BRIFF GAN EGLWYSI’R DU, CHWEFROR 2021

Ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd Canghellor y DU fwriad y Llywodraeth i leihau’r gyllideb ar gyfer datblygu rhyngwladol yn sylweddol, gan ddadlau bod costau ymdrin â phandemig y coronafeirws yn golygu bod angen torri’r gyllideb dros dro.

O dan gynlluniau’r Llywodraeth, bydd gwariant cymorth tramor yn cael ei leihau o 0.7 y cant i 0.5 y cant o Incwm Gwladol Gros. Byddai’n golygu y byddai’r gyllideb ddatblygu ryngwladol yn gweld gostyngiad o tua thraean, o £15.2 biliwn yn 2019 i tua £10 biliwn yn 2021. Llwyddwyd i gyrraedd y targed o 0.7 y cant bob blwyddyn ers 2013, a’i gorffori yn y gyfraith ers 2015.

Mae uwch arweinwyr a chynrychiolwyr o Eglwysi’r DU wedi beirniadu’r cam hwn yn gryf.

“Mae addewid i’r tlawd yn arbennig o gysegredig.” Mae geiriau’r Archesgob Desmond Tutu’n amhosibl i’w hanwybyddu wrth i lywodraeth y DU gynllunio i dorri ein haddewidion i bobl dlota’r byd.

Mae lleihau ein hymrwymiad cymorth tramor ar yr adeg argyfyngus hon yn foesol anghywir, yn annoeth yn wleidyddol ac yn weithred o hunan-niwed cenedlaethol. Bydd ei effaith yn cael ei deimlo nid yn unig mewn gwersylloedd ffoaduriaid ac ardaloedd lle mae rhyfel ond hefyd yn llawer agosach at adref.”

Y Parchedicaf Justin Welby, Archesgob Caergaint

“Mesur clir o fawredd gwlad yw’r ffordd y mae’n ymateb i anghenion ei phobl dlotaf. Mae’r un peth yn wir am yr ymateb i dlodi rhwng gwledydd. Os ydym yn dymuno bod yn wlad wych mewn gwirionedd yna mae torri’r gyllideb cymorth tramor yn gam yn ôl.”

Cardinal Vincent Nichols, Archesgob Westminster

“Mae gan doriadau ganlyniadau. Bydd torri cyllideb gymorth y DU yn effeithio ar bobl dlotaf y byd. Nid yw hyn yn ymwneud â thosturi ein gwlad yn unig, mae’n ymwneud â chyfiawnder.

Bydd yn arwain at bobl yn peidio â derbyn gofal iechyd hanfodol yn ystod pandemig byd-eang. Pobl yn llwgu. Llai o blant yn cael eu haddysgu a’u dewisiadau sydd eisoes yn gyfyngedig yn cael eu lleihau ymhellach.”

Cymorth Cristnogol

“Ar adegau o angen byd-eang, mae angen i’r rhai â’r ysgwyddau ehangaf gefnogi eraill. Nid mater o gymwynasgarwch yw datblygu rhyngwladol, mae’n hanfodol i gyflawni gweledigaeth o Brydain Fyd-eang.”

Y Tra Pharchedig Dr Susan Brown, Eglwys yr Alban

“Mae ymrwymiad llywodraeth y DU i wario 0.7% o Incwm Gwladol Gros ar ddatblygu rhyngwladol… wedi rhoi llawer i’r DU fod yn falch ohono fel chwaraewr ar y llwyfan rhyngwladol, gan ddangos ein cefnogaeth i wledydd eraill, cydnabod ein rhyng-gysylltedd fel cymuned fyd-eang, a darparu llwyfan cryf i ni annog cyfrifoldeb byd-eang mewn eraill. Nid yw’n dderbyniol dweud y dylai pobl gwledydd eraill ddioddef mwy oherwydd bod pobl yn y DU yn dioddef effeithiau economaidd y pandemig.”

Yr Eglwys yng Nghymru

“Credwn na ddylai ymrwymiad i bobl dlotaf y byd fod yn ychwanegiad dewisol ond y dylai fod yn ganolog i gyfrifoldebau’n gwlad, yn enwedig yng nghyd-destun pandemig byd-eang ac argyfwng hinsawdd.”

Y Parch Clare Downing a Mr Peter Pay, Llywyddion y Cynulliad Cyffredinol, yr Eglwys Unedig Ddiwygiedig 

“Mae’n amser anodd i lawer ohonom, yma yn y DU, ac i’n brodyr a’n chwiorydd ar draws y byd. Mae ymrwymiad cymorth y DU yn ganran o incwm y DU – ac felly mae’n newid bob blwyddyn, ac nid yw byth yn fwy na’r hyn y gallwn ei fforddio fel gwlad.”

