CYFRIFIAD 2021 – TRANC CREFYDD YNG NGHYMRU?

Talfyriad o gyflwyniad gan Gethin Rhys i Gyfundeb Annibynwyr Dwyrain Morgannwg.

I rai, fe ddaeth canlyniadau Cyfrifiad 2021 o ran crefydd yn dipyn o sioc, a Chymru yw’r unig genedl o fewn y Deyrnas Unedig lle mai’r garfan fwyaf yw’r rhai sy’n nodi eu bod yn ddi-grefydd. Bydd angen mwy o ymchwil i ddeall cymhellion y sawl a ymatebodd, ac fe gyhoeddir dadansoddiadau pellach o’r ffigurau dros y flwyddyn neu ddwy nesaf.

Rhai sylwadau cychwynnol yn unig sydd yma, ond gobeithiaf eu bod yn gyfle i gychwyn trafodaeth.

Yn gyntaf, o ran y gostyngiad o 14% yn y niferoedd sy’n dweud eu bod yn Gristnogion, mae ein profiad fel eglwysi yn dangos nad oedd llawer o’r 57.6% a atebodd felly yn 2011 yn ymlynu at arferion crefyddol Cristnogaeth, hyd yn oed yn achlysurol. Mynegiant o etifeddiaeth ddiwylliannol neu ymdeimlad o hunaniaeth oedd yr ateb i lawer; i eraill byddai’n dynodi efallai eu hawydd am gael angladd Gristnogol ar ddiwedd y daith. Efallai i’r cyfle yn y Cyfrifiad hwn am y tro cyntaf i nodi’r ymdeimlad o genedligrwydd wedi cyfrannu at golli rhai fu’n defnyddio’r blwch Cristnogol yn y ffordd honno yn y gorffennol.

O ganlyniad, mae niferoedd 2021 yn fwy realistig nag o’r blaen o ran y niferoedd sydd ag ymlyniad ymarferol o ryw fath gyda chynulleidfa Gristnogol, neu awydd i ymwneud â Christnogaeth trwy’r cyfryngau cymdeithasol neu ddarllediadau crefyddol. Mae pob lle i gredu fod hyn yn wir eisoes am y crefyddau eraill a restrir – bod y 67,000 a nododd eu bod yn Fwslimiaid, y 12,000 o Hindwiaid, 10,000 o Fwdhyddion, 4000 o Sikhiaid a 2000 o Iddewon yn niferoedd digon agos i’w lle.

Yn ail, mae manylion ardaloedd lleol y gellir eu gweld yn y map rhyngweithiol yma yn dangos fod yna amrywiadau mawr ar draws Cymru. Mewn rhai ardaloedd, mae eglwysi a chapeli yn dweud fod canrannau mor isel â 10% o Gristnogion yn groes i’w profiad nhw o gefnogaeth leol i’r addoldy a’i waith. Mewn ardaloedd eraill, mae canrannau uchel yn gwrthgyferbynnu gyda chynulleidfaoedd bychain, ac yn awgrymu fod elfen o ymateb diwylliannol o hyd yn y niferoedd. Fe fydd pob cynulleidfa leol yn elwa o bori yn y map rhyngweithiol yma i ddysgu mwy am bob math o agweddau ar eu hardal – a mae mwy o ganlyniadau yn cael eu hychwanegu yn rheolaidd.

Yn drydydd, mae’r felin drafod Theos eisoes wedi cyhoeddi gwaith ymchwil am rai o’r bobl hynny – ar draws y DU – a atebodd fod ganddynt ‘Ddim crefydd’. Mae’r ymchwil difyr hwn, dan yr enw The Nones: Who are they and what do they believe? yn dangos yr amrywiaeth eang sy’n bodoli o fewn y garfan hon o gymdeithas. Yn groes i’r disgwyl, er enghraifft, dim ond 51% ohonyn nhw sy’n dweud “nad ydyn nhw’n credu yn Nuw,” ac i’r gwrthwyneb mae 42% yn credu mewn rhyw lun o’r goruwchnaturiol.

