Darllenwch yr holl flogiau Cymraeg yn ystod 2020-21 ar wefan Sul yr Hinsawdd
DATGANIAD SUL YR HINSAWDD 14 Chwefror 2022
Sul yr Hinsawdd yn nodi cyflawniadau’r eglwysi ar y cyd ac yn gadael gwaddol barhaol
Ar ôl ysgogi miloedd o eglwysi a grwpiau eglwysig ledled Prydain ac Iwerddon i weithredu ar newid hinsawdd yn y cyfnod cyn COP26, mae ymgyrch Sul yr Hinsawdd bellach wedi dod i ben, gan adael gwaddol parhaol o adnoddau gwerthfawr i eglwysi gymryd camau pellach.
Cymerodd dros 2,300 o eglwysi a grwpiau eglwysig ledled Prydain ac Iwerddon ran ym menter Sul yr Hinsawdd yn y cyfnod cyn COP26, gan fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd trwy gynnal gwasanaethau Sul yr Hinsawdd, ymrwymo i weithredu ymarferol a chodi llais dros gyfiawnder hinsawdd. Mae’r defnydd helaeth hwn o’r fenter ar draws traddodiadau eglwysig amrywiol yn dangos ymrwymiad cynyddol gan eglwysi lleol i weithredu ar newid hinsawdd. Dyma hefyd oedd yr ymateb eciwmenaidd mwyaf i’r argyfwng hinsawdd yn y DU yn y cyfnod cyn COP26.
Er enghraifft, ym mis Ebrill 2021 gosododd Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yr her uchelgeisiol i’r Eglwys honno gyrraedd di-garbon net ar draws eglwysi, cadeirlannau, esgobaethau ac ystadau ysgolion erbyn 2030.
Nawr, cynllun y glymblaid o eglwysi ac asiantaethau Cristnogol a arweiniodd Sul yr Hinsawdd yw adeiladu ar y cynnydd a wnaed dros gyfnod yr ymgyrch. Fel rhan o hyn, byddant yn cynnal gwefan ddwyieithog Sul yr Hinsawdd – www.climatesunday.org – sy’n dangos sut y gall eglwysi lleol gymryd camau pellach i warchod natur. Mae ystod eang o adnoddau addoli yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac arweiniad ar sut i barhau i godi llais am yr argyfwng hinsawdd. Bydd y cynlluniau EcoChurch a Live Simply hefyd yn parhau i fod ar gael i eglwysi lleol ymuno â nhw.
Mae Andy Atkins, cyd-gadeirydd Sul yr Hinsawdd a Phrif Weithredwr A Rocha UK yn esbonio: Mae’r ymrwymiad i weithredu a ddangoswyd gan filoedd o eglwysi fel rhan o Sul yr Hinsawdd yn ysbrydoledig. Fe ddaw â chynnydd ymarferol ac â gobaith, yn enwedig i bobl ifanc sy’n ysu am i’w cymunedau eglwysig a gwleidyddion ymwneud â’r mater hollbwysig hwn. Bydd yr adnoddau cyfoethog sydd wedi eu llunio gan aelodau’r ymgyrch yn helpu eglwysi lleol i barhau i weithredu’n effeithiol yn 2022 pan fydd Llywodraeth y DU o hyd yn llywydd ar COP.
Dywedodd y Parchedig Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru, Bu ymrwymiad cymaint o eglwysi lleol, enwadau a mudiadau Cristnogol yng Nghymru i Sul yr Hinsawdd yn galonogol, gyda defnydd eang ar y deunydd addoli ac ymgyrchu yn y ddwy iaith. Trwy sicrhau parhad y wefan ddwyieithog, bydd y gwaith a wnaed yn 2020-21 o hyd ar gael i’r eglwysi barhau â’u gwaith yn gwarchod Cread Duw.
