NEWYNU YNG NGHYMRU

Dyma enw dirdynnol adroddiad am ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Trussell. Mae un o bob pump o bobl yng Nghymru yn wynebu newyn, gyda phobl anabl, gofalwyr, teuluoedd â phlant ifanc a rhieni sengl ymhlith y rhai sy’n wynebu’r risg uchaf.

Y prif reswm yw diffyg arian, gan ddarlunio bod y system nawdd cymdeithasol yn methu ag amddiffyn pobl. Mae hyn yn arwain at lefelau pryderus o arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd, dyled gynyddol, a dirywiad mewn iechyd corfforol a meddyliol.

Mae’r elusen, a gefnogir gan lawer o eglwysi ledled Cymru, yn galw ar Lywodraeth y DU i greu ‘Gwarant Hanfodion’ i sicrhau nad yw taliadau Credyd Cynhwysol byth yn disgyn yn is na’r swm sydd ei angen i dalu am hanfodion bywyd.

Darparodd banciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru fwy na 185,000 o barseli bwyd brys dros y flwyddyn ddiwethaf, y nifer uchaf erioed, cynnydd o 85% o’i gymharu â phum mlynedd yn ôl. Dywed yr adroddiad fod y cynnydd cyson hwn yn dangos mai gwendidau’r system nawdd cymdeithasol sy’n gyrru’r angen am fanciau bwyd, ac nid y pandemig neu’r argyfwng costau byw yn unig.

Mae’r ymchwil hefyd yn canfod fod tua 6% o boblogaeth Cymru yn cael eu cefnogi gan gymorth bwyd elusennol, gan gynnwys banciau bwyd, ac eto nid oedd y rhan fwyaf o bobl a oedd yn wynebu newyn (74%) wedi cael mynediad at unrhyw fath o gymorth bwyd elusennol.

Mae’r elusen yn dweud y byddai llawer o bobl yn hoffi gweithio ond mae rhai yn wynebu anhawster i gael mynediad at swyddi, gan gynnwys pobl anabl a gofalwyr, a rhieni sy’n methu dod o hyd i ofal plant fforddiadwy. Mae mwyafrif (92%) y bobl a gyfeiriwyd at fanciau bwyd yn rhwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru yn cael budd-dal fel Credyd Cynhwysol ar sail prawf modd, ond nid oedd hyn yn darparu digon i dalu cost hanfodion.

Mae’r astudiaeth yn canfod nad yw gwaith cyflogedig bob amser yn amddiffyn pobl rhag gorfod defnyddio banciau bwyd. Mae un o bob pump o’r bobl sy’n cael eu gorfodi i droi at fanciau bwyd yn rhwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell yn y DU mewn cartref lle bo rhywun yn gweithio. Gwaith ansicr fel contractau dim oriau neu waith asiantaeth sydd gan ychydig llai na thraean (30%) o’r bobl mewn gwaith sydd wedi gorfod defnyddio banc bwyd.

Mae Ymddiriedolaeth Trussell a Sefydliad Joseph Rowntree yn galw ar lywodraeth y DU i greu ‘Gwarant Hanfodion’, i ymgorffori’n gyfreithiol lefel taliadau Credyd Cynhwysol, er mwyn sicrhau eu bod bob amser yn cwrdd ag eitemau hanfodol, fel bwyd a biliau. Unwaith y bydd hyn yn ei le, ni ddylai gostyngiadau fel ad-daliadau dyled i’r Llywodraeth neu oherwydd bod hawlydd wedi cyrraedd y Uchafswm Budd-daliadau ostwng y cymorth yn is na’r lefel hon.

Dywed Susan Lloyd-Selby, Arweinydd Rhwydwaith Cymru Ymddiriedolaeth Trussell: “Mae cael eich gorfodi i droi at fanc bwyd i fwydo’ch teulu yn realiti brawychus i ormod o bobl yng Nghymru, ond fel y mae Newynu yng Nghymru yn dangos, dim ond arwyneb y sefyllfa yw hon. Mae cannoedd yn fwy o bobl yn newynu. Nid yw hyn yn iawn. Nid banciau bwyd yw’r ateb pan fo pobl yn mynd heb yr hanfodion yn un o economïau cyfoethocaf y byd. Mae angen system nawdd cymdeithasol arnom sy’n amddiffyn pobl ac yn rhoi iddynt yr urddas o dalu am eu hanfodion eu hunain, fel bwyd a biliau.”