Yn fras, meddai Theos, gellir rhannu’r garfan yn dri grŵp, pob un yn cynrychioli rhyw draean o’r nifer yn eu sampl nhw (ac felly, gallwn awgrymu, yn cynrychioli rhyw 15% o boblogaeth Cymru):

  • “Campaigning Nones” sy’n fwriadol anffyddiol ac yn elyniaethus i grefydd.
  • “Tolerant Nones” sydd ar y cyfan yn anffyddiol ond yn cydnabod (ac weithiau yn teimlo’n gynnes tuag at) grefydd.
  • “Spiritual Nones”, a nodweddir gan ystod o gredoau ac arferion ysbrydol – megis gweddi, encilio, myfyrio – cymaint felly â llawer o bobl sy’n ticio blychau un o’r crefyddau. Fe fydd y grŵp hwn hefyd yn cynnwys rhai o ddilynwyr crefyddau lleiafrifol nad ydynt wedi eu rhestru yng nghwestiwn y Cyfrifiad, yn enwedig felly os nad oes ganddynt sefydliadau a threfnyddiaeth y gellir ymaelodi â nhw. Bydd eraill o blith y rhain wedi sgrifennu i mewn enw eu crefydd – megis y Paganiaid a’r Ysbrydegwyr a wnaeth hynny yn 2021 (gweler y ffigurau coch yn y tabl ar dudalen 1).

Yn olaf, dylem nodi fod 6.3% wedi dewis peidio ag ateb y cwestiwn gwirfoddol hwn. Wrth gwrs, nid oes modd bod yn sicr am y rhesymau tu ôl i hyn, ond yn eu plith gallai fod:

  • Bod yn rhan o grefydd nad oedd ar y rhestr, neu ymlyniad at fwy nag un grefydd
  • Anghytundeb o fewn y teulu ynghylch sut i ymateb, methu â deall union ystyr y cwestiwn, neu bod ar frys wrth ymateb
  • Ofn nad oedd atebion unigol y Cyfrifiad yn gwbl ddiogel, ac y gellid defnyddio’r wybodaeth i’w herlid ar sail eu crefydd. Fe all fod hyn yn wir am rai sydd wedi ffoi i Gymru oherwydd erledigaeth yn y gorffennol. Ymhlith rhai cymunedau crefyddol, mae yna ofid arbennig ynghylch y cynllun Prevent a’r ofn y byddai datgelu ymlyniad at grefydd draddodiadol yn eu hagor i’w trin gan yr awdurdodau fel ‘eithafwyr’.

Mae’r Cyfrifiad yn erfyn defnyddiol o ran deall poblogaeth Cymru. Ond fel gydag unrhyw adnodd o’r fath, fe fydd y canlyniadau yn codi mwy o gwestiynau nag y byddant yn eu hateb!

CWRICWLWM NEWYDD YSGOLION CYMRU AR WAITH

Ers Medi 2022, bu trefn newydd ar waith ar gyfer y cwricwlwm yn ysgolion cynradd Cymru, ac ym mlwyddyn 7 ryw hanner yr ysgolion neu adrannau uwchradd. Bydd gweddill y blynyddoedd uwchradd yn ymuno yn eu tro dros y blynyddoedd nesaf.

Wedi’r holl drafod, y bu Cytûn yn rhan ohono ar ran ein haelod eglwysi a mudiadau, rydym yn dechrau gweld sut fydd addysg ein plant yn gweithio. Nodwedd ganolog y cwricwlwm newydd yw fod pob ysgol yn llunio ei chwricwlwm ei hun, o fewn y fframwaith a osodwyd gan Senedd a Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn rhoi i bob ysgol y cyfle – a’r cyfrifoldeb – o lunio cwricwlwm addas ar gyfer ei disgyblion a’i chynefin ei hun.

Hyd yma, y sawl sydd o fewn y byd addysg – dysgwyr, addysgwyr, llywodraethwyr ysgolion a gweinyddwyr – fu’n gallu gweld y cwricwlwm yn datblygu ar lawr gwlad. Mae’n ddyletswydd ar ysgolion i rannu gwybodaeth gyda rhieni/gwarcheidwaid eu disgyblion. Bellach, fe gyhoeddwyd enghreifftiau o’r wybodaeth hon, gan fathau gwahanol o ysgol, ar Blog Cwricwlwm i Gymru – https://cwricwlwmigymru.llyw.cymru/2023/03/20/cyhoeddi-crynodeb-or-cwricwlwm-enghreifftiau-defnyddiol/ I ddarllenwyr nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â byd addysg, dyma’r cyfle cyntaf i weld sut mae’r fframwaith statudol yn troi yn rhaglen i addysgu plant mewn bro benodol.