Dywedodd Hannah Brown, Swyddog Ymgyrchu ac Ymrwymiad Eglwysi yn y Tîm Materion Cyhoeddus ar y Cyd (yr Eglwys Fethodistaidd, Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig ac Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr): Rydym yn gwybod na fydd y daith o’n blaenau wrth i ni drosglwyddo i sero net ar draws y byd yn un hawdd. Rydym yn ddiolchgar bod cymunedau eglwysig ledled Prydain ac Iwerddon wedi bod yn rhan o alluogi etifeddiaeth COP26 i fod yn fwy na chytundeb a negodwyd, ond hefyd yn drawsnewidiad o ran cysylltu eglwysi ar lawr gwlad â gweithredu ar yr hinsawdd.
Dyma ambell enghraifft yn dangos llwyddiant Sul yr Hinsawdd mewn ystod o wahanol enwadau ar draws y pedair gwlad yn y DU:
Cynhaliodd Eglwys Sant Chad, Far Headingley yn Leeds wasanaeth yn canolbwyntio ar yr hinsawdd ddydd Sul 17 Hydref dan arweiniad Anita Shaw, Hyrwyddwr Amgylcheddol Ardal Esgobol Leeds. Roedd yr AS lleol Alex Sobel yn bresennol gyda’r Cynghorydd Emma Flint, aelod ward lleol sy’n eistedd ar Bwyllgor Ymgynghorol Argyfwng Hinsawdd Cyngor Dinas Leeds, siaradodd y ddau yn ystod y gwasanaeth.
Eglwys St Paul’s Meadowside, Dundee, yr Alban – Adeiladodd y bobl ifanc gwch cyfiawnder hinsawdd, Seas The Day, a gafodd ei ailgylchu gan blant heddiw o gwch a wnaed flynyddoedd yn ôl gan genhedlaeth flaenorol o bobl ifanc. Tynnwyd y cwch ar droli cartref wedi’i ailgylchu o Meadowside St Paul’s, Dundee i St Andrew’s ar 31 Hydref. Gosodwyd rhai cychod papur gyda gweddïau llawysgrifen cynulleidfa’r eglwys ac addewidion am gyfiawnder hinsawdd yn y cragen fel rhan o’n haddoliad. (Llun o gwch ar gael)
Eglwys Sant Martin ac Eglwys Sant Hilari ym Mhlwyf Cilâ, Abertawe – Yng ngwasanaeth Sul yr Hinsawdd, clywsant am Salote, bachgen saith oed yn byw ar ynys a oedd dan fygythiad gan ystormydd a newyn yn Ne’r Tawel; a montage gweddi grymus gan gyfranwyr i COP26 a cherdd o’r enw “Pe bai’r ddaear ond ychydig droedfeddi mewn diamedr”
Gwybodaeth gefndir am Sul yr Hinsawdd
1) Menter Sul yr Hinsawdd, a drefnir gan Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon (CTBI) yw menter Gristnogol ehangaf y DU ar newid hinsawdd yn y cyfnod cyn COP26. ‘Sul yr Hinsawdd’ fu’r glymblaid Gristnogol ehangaf ei sylfaen ar gyfer gweithredu ar newid hinsawdd.
Mae gan Sul yr Hinsawdd gefnogaeth ffurfiol CAFOD, Cymorth Cristnogol, Tearfund, Byddin yr Iachawdwriaeth, A Rocha UK, Operation Noah, Climate Stewards, Eco-Congregation Scotland, Eco-Congregation Ireland, Green Christian, Eglwys Loegr, Cynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr, yr Eglwys Fethodistaidd, Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr, Undeb Bedyddwyr Cymru, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig, Eglwys yr Alban, Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru), Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Yr Eglwys yng Nghymru, World Vision , Menter John Ray, USPG, Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig, Tîm Materion Cyhoeddus ar y Cyd (JPIT), Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon (CTBI), Christian Concern for One World, Eglwys yr Iwerddon, Young Christian Climate Network.
