynny yng nghyd-destun effaith negyddol cau eglwysi.

Serch hynny, bydd eglwysi yn elwa o astudio’r ddogfen hon a meddwl drwy sut y byddant yn gallu helpu gyda lleddfu’r unigrwydd ac ynysigrwydd ychwanegol a orfodwyd ar ein cymdeithas. Gan gydnabod na all y llywodraeth ar ei phen ei hun ddatrys unigrwydd ac ynysigrwydd, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o feysydd lle y gall helpu, gyda chefnogaeth mudiadau eraill o fewn y gymdeithas:

  1. Cynyddu’r cyfleoedd i bobl ddod i gysylltiad â’i gilydd, trwy gefnogi chwaraeon, gwirfoddoli, credydau amser, cyfleoedd treftadaeth a diwylliannol, cynhwysiant digidol, rhagnodi cymdeithasol, a phlatfform Dewis Cymru sy’n galluogi pobl i ddod o hyd i fudiadau llawr gwlad a chymunedol sy’n canolbwyntio ar lesiant (a allai gynnwys llawer o weithgareddau a drefnir gan eglwysi).
  2. Seilwaith cymunedol sy’n cefnogi cymunedau cysylltiedig, trwy drefn gynllunio fydd yn hybu stryd fawr fyrlymus, rhwydweithiau cludiant da, cyfyngiad cyflymder 20mya, lledu’r mynediad i gyfleusterau ysgol a choleg i fod yn hybiau cymunedol, gwella isadeiledd digidol, a grantiau i gefnogi adnoddau naturiol lleol.
  3. Cymunedau cydlynus a chefnogol, gyda thimau cydlyniant cymunedol cryfach yn mynd i’r afael â thensiynau o fewn cymunedau, gwell gofal iechyd a chymdeithasol cymunedol, diwygio cyllido cynlluniau sy’n mynd i’r afael â thlodi plant, a sicrhau fod gwasanaethau cyhoeddus yn gweld unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ac yn ymateb iddo. Argymhelliad allweddol yw gwneud Cymru yn ‘Wlad Dosturiol’, gan adeiladu ar syniadau hybwyd gan Byw Nawr, y mae Cytûn yn rhan weithgar ohono. Mae’r fenter hon yn ymwneud â bod yn fwy agored am farw a galaru, a hybu gofal cymdeithasol tosturiol.
  4. Meithrin ymwybyddiaeth a hybu agweddau cadarnhaol trwy sgwrs genedlaethol am lesiant meddyliol, hybu ysgolion iach a datblygu’r ddealltwriaeth am Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod a’u heffeithiau, datblygu rhagnodi cymdeithasol iechyd meddwl gyda’r trydydd sector (allai gynnwys prosiectau eglwysig), helpu busnesau i fynd i’r afael ag unigrwydd ymhlith eu gweithwyr, a hybu rôl caredigrwydd mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Mae gan eglwysi a mudiadau ffydd rôl allweddol o ran cefnogi’r amcanion hyn, a mae Cytûn yn comisiynu gwaith i feddwl sut y gellir gweithredu unwaith i bandemig COVID-19 ddod i ben.

Gweithredu Bil Plant newydd Cymru

Ar 20 Mawrth 2020, cafodd Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) Gydsyniad Brenhinol a daeth yn Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020. Nodwyd yr achlysur gyda’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn selio’r Bil yn swyddogol, gan olygu y daw’r gyfraith i rym ddydd Llun 21 Mawrth 2022, yn dilyn cyfnod o ddwy flynedd o addysgu a chodi ymwybyddiaeth o’r newid ymhlith y cyhoedd yng Nghymru.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y gyfraith newydd wedyn yn ceisio rhoi terfyn ar gosbi corfforol i blant yng Nghymru, yn helpu i warchod eu hawliau ac yn cryfhau ymrwymiad y Llywodraeth i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, sydd wedi arwain ar y Bil: “Does dim rheswm byth i daro plentyn – efallai bod hynny wedi cael ei ystyried yn briodol yn y gorffennol ond nid yw’n dderbyniol mwyach. Mae ein plant ni’n haeddu cael eu trin gyda’r un parch ac urddas ag oedolion. Er bod selio’r Bil wedi cael ei wneud tu ôl i ddrysau caeedig oherwydd achosion o Covid-19, rydyn ni’n falch o fod wedi cymryd y cam hanesyddol hwn i helpu i warchod plant a’u hawliau. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymgyrchu dros y ddeddfwriaeth hon a’i chefnogi.”

Ar yr un diwrnod, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru asesiadau effaith am y Ddeddf, gan gynnwys yr asesiad effaith ar gydraddoldeb, sy’n cydnabod y bydd rhai grwpiau crefyddol (ond nid y cyfan, o bell ffordd) yn cael y newid hwn yn un anodd i’w dderbyn.