Bydd gallu gweld yr enghreifftiau cyhoeddus hyn o ddulliau gweithredu ysgolion go iawn yn gymorth mawr i eglwysi lleol, a’r cyhoedd yn gyffredinol, ddeall beth sydd ei angen ar ysgolion eu bro, ac yn ehangu’r cyfle i ddiwallu’r anghenion hynny.

Mae gwefan addysg Llywodraeth Cymru, Hwb, hefyd wrthi yn diweddaru ei llyfrgell adnoddau addysgu, a ddatblygwyd ar gyfer y cwricwlwm blaenorol, fel ei bod yn gymwys ar gyfer y sefyllfa newydd, ac yn ychwanegu deunydd newydd pan fydd ar gael. Yn y gorffennol, bu angen cyfrinair i gyrchu’r adnoddau hyn, ond bellach maent ar gael i’r cyhoedd eu gweld – https://hwb.gov.wales/adnoddau Rhan o’r nod yw i eraill gael eu hysbrydoli i greu adnoddau dwyieithog addas, neu cynnig adnoddau sydd eisoes yn bodoli, i’w hystyried i’w cynnwys. Mae Cytûn yn gweithio gyda nifer o’n haelod fudiadau sy’n awyddus i gefnogi ysgolion wrth iddynt ymhél â’r her cyffrous yma – yn enwedig efallai o fewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, ond hefyd ar draws y cwricwlwm.

ANGYLION Y STRYD SIR CONWY/DDINBYCH

Mae prosiect Angylion y Stryd newydd yn lansio eleni yng ngogledd Cymru. Ei nod yw cefnogi’r rhai sy’n fregus neu a allai fod yn agored i’w niweidio. Bydd Angylion y Stryd Sir Conwy/Ddinbych yn dimau o wirfoddolwyr yn gweithio gyda’r nos mewn amryw o drefi gan gynnwys y Rhyl, Bae Colwyn a Llandudno. Bydd y timau’n cynnig cefnogaeth megis clust i wrando, parau o fflip-fflops i’r rhai na allant gerdded mewn sodlau uchel, cymorth cyntaf lefel isel a lolipop sy’n helpu i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Llun o wefan ROC Angels  https://www.streetangels.org.uk/angylionystryd.html

Esgorodd cyfarfodydd cychwynnol ym mis Ionawr 2023 ar syniadau megis:

• Cefnogaeth caplaniaeth i fusnesau a phobl yng nghanol trefi yn ystod y dydd

• Angylion y Stryd yn gynnar yn y noswaith i ymgysylltu â phobl ifainc

• Man diogel galw heibio / caffi yn ystod y dydd a’r nos

• Angylion y Stryd ym Mae Colwyn a’r Rhyl

• Angylion yr Ŵyl o amgylch digwyddiadau parc Bae Colwyn ac efallai sioe awyr y Rhyl

• Angylion y Maes Carafanau yn teithio ar hyd y meysydd carafanau niferus ar draws yr arfordir

Y cam nesaf yw annog pobl i gofrestru fel gwirfoddolwyr posibl. Y nod yw cychwyn ar brosiectau o’r Pasg 2023 ymlaen.

Meddai Paul Blakey MBE, sylfaenydd Angylion y Stryd, “Dechreuodd Street Angels yn 2005 yn Halifax fel ymateb i anghenion a thrafferthion ar nos Wener a nos Sadwrn yng nghanol y dref. O fewn deuddeg mis bu gostyngiad mewn troseddau treisgar o 42%. ac yn fuan daeth Angylion y Stryd yn fodel o arfer gorau sydd wedi ysbrydoli dros gant o brosiectau lleol yn gweithio ar y strydoedd, y tu mewn i dafarndai a chlybiau, mewn gwyliau cerdd, o fewn cymunedau a thrwy gaplaniaeth. Mae Angylion y Stryd yn ymateb i drafferthion lleol gyda’r eglwys a’r gymuned yn cydweithio i gynnig ymateb rheng flaen ymarferol.”