Ychwanega Susan, “Ledled Cymru, mae eglwysi yn chwarae rhan hanfodol yng ngwaith banciau bwyd, gan eu cefnogi trwy ddarparu arweiniad, gweddi, gwirfoddolwyr, bwyd a chyllid. Mae eglwysi lleol wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau ac yn gysylltiedig â’r strwythurau a’r sefydliadau a all helpu i greu newid cymdeithasol. Mae cymunedau eglwysig yn cynnwys miloedd o bobl y gall eu heiriolaeth ar y cyd fod yn llais bwerus dros gyfiawnder. Credwn fod gan eglwysi rôl unigryw i’w chwarae yn hyn a gobeithiwn y byddant yn defnyddio eu llais i gefnogi ein galwadau am newid i roi terfyn ar yr angen am fanciau bwyd.” Felly mae Ymddiriedolaeth Trussell ar hyn o bryd yn ceisio recriwtio llysgenhadon eglwysig a allai roi 3-4 awr y mis i gefnogi ymgysylltiad eglwysig.

Yn fuan ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru na fydd yn ariannu prydau am ddim yn ystod gwyliau’r haf eleni ar gyfer y plant hynny sydd â hawl yn ystod y tymor i gael prydau ysgol am ddim. Bydd hyn yn rhoi pwysau pellach ar deuluoedd yn ystod yr haf. Wrth drafod cwestiwn amserol yn Senedd Cymru ar Orffennaf 12 gwelwyd anniddigrwydd trawsbleidiol ynghylch y penderfyniad hwn, a dywedwyd bod banciau bwyd yn poeni am yr effaith bosibl.

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei rhaglen deddfu

Ar 27 Mehefin, cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, gyda rhagor o fanylion yn dilyn mewn cyhoeddiadau gan weinidogion unigol. Gallwn ddisgwyl i’r ddeddfwriaeth ganlynol ddod gerbron y Senedd yn ystod y 12 mis nesaf:

  • Bil Addysg Gymraeg, i hybu addysg cyfrwng Cymraeg a’r defnydd o’r Gymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg yng Nghymru.
  • Bil Bysiau (Cymru), i gyflwyno system fasnachfreinio ar gyfer llwybrau bysiau cyhoeddus.
  • Bil Diogelwch Tomenni Segur (Cymru) i sefydlu awdurdod goruchwylio a threfn reoleiddio newydd ar gyfer tomenni glo a thomenni gwastraff eraill yng Nghymru.
  • Deddfwriaeth diwygio gofal cymdeithasol, i ddileu elw preifat o ofalu am blant mewn gofal; cyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus (fel sydd eisoes yn bodoli ar gyfer gofal cymdeithasol); a newid agweddau ar reoleiddio gofal cymdeithasol.
  • Deddfwriaeth diwygio gweinyddu etholiadol i symleiddio cofrestru pleidleiswyr a phleidleisiau post a chydgrynhoi deddfwriaeth gyfredol am etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau lleol.
  • Bil Diwygio’r Senedd i gynyddu maint Senedd Cymru i 96 aelod gan ddefnyddio system rhestr gaeedig a sefydlu ffiniau etholaethau newydd ar gyfer etholiad 2026.
  • Bil Cwotâu Rhyw i gyflwyno cwotâu rhyw ar gyfer ymgeiswyr etholiadau Senedd Cymru.

Yn ystod gweddill y Senedd hon (tan 2026) bydd y ddeddfwriaeth ganlynol yn cael ei chyflwyno:

  • Bil Rheoleiddio Amgylcheddol a Thargedau Bioamrywiaeth (Cymru) i gymryd lle rheoliadau amgylcheddol blaenorol yr UE a chyflwyno targedau cyfreithiol ar gyfer bioamrywiaeth ac adfer natur.
  • Bil i gyflwyno ardollau twristiaeth lleol a thrwyddedu statudol ar gyfer llety gwyliau.
  • Deddfwriaeth sy’n diwygio gwasanaethau digartrefedd.
  • Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) i wella rheoleiddio a llais preswylwyr ar gyfer pob adeilad preswyl amlfeddiannaeth a gwella rhagofalon tân, ac is-ddeddfwriaeth i dynhau’r broses o reoleiddio’r proffesiwn rheoli adeiladu.
  • Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru) i osod safonau cenedlaethol ar gyfer gyrwyr a cherbydau a galluogi gwell rheoleiddio ar draws ffiniau awdurdodau lleol.
  • Bil Tribiwnlysoedd (Cymru) i symleiddio gweinyddu tribiwnlysoedd datganoledig Cymru.
  • Cydgrynhoi cyfreithiau cynllunio yng Nghymru.
  • Is-ddeddfwriaeth i gyfyngu ar siopau mawrion yn gostwng prisiau a hybu amlbrynu bwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster, siwgr a halen. (Soniodd y cyfryngau yn gamarweiniol am “wahardd bargeinion bwyd” ond dim ond i gynhyrchion sy’n uchel mewn braster, siwgr a halen y byddai’r cyfyngiadau’n berthnasol).

Mae’r ‘Grŵp Laser’ o swyddogion eglwys a chymdeithas eglwysi a mudiadau Cristnogol Cymru yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn i fonitro deddfwriaeth ac ymgynghoriadau’r Senedd, i rannu gwaith a safbwyntiau â’i gilydd, ac i drefnu ymateb ar y cyd i’r Senedd a Llywodraeth Cymru pan fo angen. Byddai’r Grŵp yn falch o glywed am bynciau ddylai fod dan sylw, drwy gethin@cytun.cymru

Cyflwyno Ffydd yn Ewrop

Mae mudiad Ffydd yn Ewrop (Faith in Europe), a groesawyd yn ddiweddar fel aelod ‘Categori B’ o Cytûn, yn elusen addysgol. Ei nod yw briffio ei aelodau sy’n cynrychioli Eglwysi Prydain a’r cyhoedd ehangach ar faterion gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol ledled Ewrop, o safbwyntiau ffydd.

Esblygodd Ffydd yn Ewrop o sawl sefydliad blaenorol yng nghyd-destun gwleidyddol a chrefyddol y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gyda’i wreiddiau’n dyddio’n ôl i 1961. Mae cyfraniad Ffydd yn Ewrop i drafod, dadansoddi ac ysgolheictod ar y berthynas rhwng y cyd-destunau crefyddol, gwleidyddol ac economaidd wedi bod yn unigryw ac o werth parhaol. Mae Ffydd yn Ewrop yn parhau i gynnig rhaglen gyhoeddus ar gyfer dysgu a thrafod sy’n adlewyrchu pryderon heddiw ac yn rhagweld pryderon yfory.

Mae Ffydd yn Ewrop yn cynnull pwyllgor rheoli eciwmenaidd sy’n cynnwys cynrychiolwyr o eglwysi Prydain, sy’n cydweithio i drefnu seminarau ar-lein o’r enw Briefings, a gynhelir bedair gwaith y flwyddyn. Mae un neu ddau o siaradwyr gwadd yn cyflwyno pwnc penodol cyfredol, ac yna ceir cwestiynau, trafodaethau grŵp a chyfraniadau gan aelodau. Mae’r sesiynau yn gyflwyniadau wedi’u paratoi’n drwyadl sy’n archwilio pynciau yn fanwl iawn. Mae’r rhain yn gyfleoedd cyfranogol gyda chynulleidfa fach sy’n ymgysylltu’n fawr. Mae sesiynau diweddar wedi cynnwys Fidesz (Cynghrair Ddinesig Hwngari) a’i chysylltiadau Eglwysig gan y Parch. Alex Faludy, Amaethyddiaeth a Newid Hinsawdd – Safbwynt Uniongred gan yr Archoffeiriad Dr Daniel BUDA, Gobaith a Chyfrifoldeb mewn Ewrop sy’n Newid gan y Parchedig Jane Stranz ac Anthea Sully, Myfyrdodau ar Iwerddon ar ôl Brexit gan Esgob Catholig Derry Donal McKeown ac Uwcharolygydd Rhanbarth yr Eglwys Fethodistaidd yn Iwerddon, Rhanbarth y Gogledd Orllewin, y Parch Dr Stephen Skuce.