FAST TRACK CAERDYDD A’R FRO

Nid y pandemig presennol yw’r cyntaf yn ein hoes, er mai dyma’r cyflymaf. Mae Fast Track Cities yn bartneriaeth o dros 300 dinas sydd wedi ymrwymo i wella gwasanaethau HIV, dileu achosion newydd a mynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig â’r feirws. Mae’n cefnogi mwy o gydweithredu a rhannu syniadau newydd. Mae pob dinas yn y Deyrnas Unedig sydd wedi ymuno wedi gweld gostyngiad syfrdanol o ran nifer yr achosion HIV a ddaw i’r amlwg, a’n nod yw sicrhau mai Caerdydd a’r Fro fydd yr ardal ddinesig gyntaf yng Nghymru i gymryd rhan.

Yn lleol mae gennym ofal a thriniaeth wych ar gyfer HIV, ond mae yna dystiolaeth y gallem wneud yn well o ran diagnosis ar bobl sydd ag HIV a’u helpu i gael y driniaeth honno – oherwydd unwaith i bobl dderbyn triniaeth, ni allant ledu’r HIV. Mae Fast Track Caerdydd a’r Fro, yn gweithio trwy’r Bwrdd Iechyd, awdurdodau lleol Caerdydd a’r Fro a grwpiau cymunedol (megis eglwysi) yn anelu at brofi mwy o bobl iddynt dderbyn triniaeth i achub eu bywydau a mynd i’r afael â’r stigma sydd o hyd yn golygu fod rhai pobl yn anfodlon cymryd eu profi. Rydym yn anelu at gyrraedd dim achosion newydd erbyn 2030.

Cyn gynted ag y bydd amgylchiadau yn caniatáu, fe fyddwn yn cynnal ymgynghoriadau cymunedol yng Nghaerdydd er mwyn i bobl gael rhannu barn am beth ellir ei wneud – a beth all eich mudiad chi ei wneud i atal HIV yma yng Nghymru. Os hoffech dderbyn gwahoddiad i un o’r cyfarfodydd hynny, derbyn e-gopi o’n hadroddiad cychwynnol am y sefyllfa gyfredol, neu gael sgwrs am faterion HIV yn lleol ac unrhyw syniadau allai fod gennych, e-bostiwch ni trwy fasttrackcities@hiv.wales. Os ydych yn trydar, yna gallwch hefyd ddilyn ein hanes ar @CardiffFTC.

Lisa Power, Fast Track Caerdydd a’r Fro

Fel yr adroddwyd mewn Bwletinau Polisi blaenorol, mae Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon (CTBI), mewn partneriaeth â chlymblaid o elusennau amgylcheddol Cristnogol, yn eu plith ARocha UK (EcoChurch), Cymorth Cristnogol a CAFOD, sy’n aelodau o Cytûn – wedi bod yn cynllunio Sul yr Hinsawdd i uno eglwysi mewn gweddi a gweithredu er mwyn paratoi at COP26. Dyma gynhadledd ddiweddaraf y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd, cyfle anhepgor i’r byd ymateb i argyfwng yr hinsawdd.

Y bwriad gwreiddiol oedd cynnal COP 26 yn Glasgow yn Nhachwedd 2020, ac fe drefnwyd Sul yr Hinsawdd ar gyfer Medi 6, gan annog cynulleidfaoedd lleol i ddewis dyddiad addas o fewn Tymor y Cread 2020. Ond, o ganlyniad i COVID-19, bellach fe ohiriwyd COP26 tan 2021, ac nid yw’r dyddiadau newydd eto yn hysbys.

Mae Cymorth Cristnogol wedi mynegi ei gefnogaeth i’r penderfyniad i ohirio, fel y gall y byd ganolbwyntio ar fynd i’r afael â COVID-19. Cytunodd CAFOD, tra’n pwysleisio na ddylai gohirio COP26 arwain at ohirio gweithredu am yr hinsawdd, gan fod argyfwng yr hinsawdd yn parhau.

Cyhoeddir dyddiad newydd ar gyfer Sul yr Hinsawdd unwaith y ceir cadarnhad o ddyddiadau COP26. Ond bydd rhaglen Sul yr Hinsawdd yn dechrau ar Fedi 6, yn unol â’r amserlen wreiddiol, ac yn annog eglwysi i gyd-deithio gyda llywodraethau a chymdeithas sifil y byd wrth iddyn nhw baratoi at y gynhadledd.

Cyhoeddir gwybodaeth gychwynnol ar wefan www.climatesunday.org yn fuan, gyda’r detholiad o ddeunydd dwyieithog yn datblygu dros y misoedd nesaf. Cyfeirir eglwysi hefyd at raglenni sy’n bodoli eisoes, megis EcoChurch a Live Simply, i ddatblygu eu gwaith cynuelliadfaol eu hunain, a chynigir cyfleoedd iddynt gyd-weddïo a chyd-weithio ar draws gwledydd Prydain ac Iwerddon.