Mae cyllid wedi dod o’r fenter Arloesi i Dyfu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Mae’r gronfa hon yn helpu i gefnogi ffyrdd newydd ac arloesol o ddatrys y problemau a all arwain at ymddygiad troseddol mewn cymunedau.

Dywedodd y Prif Arolygydd Jeff Moses o’r Uwch Dîm Rheoli Plismona Lleol: “Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda ROC i helpu i sefydlu’r cynllun hwn yn ein hardal. Hyd yn hyn cafwyd ymateb gwych gan bobl leol sy’n awyddus i gefnogi. Mae gan y cynllun Angylion y Stryd fanteision amlwg o ran cadw ein strydoedd yn fwy diogel a hefyd o ran gwneud i bobl deimlo’n fwy diogel, sy’n bwysig. Mae’n digwydd bod gennym un o’r cyfraddau troseddu isaf yn y DU ond mae pob achos o droseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ein strydoedd yn creu dioddefwyr, a gall yr effeithiau niweidiol fod yn sylweddol i’r bobl hynny. Bydd y cynllun yn ein helpu i leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a bydd yn lleihau nifer y troseddwyr sy’n dod i mewn i’r system cyfiawnder troseddol. Rydym yn ddiolchgar i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd am ddyrannu arian grant i alluogi sefydlu’r cynllun.”

Mae rhagor o wybodaeth am Angylion Stryd ar gael yn streetangels.org.uk

‘Eglwysi’n Cyfrif Natur’ – 3ydd i’r 11eg o Fehefin.

Mae Eglwysi’n Cyfrif Natur yn gyfle wythnos o hyd i ganolbwyntio ar y bywyd gwyllt anhygoel sydd o fewn mynwentydd ein capeli ac eglwysi (ac unhryw ddarn arall o dir sydd gennych o ran hynny!) Mae’n brosiect flynyddol ar y cyd rhwng Caring for God’s Acre, A Rocha UK, Yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Loegr, ac mae’n annog pobl sy’n ymwneud â’n heglwysi a’n mynwentydd i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau ynghylch byd natur yn ystod yr wythnos.

Mae yn agored i bob enwad. Gall fod yn gyfle gwych i wahodd aelodau’r gymuned i mewn i’ch tir – pobl sy’ efallai ddim yn dod i’r capel neu’r eglwys fel arfer – ac felly yn gyfle i wneud cysylltiadau newydd.

Rydym yn edrych am fwy o ddigwyddiadau a gweithgarwch yng Nghymru eleni. Fe all y gweithgarwch fod yn daith natur, tacluso, arddangosfeydd neu adeiladu cartrefi i fywyd gwyllt (bocsys adar, neu dai i ddraenogod ac ati) a gallant naill ai cael eu rhedeg gan yr eglwys yn unig, neu ar y cyd gyda grŵp natur lleol, e.e. ymddiriedolaeth natur leol, neu RSPB.

Ac os ydy’r gweithgarwch yn ymwneud a chyfri’ mathau o fywyd gwyllt, gallwch gymryd rhan mewn arolwg cenedlaethol. Gall eich cofnodion gael eu hychwanegu i wefan a map y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Genedlaethol.

Mae cofrestru yn rhad ac am ddim ac unwaith i chi gofrestru cewch gopi o ddau lyfryn – Churches Count on Nature Starter Guide a Guide to Wildlife in Burial Grounds.

YR EGLWYS FYD-EANG YNG NGHYMRU

Braint Cymru yw lletya cynulleidfaoedd o sawl rhan o’r eglwys fyd-eang. Dyma adroddiad gan Mazin Alfaham, ysgrifennydd mudiad sy’n aelod o Cytûn, Cymdeithas Gristnogol Irac yng Nghymru, sy’n dwyn ynghyd Cristnogion Iracaidd o lawer o draddodiadau Cristnogol.

Llun: Mazin Alfaham

Cyfarfu ein grŵp ar gyfer ein Hofferen Nadolig Flynyddol. Cynhelir yr Offeren bob amser yn Arabeg/Aramaeg a hefyd yn rhannol yn Saesneg. Fe’i cynhaliwyd yn Eglwys y Teulu Sanctaidd yn y Tyllgoed ac fe weinidogaethwyd gan y Tad Aphram o Eglwys Uniongred Syria. Teithiodd y Tad Aphram ar y diwrnod o Lundain i’r perwyl hwn.