Ysgogodd menter Sul yr Hinsawdd gannoedd yn fwy o eglwysi i ymuno ag un o bedwar cynllun gwyrddio’r eglwysi a oedd yn bodoli eisoes (gweler isod), gan fynd â chyfanswm yr eglwysi a gymerodd ran heibio’r 5,000 yn yr wythnos cyn COP26. Mae o leiaf 747 o gynrychiolwyr eglwysi lleol wedi arwyddo’r Datganiad Nawr yw’r Amser (gan ymuno â chyfanswm o 192,230 o lofnodwyr o bob rhan o’r sector cyhoeddus). Mae hyn yn galw ar Lywodraeth y DU, yn ei rôl fel cadeirydd COP26, i fod yn llawer mwy uchelgeisiol wrth geisio sicrhau toriadau cyflymach a dyfnach mewn allyriadau byd-eang, darparu cyllid hir-addawedig i helpu gwledydd tlotach i addasu i’r amhariad hinsawdd, ac adferiad economaidd gwyrdd yn dilyn Covid.
Cafodd Sul yr Hinsawdd ei ariannu gan glymblaid o 31 o enwadau ac elusennau, sef aelodau Rhwydwaith Materion Amgylcheddol (EIN) Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon (CTBI). Er ei fod yn gyfyngedig o ran hyd, nod y glymblaid oedd gadael etifeddiaeth barhaus o eglwysi wedi ymrwymo i weithredu parhaus. Bydd ei haelodau’n parhau i ddarparu cyfleoedd i eglwysi lleol wneud gweithredu am yr hinsawdd yn rhan arwyddocaol o’u disgyblaeth a’u cenhadaeth ac i gyfrannu at ymdrechion cymdeithas sifil i sicrhau gweithredu cenedlaethol a rhyngwladol digonol. Am y rheswm hwn bydd CTBI ac EIN yn cynnal gwefan Sul yr Hinsawdd. Mae’r wefan yn cynnwys ‘blwch offer’ o adnoddau rhad ac am ddim, fel y gall eglwysi ddechrau neu barhau â’u taith gweithredu hinsawdd yn www.climatesunday.org/?lang=cy , gan gynnwys:
• y deunyddiau a grëwyd ac a gasglwyd gan y glymblaid ar gyfer addoli;
• ffyrdd o gymryd rhan mewn gweithredu ymarferol trwy Eco Church neu Live Simply;
• awgrymiadau wedi’u diweddaru gan aelodau Sul yr Hinsawdd ar gyfer codi llais.
2) Cynlluniau Gwyrddio’r Eglwysi
Mae’r ‘Cynlluniau Gwyrddio’ yn rhaglenni sy’n seiliedig ar wobrau sy’n arfogi eglwysi i weithredu ar yr amgylchedd, yn eu heglwys a’u cymuned leol. Cânt eu hannog i wneud hyn trwy addoli a dysgu, lleihau allyriadau carbon, ystyried eu tir a ffyrdd unigolion o fyw, a chodi llais am yr hinsawdd.
Mae tri phrif gynllun annibynnol yn y DU i helpu eglwysi ar lawr gwlad i fynd i’r afael â newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth a materion amgylcheddol dybryd. Maent yn cydweithio’n agos. Mae 9,248 o eglwysi’r DU bellach wedi’u cofrestru ag un cynllun neu’r llall.
Eco Church, a gynhelir gan A Rocha UK, ar gyfer eglwysi yng Nghymru a Lloegr – https://ecochurch.arocha.org.uk
Mae Eco-Congregation Scotland yn elusen amgylcheddol eciwmenaidd sy’n cefnogi eglwysi lleol ledled yr Alban i ofalu a gweithredu dros greadigaeth Duw, gan leihau eu heffaith ar newid hinsawdd a byw’n gynaliadwy – https://www.ecocongregationscotland.org
Mae Eco-Congregation Ireland yn brosiect o Fforwm yr Eglwys mewn Cymdeithas, sef pwyllgor sefydlog o’r Cyfarfod Rhyng-Eglwysi Gwyddelig, sy’n annog eglwysi o bob enwad ar draws Iwerddon i gymryd agwedd eco – https://www.ecocongregationireland.com/
Live Simply yw cynllun gwobrau amgylcheddol yr Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr – https://cafod.org.uk/Campaign/Livesimply-award
3) Datganiad Nawr yw’r Amser – trefnwyd gan Glymblaid yr Hinsawdd, y mae mwyafrif aelodau’r menter Sul yr Hinsawdd yn aelodau ohoni – https://thetimeisnow.uk