Fe gynhelir etholiadau ymhob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru ar Fai 5 2022. Mewn llawer man, fe fydd yna etholiadau ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned hefyd. Yn yr holl etholiadau hyn, mae pobl sy’n 16 a 17 oed yn gymwys i bleidleisio, yn ogystal a’r sawl sydd dros 18, a mae llawer o ddinasyddion tramor hefyd yn gymwys i bleidleisio. Mae gwefan y Comisiwn Etholiadol yn gadael i chi wirio a ydych yn gymwys i bleidleisio.
Er mwyn pleidleisio mae’n rhaid cofrestru erbyn Ebrill 14 2022.

Ar y dudalen hon byddwn yn cynnwys gwybodaeth am rai o’r pynciau fydd yn codi yn yr etholiadau hyn ac yn awgrymu cwestiynau y gallwch eu gofyn i ymgeiswyr – wyneb yn wyneb ar stepen y drws, neu trwy lythyr neu ebost atynt yn ystod yr ymgyrchu.

Awdurdodau lleol a’r argyfwng hinsawdd

Cefndir

Er bod gweithredu gan lywodraeth leol yn dibynnu i raddau helaeth ar gyllid a’r ffordd y caiff pwerau eu datganoli, gall awdurdodau lleol wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae ymchwil gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn amcangyfrif bod gan awdurdodau lleol bwerau neu ddylanwad dros tua thraean o’r holl allyriadau yn eu hardaloedd.[1]. Gallwch holi ymgeiswyr am eu cynlluniau hinsawdd mewn pum maes allweddol:

1. Llunio cynlluniau datgarboneiddio

Yng Nghymru, mae pob cyngor lleol wedi cyhoeddi cynllun datgarboneiddio. Mae pob un wedi ymrwymo i gyrraedd sero net o ran eu gweithgarwch eu hunain erbyn 2030 fel rhan o nod cyffredinol Llywodraeth Cymru o gael sector cyhoeddus sero net erbyn y dyddiad hwnnw, ac i gyfrannu ymhellach at y nod o Gymru sero net erbyn 2050[2]. Y dasg yn awr yw craffu ar ansawdd y cynlluniau hyn a dal cynghorau’n atebol am weithredu. Gallwch weld sut mae eich cyngor yn cymharu ag eraill a nodi’r hyn y gallant ei wella https://councilclimatescorecards.uk/

2. Trafnidiaeth

Bydd systemau trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol, carbon niwtral a diogel yn chwarae rhan allweddol mewn adferiad cyfiawn a gwyrdd yn lleol. Mae cynghorau cyfagos yn cydweithio fel cydbwyllgorau rhanbarthol i oruchwylio cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol a gallant flaenoriaethu ymdrechion datgarboneiddio. Gallant hefyd chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r newid i ddefnyddio cerbydau trydan a datblygu seilwaith cerdded a beicio.

3. Adeiladau

Mae cynghorau yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod adeiladau newydd yn ynni-effeithlon a bod modd ôl-osod hen adeiladau gyda gwell insiwleiddio a systemau gwresogi. Mae hyn yn berthnasol i adeiladau sy’n eiddo i’r cyngor ac adeiladau sy’n eiddo preifat, gan eu bod yn goruchwylio’r cynllunio a rheoleiddio (er eu wedi eu cyfyngu gan safonau a osodwyd gan y llywodraeth genedlaethol). Gallant fapio’r stoc tai lleol a deall orau beth yw anghenion penodol pobl a lleoedd yn eu hardal.

4. Ynni

Gall pob cyngor annog datblygu seilwaith ynni glân. Gallant ddod â phartneriaid lleol perthnasol ynghyd i ddatblygu cynlluniau ar gyfer dyfodol ynni lleol, gallant ddylanwadu ar weithredu seilwaith ynni glân gyda pholisi cynllunio, a chynnig cymorth i bobl leol a sefydliadau ynni cymunedol ymgymryd â phrosiectau ynni.