Y Parch Richard Teal a Mrs Carolyn Lawrence, Llywydd ac Is-lywydd y Gynhadledd Fethodistaidd

“Gwrandewais gyda thristwch mawr ar gynllun y llywodraeth i dorri’n haddewid i’r byd drwy dorri ein cyllideb cymorth tramor. Roeddwn i’n ddig wedyn pan ddywedodd y Canghellor na fyddem ni, y bobl, yn hapus i ni drosglwyddo’r gyllideb y cytunwyd arni’n gyfreithiol i’r rhai mewn angen.”

Y Parchedicaf Mark Strange, Prif Esgob Eglwys Esgobol yr Alban

“Mae’r DU yn peryglu ei safbwynt fel gwlad sydd wedi ymrwymo i weld byd iachach, mwy diogel sy’n ffynnu – ar drothwy cynnal uwchgynhadledd y G7 a 26ain Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.”

Y Parch Lynn Green, Ysgrifennydd Cyffredinol, Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr

Yr Eglwysi a lleihau tlodi byd-eang

Gyda galwad i garu ein cymdogion, ymrwymiad i weithio dros gyfiawnder, a llawer o gysylltiadau byd-eang, mae Eglwysi wedi hyrwyddo ymdrechion rhyngwladol sy’n ymwneud â datblygiad dynol a lleihau tlodi byd-eang ers degawdau lawer. Mae’r targed o 0.07 y cant yn deillio o fenter gan Gyngor Eglwysi’r Byd ym 1958, cyn cael ei fabwysiadu gan y Cenhedloedd Unedig ym 1970.

Yn y DU, mae Eglwysi a Christnogion wedi bod yn amlwg iawn yn yr alwad ar Brydain i gefnogi datblygu rhyngwladol a chyflawni ei chyfrifoldebau byd-eang mewn perthynas â chymorth, masnach, dyled a hinsawdd, drwy ymgyrchoedd fel Jiwbilî 2000 a Rhown Derfyn ar Dlodi. Mae gwreiddiau llawer o asiantaethau datblygu rhyngwladol mawr Prydain fel Cymorth Cristnogol, CAFOD, Tearfund a World Vision yn yr eglwysi.

Galw ar eich AS i wrthwynebu torri cymorth

Mae angen newid y gyfraith er mwyn gallu lleihau ymrwymiad datblygu rhyngwladol y DU. Cysylltwch â’ch Aelod Seneddol i gyflwyno’r achos dros wrthwynebu’r toriad a diogelu ymrwymiad datblygu rhyngwladol Prydain.

Gallech gynnwys rhai o’r pwyntiau isod:

  • Mae cymorth y DU yn gweithio. Mae cymorth y DU yn gwneud cyfraniad hanfodol at wella bywydau pobl yn rhai o wledydd tlotaf y byd. Mae gan Brydain enw da ledled y byd am effaith ac effeithiolrwydd ei rhaglenni cymorth.
  • Bydd torri’r gyllideb gymorth yn arwain at golli bywydau. Mae Achub y Plant yn amcangyfrif y gallai toriad o 30 y cant wedi’i weithredu ar draws gwariant cymorth blaenorol olygu y bydd:
    • 5.6 miliwn yn llai o blant yn cael eu brechu bob blwyddyn, a 105,000 o fywydau’n cael eu colli bob blwyddyn
    • 940,000 yn llai o blant yn cael eu cynorthwyo i dderbyn addysg foddhaol
    • 2.0 miliwn yn llai o bobl yn derbyn cymorth dyngarol bob blwyddyn
    • 3.8 miliwn yn llai o bobl yn cael eu cynorthwyo i gael mynediad at ddŵr glân a/neu well glanweithdra bob blwyddyn.

Y pandemig byd-eang yw’r argyfwng dyngarol mwyaf mewn cenhedlaeth, ac mae wedi gwthio tua 150 miliwn o bobl i dlodi eithafol ledled y byd. Ar yr adeg dyngedfennol hon, mwy o gymorth rhyngwladol sydd ei angen, nid llai.

