Yn 2005 ymrwymodd yr enwadau o fewn Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol i gyd-deithio mewn perthyns gyfamodol tuag at yr amcanion isod. Dyma eiriau’r datganiad wnaed yr adeg honno.
Dyma Ddatganiad Trefeca
Datganwn o’r newydd ein hymrwymiad i gyd-deithio mewn perthynas gyfamodol. Parhawn i fod yn ymrwymedig i nod ein taith, sef undod gweladwy yr Eglwys. Yn bartneriaid Cyfamodol, o fewn teulu Cytûn, fe ymrwymwn ein hunain yn ystod y cyfnod chwe blynedd 2005-2011 i:
rannu yn llawnach yng ngweinidogaethau ein gilydd, gan wneud y defnydd gorau posibl o ddarpariaethau pob eglwys;
ymgymryd â gwaith newydd gyda’n gilydd bob tro, ag eithrio lle bo raid i ni ar dir cydwybod wneud hynny ar wahan;
cydgrynhoi adnoddau er mwyn tystiolaethu yn Unedig i Gymru; a
gwrando ar yr hyn y mae’r genedl yn dweud wrth yr Eglwys.