5. Gwastraff

Mae cynghorau yn gyfrifol am gasglu a gwaredu gwastraff. Gallant gymryd camau i gynyddu ailgylchu, sicrhau bod yna gasgliadau gwastraff bwyd a gardd, a gwella cyfathrebu ynghylch gwaredu gwastraff yn briodol.

Beth yw’r weledigaeth?

Yr argyfwng hinsawdd yw mater mwyaf brys ein hoes, ac mae cyfiawnder i bobl a’r blaned yn ganolog i’n diwinyddiaeth[3]. Mae’r egni a adeiladwyd o amgylch COP26 wedi cilio braidd, wrth i gytundebau rhyngwladol siomi a dadrithio cymunedau pryderus ar lawr gwlad. Mae ymgysylltu ar faterion hinsawdd ar lefel leol, trwy gefnogi ein cynghorau i wneud sero net yn realiti yn ein cymdogaethau, yn cyflwyno cyfle llawer mwy agosatoch i eglwysi geisio cyfiawnder yn eu cymunedau. Wrth inni wneud newidiadau i’n ffyrdd o fyw, ein cartrefi a’n hadeiladau ein hunain, gall eglwysi arwain y ffordd yn lleol wrth helpu awdurdodau i gyflawni trosglwyddiad cyfiawn i sero net.

Cwestiynau i ymgeiswyr

  1. Beth yw’r camau cyntaf y byddwch yn eu cymryd i sicrhau llwyddiant Cynllun Datgarboneiddio eich cyngor lleol?
  2. Pa bwerau ac adnoddau ychwanegol sydd eu hangen arnoch gan lywodraeth genedlaethol i allu cyflymu’r broses o drosglwyddo i sero net yn y gymdogaeth hon?
  3. Sut y byddwch yn sicrhau bod y cyfnod pontio i sero net yn bontio cyfiawn a theg, yn enwedig i’r rhai sydd eisoes yn cael trafferth gyda chostau byw?
  4. Sut gall fy eglwys, ynghyd â grwpiau cymdeithas sifil lleol eraill, eich cefnogi i gyflawni hyn?

Deunydd darllen/adnoddau pellach

Paratowyd y ddogfen gan Matt Ceaser gyda mewnbwn gan Gethin Rhys, Mawrth 2022.
Mae’r wybodaeth yn gywir adeg ei hysgrifennu.


[1] https://www.wlga.cymru/decarbonisation-support-programme-for-welsh-local-authorities

[2] https://data.climateemergency.uk/councils/

[3] https://www.jointpublicissues.org.uk/wp-content/uploads/2021/03/Hope-in-Gods-Future-3rd-Edition.pdf

Mudo, lloches a ffoaduriaid

Cefndir

Mae cwestiynau ynghylch mudo a lloches wedi bod ar flaen y drafodaeth wleidyddol dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae effaith barhaus gadael yr Undeb Ewropeaidd a’r argyfyngau dyngarol yn Afghanistan a’r Wcráin wedi’u dwyn i sylw amlycach, wrth i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â’i ‘Fil Cenedligrwydd a Ffiniau’ a fyddai’n gosod cyfyngiadau llymach ar sut y gall pobl ddod i mewn i’r wlad yn gyfreithlon.

Er bod polisi wedi’i osod ar lefel y DU, caiff ei weithredu ei oruchwylio gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Mae cynghorau’n gweithio i gefnogi a chyflwyno’r rhaglenni niferus ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd ar waith ar hyn o bryd. Mae cynghorau’n ceisio gweithio gyda llywodraethau canolog y DU a Chymru i ddod o hyd i atebion cynaliadwy sy’n lleihau’r pwysau ar awdurdodau lleol, eu cymunedau ac unigolion sy’n agored i niwed. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cymryd rhan yng Nghynllun Adsefydlu Afghanistan. Mae awdurdodau lleol hefyd yn derbyn cyllid cenedlaethol ar gyfer cynllun Cartrefi i Wcráin, a mae ganddynt gyfrifoldeb i weinyddu a sicrhau bod y cynllun yn rhedeg yn esmwyth ac yn ddiogel.