  • Cadw’n haddewidion yw’r peth iawn i’w wneud. Mae’r ymrwymiad 0.7 y cant wedi bod yn destun consensws trawsbleidiol ers 15 mlynedd, hyd yn oed drwy argyfwng ariannol 2008-09. Yn 2015, cefnogodd yr holl bleidiau mawr y cam o gorffori’r targed mewn deddfwriaeth am byth. Ailddatganodd y Blaid Geidwadol ei hymrwymiad i gynnal y gyllideb gymorth yn ei maniffesto ar gyfer etholiad 2019, ac eto pan unwyd yr Adran Ddatblygu Rhyngwladol a’r Swyddfa Dramor yn haf 2020. Byddai torri cymorth yn torri addewid a wnaed i’r etholwyr ac i bobl dlotaf a mwyaf bregus y byd.
  • Dylai Prydain fod yn falch o’i harweiniad byd-eang yn cefnogi datblygiad. Mae ymrwymiad y DU i 0.7 y cant wedi bod yn gatalydd i newid sylweddol mewn ymdrechion byd-eang i gefnogi datblygiad. Mae o leiaf pum aelod o’r G7 yn cynllunio i gynyddu cymorth yn 2021. Bydd Ffrainc a’r Almaen yn gwario dros 0.5 y cant o’u heconomïau ar gymorth yn 2021. Mae’r DU wedi bod yn ddylanwadol yn gwthio ei chymheiriaid i ymrwymo i fwy o gymorth a gwell cymorth – ond bydd yn cwympo’n is na nhw yn awr. Mewn blwyddyn pan fydd y DU yn cynnal Uwchgynadleddau’r G7 a Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, a phan mae’r llywodraeth yn ceisio sefydlu rôl a gweledigaeth ar gyfer ‘Prydain Fyd-eang’ wedi Brexit, dylem fod yn dangos arweiniad drwy ein hymrwymiad parhaus i ddatblygu rhyngwladol.
  • Mae cefnogi datblygu rhyngwladol yn gwneud synnwyr i Brydain. Mewn oes o ryngddibyniaeth fyd-eang, mae helpu i greu cymdeithasau mwy diogel, tecach ac iachach lle gall pawb ffynnu er budd pawb. O ran Covid-19, dim ond pan fydd pobl a gwledydd o amgylch y byd yn rhydd o’r firws y gellir codi’r cyfyngiadau ar ein bywydau. Dim ond trwy weithredu rhyngwladol y gellir mynd i’r afael yn effeithiol â heriau cyfoes eraill sy’n effeithio ar Brydain, fel newid yn yr hinsawdd, mudo a rhyfeloedd. 
  • Mae’r ymrwymiad 0.7 y cant yn fforddiadwy. Mae’r ymrwymiad yn cael ei fynegi fel canran o incwm gwladol gan ei fod yn amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau economaidd, felly dylai fod yn fforddiadwy bob amser. Roedd rhaglenni cymorth yn mynd i gael eu lleihau’n barod oherwydd y crebachu yn economi’r DU. Mae’r gyllideb ddatblygu ryngwladol yn gyfran gymharol fach o wariant y llywodraeth – yn 2019, roedd tua un rhan o ddeg o’r hyn a wariodd y llywodraeth ar iechyd yn Lloegr, ac ychydig dros draean o’r swm a wariwyd ar amddiffyn. Er bod benthyca cyhoeddus ar lefel uchel, mae cost cynnal y ddyled honno ar ei hisaf ers yr Ail Ryfel Byd, ac yn gostwng, oherwydd cyfraddau llog isel yn hanesyddol. Ar yr un pryd ag y cyhoeddodd y llywodraeth ei bwriad i dorri’r gyllideb gymorth, amlinellodd gynllun i gynyddu gwariant milwrol £16.5 biliwn dros bedair blynedd.
  • Gallwn sicrhau bod yr holl gymorth yn cael ei wario ar drechu tlodi byd-eang. Wrth siarad am faint o gymorth sy’n cael ei wario mae’n hanfodol ein bod ni’n canolbwyntio hefyd ar ansawdd y cymorth hwnnw. Yn anffodus, mae yna enghreifftiau o ‘gymorth gwael’ wedi bod – a oedd yn cynnwys camdriniaeth, twyll a chamreolaeth. Cyrhaeddodd yr achosion hyn y penawdau sy’n gallu cyfrannu at leihau ymddiriedaeth y cyhoedd yng nghymorth y DU. Ond ni ddylai hyn olygu ein bod ni’n torri’r gyllideb gymorth. I’r gwrthwyneb, mae’n golygu y dylem wella’r ffordd rydym yn gwario cymorth. Mae Deddf Datblygu Rhyngwladol 2002 eisoes yn corffori mewn cyfraith bod rhaid gwario’r holl gyllid cymorth ar drechu tlodi, a dylai hyn barhau i fod yn ffocws ar gyfer gwariant cymorth.

Gallwch gael manylion cyswllt eich AS yn members.parliament.uk neu drwy ffonio 020 7219 3000.

Paratowyd y briff hwn gan Joint Public Issues Team Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr, yr Eglwys Fethodistaidd, yr Eglwys Unedig Ddiwygiedig ac Eglwys yr Alban (www.jointpublicissues.org.uk), ar ran grŵp ehangach o Eglwysi ym Mhrydain. Fe’i cyhoeddwyd gan Churches Together in Britain and Ireland.