Mae Ffydd yn Ewrop wedi gweld newid sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf wrth symud i ddigwyddiadau ar-lein. Mae hyn wedi galluogi mwy o gyfranogi gan ei aelodau ledled y DU a hefyd gan siaradwyr o bob rhan o Ewrop. Yn 2022 cyflwynodd Ffydd yn Ewrop Sesiynau Panel, sef cyfarfodydd byrrach sy’n cynnull ymarferwyr ac academyddion ar gyfer cyfraniadau byr iawn a thrafodaethau llawn ar bynciau amserol mewn cyd-destunau sy’n newid yn gyflym. Arweiniodd hyn at sesiwn banel yn archwilio ymateb eglwysi i’r rhyfel yn yr Wcráin.

Mae newidiadau pellach wedi cynnwys penodi aelodau a swyddogion newydd yn 2022 a brandio newydd yn 2023. Cefnogir gwaith Ffydd yn Ewrop trwy bartneriaethau ag Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon a Chanolfan Crefydd, Cymod a Heddwch (Prifysgol Winchester).

Mae hwn yn gyfnod diddorol i Ffydd yn Ewrop. Os ydych yn ymddiddori mewn crefydd a’i chydymwneud â materion gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol yn Ewrop, mae Ffydd yn Ewrop yn croesawu pawb i fynychu ei sesiynau briffio. Mae Ffydd yn Ewrop yn darparu cyhoeddiadau ac adroddiadau achlysurol, sydd i’w gweld ar ei wefan. Cyhoeddir y gweminarau hefyd ar ei wefan https://faithineurope.org.uk/

Cysylltwch â’r Ysgrifennydd Cyffredinol Rebecca Bellamy – generalsecretary@faithineurope.org.uk

Gweithgor Cymru ac Ewrop Cytûn

Yn ogystal â gweithio gyda Faith in Europe (gweler y dudalen flaenorol), mae gan Cytûn ei Weithgor ei hun am Gymru ac Ewrop. Wedi’i sefydlu ar gais ein haelod eglwysi yn dilyn refferendwm 2016, i ddechrau dilynodd y Gweithgor y wybodaeth ddiweddaraf am broses Brexit ar ran ein haelodau. Nid yw’r broses honno wedi’i chwblhau mewn rhai ffyrdd o hyd – a dyna pam y lluniodd Llywodraeth y DU Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio). Mae hon yn diddymu bron i 600 o ddarnau o ddeddfwriaeth Ewropeaidd, ac yn rhoi mecanwaith ar waith i ddirymu neu ddiwygio’r gweddill, yn San Steffan ac yn y Senedd.

Yng nghyfarfod y Gweithgor fis Gorffennaf, mynegwyd pryder bod mwy na hanner y darnau o ddeddfwriaeth i’w diddymu ar unwaith yn rheoliadau amgylcheddol. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi rhestr o’r rheoliadau hyn gyda chrynodeb byr o’u diben. Mae llawer wedi darfod, neu’n ymwneud â Lloegr yn unig, ond ymddengys fod rhai yn dileu mesurau diogelu pwysig, megis cyfyngu ar bysgota tiwna glas a rhai mathau eraill o bysgod. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bwriadau eto o ran diwygio a dirymu cyfraith yr UE, a bydd y Gweithgor yn parhau i fonitro’r sefyllfa.

Yn y llun: Yr Esgob Rowan Williams yn siarad yng Nghymanfa CEC. Llun trwy garedigrwydd Siôn Brynach

Nawr bod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae’r Gweithgor yn canolbwyntio ar feithrin perthynas rhwng eglwysi Cymru ac eglwysi ar draws Ewrop (nid yn unig yng ngwledydd yr UE). Cyfarfu Cynhadledd Eglwysi Ewropeaidd, y mae Cytûn a nifer o’n haelod eglwysi’n rhan ohoni, yn Tallinn yn Estonia ym mis Mehefin, a chafwyd adroddiadau cynhwysfawr ar y Gymanfa yng nghyfarfod y Gweithgor ym mis Gorffennaf. Gellir darllen datganiadau’r Gymanfa am Wcráin, newid hinsawdd a mudo yma a gellir gweld adroddiadau fideo Cytûn o’r Gymanfa yma.

