LLun trwy garedigrwydd Nicholas Markell. Hawlfraint. www.markellstudios.com

Bydd Sul y Pasg 2020 yn Sul y Pasg na welwyd ei debyg o’r blaen. Ni allwn ganu emynau gogoneddus y Pasg y tu mewn i’n heglwysi, ond gallwn eu canu fel hyn …

Am 10am ar Sul y Pasg 12 Ebrill 2020 gwahoddwn bawb sydd eisiau dathlu’r atgyfodiad i fynd y tu allan a chanu Heddiw cododd Crist yn fyw, Haleliwia! a Crist a orchfygodd fore’r trydydd dydd!

Gallech chi eu canu nhw …

yn eich gardd
ar eich stryd
fel yr Eidalwyr o’ch balconi!
wrth fynd am dro dyddiol (a ganiateir gan y llywodraeth)

… a’r cyfan wrth gwrs wrth gadw pellter gofodol diogel.

Os ydych yn cynllunio gwasanaeth ffrydio byw, beth am gynnwys yr emynau yma hefyd am 10am, fel bod eich gwylwyr yn gallu camu allan a chanu ar yr un pryd.

Pam Heddiw cododd Crist yn fyw, Haleliwia! a Crist a orchfygodd fore’r trydydd dydd?

  • Mae’n debyg mai nhw yw’r emynau Pasg a adnabyddir gan y nifer fwyaf o bobl.
  • Maent yn ffyrdd hwyliog, hyderus a llawen o ddatgan yr atgyfodiad a byddant yn galonogol i bobl eraill glywed ar fore’r Pasg.
  • Mae Heddiw cododd Crist yn fyw, Haleliwia!  yn hynafol iawn yn seiliedig ar emyn Lladin o’r 14eg ganrif, ond cafodd ei ail-weithio yn y Lyra Davidica yn 1708, felly mae’n fynegiant o undod ac yn ein cysylltu â’r rhai sydd wedi mynd o’n blaen.
  • Cafodd Crist a orchfygodd fore’r trydydd dydd ei ysgrifennu’n gyntaf yn Ffrangeg (A toi La Gloire) gan yr awdur o’r Swistir Edmund Budry ac yn ein cysylltu â’r Eglwys fyd-eang.

Sut i wneud i hyn ddigwydd …


Rhannwch yr “Canwch – Atgyfododd Crist” gyda chymaint o bobl â phosibl drwy gyfryngau cymdeithasol, e-bost, ffôn.
Gadewch i ni ei rannu’n fyd-eang hefyd a gweld a all “Canwch – Atgyfododd Crist” ddigwydd am 10am mewn 24 parth amser ledled y byd!

Gwahoddwch ffrindiau a chymdogion ymlaen llaw i wrando allan am “Canwch – Atgyfododd Crist” neu i ymuno yn eu hunain.

Straeon tu ôl i’r emynau

Os am ragor o wybodaeth am yr emynau ewch i wefan CTBI i ddarllen yn bellach yn Saesneg.

Heddiw cododd Crist yn fyw, Haleliwia!

Heddiw cododd Crist yn fyw,
Haleliwia!
Llawen ddydd o foliant yw,
Haleliwia!
Dioddefodd angau loes,
Haleliwia,
er ein prynu ar y groes,
Haleliwia!

Canwn foliant iddo ef,
Haleliwia!
Crist ein Brenin mawr o’r nef,
Haleliwia!;
Dringodd fynydd Calfarî,
Haleliwia!
Aeth drwy’r bedd i’n hachub ni,
Haleliwia!

Trwy ei loes a’i boenau mawr,
Haleliwia!
daeth â hedd i blant y llawr,
Haleliwia!
Myrdd ar fyrdd o saint y sydd,
Haleliwia,
yn ei foli nos a dydd,
Haleliwia!

COMPLEAT PSALMODIST, 1749
cyf. NANTLAIS, 1874-1959

(Caneuon Ffydd 555)

Crist a orchfygodd
Fore’r trydydd dydd,
Cododd ein Gwaredwr,
Daeth o’i rwymau’n rhydd.
Gwisgoedd ei ogoniant
Sydd yn ddisglair iawn,
Wedi gweld ei harddwch
Ninnau lawenhawn.

Crist a orchfygodd
Fore’r trydydd dydd,
Cododd ein Gwaredwr,
Daeth o’i rwymau’n rhydd.

Daw ef i’n cyfarch
Gyda thoriad gwawr,
Gwasgar ein hamheuon,
Lladd ein hofnau mawr.
Cryfach fyddwn ninnau
Yn ei gwmni ef,
Rhodiwn yn hyderus
Ar ein ffordd i’r nef.

Ni yw ei dystion,
Awn ymlaen a’i waith,
Gan gyhoeddi’i enw
Ym mhob gwlad ac iaith.
Gobaith sydd yn lesu
I’r holl ddynol-ryw,
Concrwr byd a’i bechod,
Y pencampwr yw.

Thine be the glory: Edmond Louis Budry (1854-1932). Cyfieithiad awdurdodedig: O. M. Lloyd (1910-1980)

© Gwyn M. Lloyd. Gofynnwyd am ganiatâd.

( Caneuon Ffydd: 562)