Rydym yn cynnal gweithgareddau codi arian yn rheolaidd er budd ein cymunedau Cristnogol yn Irac, Syria a Gwlad yr Iorddonen. Ar hyd y flwyddyn rydym yn mynychu ac yn cefnogi ein heglwysi lleol yng Nghymru ac yn credu y dylem gymryd rhan lawn ynddynt. Credwn yn gryf mewn Undod Cristnogol. Roedd y rhai a fynychodd ein Hofferen Nadolig yn dod o sawl enwad, ond buom yn cyd-weddïo, yn unedig o dan Faner ein Harglwydd, Iesu Grist.

CYFREITHIAU NEWYDD AR Y GWEILL I GYMRU

Wrth inni fynd i’r wasg, mae dwy ddeddf newydd wedi pasio eu holl gamau yn y Senedd ac yn aros am Gydsyniad Brenhinol. Y ddwy yw:

  • Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) i wahardd cyflenwi cynhyrchion plastig untro penodedig a rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ychwanegu at restr y rhai a waherddir. Bydd y rhain yn cynnwys trowyr platiau a chyllyll a ffyrc plastig; ffyn balŵn; bagiau siopa untro; cwpanau polystyren; ac eraill.
  • Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) sy’n sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol triphlyg yn cynnwys y llywodraeth, cyflogwyr ac undebau llafur ac yn rhoi swyddogaethau cynghori ac ymgynghorol iddo; ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus sy’n caffael nwyddau a gwasanaethau wneud hynny mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol; a rheoli contractau i sicrhau bod canlyniadau cymdeithasol gyfrifol yn cael eu dilyn drwy gadwyni cyflenwi.

Mae nifer o ddeddfau newydd eraill yn gwneud eu ffordd drwy’r Senedd. Maent yn cynnwys:

  • Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i greu gweithdrefnau caffael ar gyfer GIG Cymru. Mae Cytûn, ynghyd â nifer o sefydliadau trydydd sector eraill, wedi mynegi pryder nad yw’r Bil hwn yn cynnwys unrhyw un o amcanion y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus ynghylch bod yn gymdeithasol gyfrifol, ac rydym yn ceisio ymrwymiad i (er enghraifft) brynu nwyddau Masnach Deg ac osgoi camfanteisio ar weithwyr a’r amgylchedd yng nghadwyni cyflenwi’r GIG.
  • Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), sy’n cydgrynhoi deddfwriaeth bresennol ar yr amgylchedd hanesyddol (fel adeiladau rhestredig) ac yn tacluso ryw ychydig arni. Mae hyn yn cynnwys egluro rhywfaint o’r gyfraith ynghylch ‘eithriad eglwysig’, sy’n caniatáu i rai enwadau Cristnogol gynnal eu gweithdrefnau eu hunain ar gyfer caniatâd adeilad rhestredig.
  • Bil Amaethyddiaeth (Cymru), fydd yn cyflwyno system newydd o gymorth amaethyddol, gan wobrwyo cadwraeth adnoddau naturiol yn ogystal â chynhyrchu bwyd. Mae’r bil hefyd yn cyflwyno system datrys anghydfodau ar gyfer ffermwyr tenant; pwerau coedwigaeth ychwanegol i Cyfoeth Naturiol Cymru; a bydd yn gwahardd defnyddio maglau a thrapiau glud.
  • Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) (neu ar lafar ‘y Bil Aer Glân’) sy’n ceisio lleihau llygredd aer a llygredd sŵn drwy roi pwerau newydd i Weinidogion Cymru greu parthau aer glân neu allyriadau isel; atal cerbydau rhag segura; a chryfhau rheoli mwg ac ansawdd aer lleol.
  • Mae Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru) ar ffurf Papur Gwyn ar hyn o bryd, sy’n gwahodd ymatebion cyhoeddus i’w gynigion i gyflwyno safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer gyrwyr tacsis a cherbydau, caniatáu i awdurdodau lleol orfodi rheoliadau ar dacsis a drwyddedir mewn awdurdodau eraill, a chyflymu’r newid i gerbydau tacsi allyriadau isel.
  • Papur Gwyn yw’r Bil Addysg Gymraeg hefyd, yn anelu at gryfhau gyfrifoldeb awdurdodau lleol i ddarparu a hybu addysg Gymraeg, ac anelu am y nod o 1m o siaradwyr Cymraeg.