CYMRY YN CYMRYD EU LLE YNG NGHABINET CYSGODOL Y DU

Etholwyd Syr Keir Starmer AS yn Arweinydd Plaid Lafur y DU ac felly yn Arweinydd yr Wrthblaid yn San Steffan, ar Ebrill 4. Mae bellach wedi cyhoeddi ei holl He has now announced all his benodiadau mainc blaen, ac fe gafwyd lle i hanner y 22 AS Llafur yng Nghymru, tri ohonynt yn y Cabinet Cysgodol (print trwm). Dyma nhw:

Ysgrifennydd Cartref Cysgodol: Nick Thomas-Symonds

Ysgrifennydd Cysgodol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: Jo Stevens

Ysgrifennydd Cysgodol dros Gymru: Nia Griffith     
Gweinidog Cysgodol dros Gymru: Gerald Jones

Gweinidogion Tramor Cysgodol:  


Wayne David (y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica)      
Stephen Kinnock (Asia a’r Môr Tawel)    
Stephen Doughty (Affrica & Datblygu Rhyngwladol)    
Anna McMorrin (Datblygu Rhyngwladol)

Gweinidog Cysgodol yr Alban & Chwip: Chris Elmore

Chwipiau: Mark Tami, Jessica Morden

Ysgrifennydd Seneddol Preifat (PPS) i’r Arweinydd: Carolyn Harris

Y gweinidog cysgodol dros Ffydd yw Janet Daby, AS Lewisham East.

Cyfarwyddydd newydd Housing Justice Cymru

Mewn gwasanaeth Zoom dan arweiniad y Gwir Barchg Rob Wickham, Esgob Edmonton, a’r Archesgob John Davies, sefydlwyd Bonnie Navarra ar Ebrill 14 i gymryd lle Sharon Lee (bellach yn Gyfarwyddydd Cymdeithas Dai Aelwyd) yn Gyfarwyddydd ar Housing Justice Cymru. Mae HJ Cymru yn rhan o deulu Cytûn, ac yn gweithredu fel asiantaeth yr eglwysi ar fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru, a hynny mewn ffyrdd ymarferol (yn enwedig trwy gynnal llochesi nos a thrwy ddefnyddio tir sy’n weddill gan yr eglwysi i adeiladu cartrefi fforddiadwy) a thrwy ddylanwadu ar bolisïau llywodraethau Cymru a’r DU. Mae Grŵp Llywio i Gymru yn arolygu’r gwaith hwn ac yn cefnogi’r Cyfarwyddydd a’r staff a’r gwirfoddolwyr eraill. Cynrychiolir Cytûn gan y Parch. Gethin Rhys a mae gan nifer o aelod eglwysi gynrychiolaeth uniongyrchol hefyd. Gellir cysylltu â Bonnie trwy b.navarra@housingjustice.org.uk Gellir gweld y newyddion diweddaraf ar dudalen Facebook HJ Cymru.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN

Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Cytûn wedi dyfarnu cyfnod astudio sabothol i Gethin Rhys, Swyddog Polisi Cytûn. Y bwriad gwreiddiol oedd i’r sabothol fod am dri mis ym Mai-Gorffennaf 2020, ond mae’r amgylchiadau newydd yn golygu y bydd Gethin bellach yn cymryd y cyfnod sabothol mewn tri chyfnod ar wahân:

  • O Fai 7 – 31 2020, bydd Gethin yn gweithio gyda thîm o blith y trydydd sector, dan arweiniad Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, i gynhyrchu traethawd procio’r meddwl am Brexit a newid hinsawdd. Comisiynwyd hyn gan CGGC (WCVA) a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.
  • Yn ystod Gorffennaf 2020, bydd Gethin yn dilyn cyrsiau prifysgol arlein am newid hinsawdd er mwyn gwella ei ddealltwriaeth o agweddau gwyddonol yr argyfwng hwnnw.
  • Yn ystod 2021, bydd Gethin yn ymweld â Gogledd Iwerddon i astudio ymwneud yr eglwysi â’r Cynulliad yno, ac yn mynychu ambell gwrs wyneb-yn-wyneb na fydd ar gael yn 2020.

Yn ystod cyfnodau sabothol Gethin, ni fydd yn cyflawni ei waith arferol i Cytûn. Bydd e-byst yn cael eu danfon ymlaen yn ddi-ofyn at y Parch. Aled Edwards, Prif Weithredwr Cytûn, ond noder na fydd  Aled yn gallu ymateb i bob ymholiad yn ystod y cyfnodau hyn. Gwnaed trefniadau i aelodau eraill staff Cytûn a’r enwadau i ddirprwyo dros Gethin mewn cyfarfodydd lle bo’n bosibl. Bydd Cadeirydd Gweithgor Cymru ac Ewrop Cytûn, y Parch. Ddr Noel Davies, yn dirprwyo ar gyfer yr agwedd yna ar waith Gethin, a bydd gwirfoddolwyr o Gyngor Rhyng-ffydd Cymru yn dirprwyo dros Gethin yng nghyfarfodydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector.

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN:
Noder cyfeiriad a rhif ffôn ein swyddfa newydd

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Yst 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan (gyferbyn â Tŷ Brunel), Caerdydd CF24 0BL Ffôn y swyddfa: 03300 169860  Gethin: 03300 169857

Mudol/mobile: 07889 858062 E-bost: gethin@cytun.cymru  ww.cytun.co.uk @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Happy to communicate in Welsh and English

Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2020. Cyhoeddir y Bwletin nesaf 12 Mehefin 2020.