Ceiswyr lloches a ffoaduriaid

Amcangyfrifir bod pobl a ddaeth i’r DU yn wreiddiol i geisio lloches yn cyfrif am 5% o boblogaeth y DU a aned dramor a 0.6% o gyfanswm poblogaeth breswyl y DU yn 2019. Felly, maent yn lleiafrif bach ond arwyddocaol a chynyddol yn y DU.

Ers 2015, mae rhaglen newydd i adsefydlu ffoaduriaid wedi bod ar waith, yn dod â ffoaduriaid yn uniongyrchol o sefyllfaoedd argyfyngus i’r DU. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cynnig noddfa i ffoaduriaid yn y modd hwn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn rhan o nod Llywodraeth Cymru y dylai Cymru fod yn Genedl Noddfa i’r rhai sy’n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth[1], syniad a ysbrydolwyd gan eglwysi ac eraill yng nghymdeithas Cymru. Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd wedi cael croeso i Gymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf o’r tu allan i Ewrop wedi dod o Syria neu ranbarth ehangach y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica.

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am integreiddio ymfudwyr a ffoaduriaid y maent yn eu cartrefu – mae hyn yn cynnwys mesurau fel gofal iechyd, mynediad at addysg, cyngor ar dai a chysylltiadau â sefydliadau cymunedol. Mae gan awdurdodau lleol, felly, ran bwysig i’w chwarae wrth feithrin cydlyniant cymunedol.

Croesawu’r dieithryn

Fel Cristnogion, rydyn ni’n argyhoeddedig fod pob un wedi eu creu yn gyfartal ar ddelw Duw. Fel eglwysi, credwn yn gryf y dylai ein gwlad gynnig noddfa i ffoaduriaid a bod yn rhaid inni geisio meithrin diwylliant cynhwysol i bawb, waeth beth fo’u cefndir neu eu cenedligrwydd. Cymerwn ysbrydoliaeth o’r Beibl, megis y cyfarwyddiadau yn Lefiticus 19 i garu ‘tramorwyr’ fel eich hun a chymaint â phobl a aned yn frodorol, neu stori Iesu ym Mathew 5 ynglŷn â chroesawu dieithryn fel petaem yn croesawu Iesu ei hun.

Mae eglwysi mewn sefyllfa dda i ddarparu cymuned a gofal i’r rhai sydd wedi colli cartrefi a theulu ac sy’n gwella ar ôl trawma. Mae eglwysi hefyd yn chwarae rhan mewn cysylltu noddwyr â cheiswyr lloches fel rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin. Felly, gall cydberthynas dda rhwng eglwysi ac awdurdodau lleol wella ein cymdogaeth yn sylweddol.

Yn fyd-eang, mae nifer y bobl sy’n cael eu dadleoli o’u cartrefi ar ei uchaf erioed; gall gwrthdaro, cam-drin hawliau dynol, newid hinsawdd a thlodi oll gyfrannu. Bydd sut mae cymunedau lleol yn addasu i realiti mudo cynyddol – ac yn bwysicach fyth yn datblygu strategaeth effeithiol i groesawu’r dieithryn – yn parhau i fod yn bwysig yn y blynyddoedd i ddod.

Cwestiynau i ymgeiswyr

1. A ydych yn cefnogi’r nod i Gymru fod yn Genedl Noddfa i’r rhai sy’n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth?

2. Sut fyddech chi’n sicrhau bod ein hardal yn parhau i chwarae ei rhan wrth groesawu ffoaduriaid/ceiswyr lloches o Afghanistan fel rhan o Gynllun Adsefydlu Afghanistan?

3. Pa rôl ydych chi’n gweld y cyngor yn ei chwarae wrth groesawu ac integreiddio ceiswyr lloches a ffoaduriaid, gan gynnwys ceiswyr lloches o’r Wcráin?

Paratowyd y ddogfen gan Ryan McMahon gyda mewnbwn gan Gethin Rhys, Ebrill 2022

Mae’r wybodaeth yn gywir adeg ei hysgrifennu.


[1] Gweler https://wales.cityofsanctuary.org/cy/  a https://sanctuary.gov.wales/cy