Bob blwyddyn, gall un Aelod o’r Senedd ar y meinciau cefn gyflwyno ei fil ei hun. Mae dau yn mynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd:

  • Nod Bil Bwyd (Cymru), a gyflwynwyd gan Peter Fox AS, yw gosod ‘nodau bwyd’ ar gyfer polisi cyhoeddus yng Nghymru; sefydlu Comisiwn Bwyd Cymru a Strategaeth Fwyd flynyddol i Gymru; ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill ddatblygu cynlluniau bwyd lleol; a chyflwyno camau i leihau gwastraff bwyd.
  • Byddai Bil Addysg Awyr Agored (Cymru), sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan Sam Rowlands AS, yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod pob person ifanc yn cael o leiaf wythnos o Addysg Awyr Agored breswyl ar ryw adeg yn ystod eu gyrfa ysgol.

Nid oes gan y naill na’r llall o’r biliau hyn gefnogaeth Llywodraeth Cymru, felly bydd angen arnynt gefnogaeth trawsbleidiol o’r meinciau cefn i ddod yn gyfraith.

Bydd rhaglen ddeddfwriaethol newydd Llywodraeth Cymru yn cael ei chyhoeddi fis Gorffennaf. Mae Grŵp Laser o swyddogion eglwys a chymdeithas a materion cyhoeddus eglwysi a mudiadau Cristnogol Cymru yn monitro’r ddeddfwriaeth hon yn fanwl yn ei gyfarfodydd deufisol. Adroddir hefyd i gyfarfodydd Grŵp Radar o swyddogion cyfatebol holl wledydd y DU. Cytûn sy’n cydlynu’r gwaith hwn ar ran yr eglwysi, a byddwn yn croesawu sylwadau gan ein darllenwyr trwy gethin@cytun.cymru

DIGWYDDIADAU AR EICH CYFER

Wedi Traidcraft: Beth Nesaf?

Nos Fawrth, Mai 2, 7-8yh arlein

Llun trwy garedigrwydd Cymru Masnach Deg

Gawsoch chi eich effeithio gan Traidcraft yn cau yng Nghymru? Hoffech chi barhau i gefnogi Masnach Deg? Dewch i’r gweminar hwn i ddarganfod pa gefnogaeth sydd ar gael a rhannwch yr effaith y mae hyn yn ei gael yn eich cymuned.

Trefnir y digwyddiad hwn gan Cytûn a Cymru Masnach Deg ac fe fydd yn ddwyieithog, gyda chyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg.

Trefnwch eich lle nawr trwy Eventbrite.

Y Fenter Rhianta Genedlaethol – Digwyddiadau Gweledigaeth

Mae’r Fenter Rhianta Genedlaethol yn eich gwahodd i ymuno â nhw ar-lein a chlywed am ffyrdd y gall eich eglwys gefnogi a grymuso teuluoedd yn eich cymuned, a’u gweld yn ffynnu. Cewch gyfle i glywed gan Care for the Family, Home for Good a’r Kitchen Table Project ymhlith mudiadau gwych eraill. Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i holi cwestiynau a chael eich ysbrydoli. Gellir cofrestru am ddim trwy’r dolenni canlynol:  
Digwyddiad Gweledigaeth De Cymru 3ydd Mai, 12-1
Digwyddiad Gweledigaeth Canolbarth Cymru 7fed Mehefin, 12-1         
Digwyddiad Gweledigaeth Gogledd Cymru  5ed Gorffennaf, 12-1

Os hoffech ragor o wybodaeth ebostiwch Kayte Potter: kayte@thenpi.org.uk

CYSYLLTU Â SWYDDOG POLISI CYTÛN

Parch./Revd Gethin Rhys – Swyddog Polisi/Policy Officer
Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru/Churches together in Wales

Swyddfa gofrestredig: Yst. 3.3, Tŷ Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd CF24 0BL

Mudol/mobile: 07889 858062
E-bost: gethin@cytun.cymru         www.cytun.co.uk        @CytunNew

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Happy to communicate in Welsh and English

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” |
Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 |

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 29 2023. Cyhoeddir y Bwletin nesaf ar Fai 25 2023.