Mae Cytûn hefyd, ynghyd â nifer o’n haelod eglwysi, yn aelod o Gomisiwn yr Eglwysi dros Fudwyr yn Ewrop (CCME). Gyda’r Beibl yn ein hannog i “groesawu’r dieithryn” ac uchelgais Cymru i ddod yn genedl noddfa, mae Cytûn yn edrych i weithio gyda CCME ac eraill i fwrw ymlaen â’n cyfraniad i’r maes polisi pwysig hwn.

.

Ffyrdd y Pererinion

Llun: Ffynnon Gwenffrewi trwy garedigrwydd Esgobaeth Wrecsam

Boed hynny i ailddarganfod hanes cudd, ar gyfer ffydd, ffitrwydd neu dim ond am hwyl, mae casgliad newydd o lwybrau cerdded pererindod Catholig yng Nghymru a Lloegr bellach i’w weld ar-lein.

Mae www.pilgrimways.org.uk yn darparu arweinlyfrau cerdded, ffeiliau GPX, gweddïau ac adnoddau eraill i’r rhai sy’n awyddus i fynd ar bererindod. Mae ‘Pasbortau Pererinion’ y gellir eu lawrlwytho, ac ar ddiwedd taith gerdded gall pererinion dderbyn tystysgrif swyddogol, fel y ‘testimonium’ sydd ar gael ar ddiwedd y Camino di Santiago de Compostela a’r Via Francigena, fel y gwelir yng nghyfres deledu’r BBC, Pilgrimage.

Mae Pilgrim Ways wedi lansio menter newydd o’r enw ‘Calonnau yn Chwilio am Dduw’. Daw’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’r enw hwn o eiriau’r Pab Ffransis am bererinion: ‘Pwy bynnag y bônt—yn ifanc neu’n hen, yn gyfoethog neu’n dlawd, yn sâl neu yn ofidus, neu yn dwristiaid chwilfrydig—gadewch iddynt gael croeso teilwng, oherwydd ym mhob un y mae calon yn chwilio am Dduw, weithiau heb fod yn gwbl ymwybodol ohono.’

Mae hwn yn brosiect tair blynedd i annog pobl o bob ffydd a dim ffydd i bererindota ar droed yn eu hardal eu hunain. Mae’r Ffyrdd yn cychwyn ym mhob un o’r 22 Eglwysi Gadeiri Gatholig yng Nghymru a Lloegr ac yn ymestyn trwy wlad a thref i un neu fwy o’r Cysegrfeydd lleol. Y llwybrau yng Nghymru yw Llwybr Sant David Lewis yn Archesgobaeth Caerdydd, y Ffordd i Ffynnon Sant Antwn yn Esgobaeth Mynyw, a Ffordd Treffynnon yn esgobaeth Wrecsam.

Mae’r llwybrau newydd hyn yn wyrddach hefyd. Gall cyrraedd rhai o safleoedd mwyaf sanctaidd Tiroedd Cred olygu dechrau neu orffen y daith gyda hediad rhyng-gyfandirol – ond mae pererinion lleol yn gadael olion traed carbon llawer llai.

Y dyn y tu ôl i’r prosiect hwn yw meddyg teulu wedi ymddeol, Dr Phil McCarthy. Cerddodd Phil o Gaergaint i Rufain yn 2008 ac o Rufain i Istanbul yn 2015. Er gwaethaf sciatica, hyd yma mae wedi cerdded saith o’r Ffyrdd ac mae’n bwriadu cwblhau’r gweddill dros y ddwy flynedd nesaf. Dywed Phil: ‘does dim rhaid i chi fod yn ffurfiol grefyddol na cherdded fel rhan o grŵp mawr i ddilyn y Ffyrdd hyn. Mae cerdded yn ein galluogi ni i gyd i dalu sylw, i weld pethau bach ac i fwynhau lleoedd cyffredin. Rwy’n gobeithio y bydd y Llwybrau Pererinion newydd yn gyfle i Gristnogion ddyfnhau eu ffydd, ond hefyd i bobl o bob ffydd a dim ffydd brofi pererindod mewn cyd-destun Catholig gyda chyn lleied â phosibl o gost ariannol ac amgylcheddol.’

Mae gan Gymru hanes unigryw o bererindod Gatholig a nifer o fannau cysegredig sy’n bwysig iawn i dreftadaeth y gymuned Gatholig Gymreig. Cymerwch olwg ar y wefan hon, yn enwedig ar y map rhyngweithiol a hanes pererindod Gatholig yng Nghymru a Lloegr. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Molly Conrad: molly.conrad@cbcew.org.uk

YMCHWILIAD COVID 19 Y DU

Mae’r ymchwiliad, dan gadeiryddiaeth y Farwnes Hallett, wedi cynnal gwrandawiadau cyhoeddus Modiwl 1 am barodrwydd y DU ar gyfer pandemig hyd at Ionawr 2020. Roedd hyn yn cynnwys tystiolaeth gan Lywodraethau Cymru a’r DU, gan arbenigwyr yn y maes, a chan Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru. Mae fideos a thrawsgrifiadau pob sesiwn i’w gweld yma.

Cyfeiriwyd yn gryno eisoes at grwpiau ffydd yng Nghymru. Mae Cytûn a Chyngor Rhyng-ffydd Cymru yn cydlynu cyflwyniad gan eglwysi a grwpiau ffydd eraill ar gamau gweithredu’r ddwy lywodraeth o Chwefror 2020 ymlaen ar gyfer Modiwl 2B. Dylai unrhyw enwad neu rwydwaith, eglwys leol neu grŵp ffydd arall sydd am gyfrannu at y cyflwyniad hwn anfon mewnbwn at gethin@cytun.cymru  erbyn Medi 15fed fan hwyraf, fel y gellir ei baratoi mewn da bryd ar gyfer yr Ymchwiliad.

PYTIAU POLISI

Sul Digartrefedd 2023

Cynhelir hwn ar ddydd Sul Hydref 8, ac yn ôl yr arfer bydd Housing Justice Cymru, sy’n aelod o Cytûn, yn rhannu ystod o adnoddau yn ymwneud â digartrefedd i eglwysi eu defnyddio. Bydd y rhain yn cynnwys gweddïau perthnasol, darlleniadau ac adnoddau i’r Ysgol Sul, yn ogystal â gwybodaeth a deunyddiau addysgol. Anfonwch e-bost at j.whitney@housingjustice.org.uk  am ragor o fanylion.

Pythefnos Masnach Deg 2024 – newid dyddiadau  
Mae’r flwyddyn nesaf yn nodi 30 mlynedd o nod masnach deg yn y DU. Drwy gydol 2024, bydd llawer o ffyrdd i ddathlu’r garreg filltir arwyddocaol hon. Ac i ysgwyd pethau ychydig, mae Pythefnos Masnach Deg yn symud! Yn 2024, cynhelir Pythefnos Masnach Deg 9 – 22 Medi.           
Bydd y newid hwn yn rhoi mwy o amser i ni i gyd baratoi a dathlu 30 mlynedd o ffermwyr yn hybu newid cadarnhaol mewn cymunedau ledled y byd.      
Darllenwch fwy am gynlluniau ar gyfer Pythefnos Masnach Deg 2024 yma.

Gwylnos dawel ger y Senedd dros gynaliadwyedd a gweithredu ar yr hinsawdd     
Mae Crynwyr De Cymru wedi bod yn cynnal Gwylnos Dawel ar gyfer cynaliadwyedd a gweithredu ar yr hinsawdd y tu allan i’r Senedd, am 2yp ar y trydydd dydd Mercher o bob mis ers Ionawr 2022, gyda chaniatâd awdurdodau’r Senedd.
Mae distawrwydd gweddi a llonyddwch myfyrdod yn anfon neges gref at y rhai sydd mewn grym. I ategu’r distawrwydd, rydym yn dosbarthu gwybodaeth i bobl sy’n cerdded heibio sy’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar yr hinsawdd: pwysleisiwn y rhybudd terfynol diweddar gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd: Dyma’r foment olaf, y cyfle olaf i lywodraethau weithredu.       
Mae croeso i unrhyw un sy’n barod i gymryd rhan mewn gwylnos dawel ymuno â ni. Byddwn yn eistedd o dan y bondo sy’n cysgodi terasau’r Senedd. Dewch â chlustog neu gadair blygu gyda chi, gan fod y terasau llechi yn galed ac yn oer.       
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Robin Attfield: AttfieldR@caerdydd.ac.uk

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL

Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost: gethin@cytun.cymru         www.cytun.co.uk        @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Happy to communicate in Welsh and English

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 20 2023. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar Fedi 28 2023.