Etholiad Ewropeaidd 2019

Mae Cytûn wedi cyhoeddi adnoddau ar gyfer etholiad senedd Ewrop a gynhelir ar Mai 23 2019.

Materion Allweddol

  1. Newid Hinsawdd

Adnodd ar gyfer gweithredu gan eglwysi yn etholiadau Senedd Ewrop 2019 o Gynhadledd Eglwysi Ewropeaidd a Chomisiwn yr Eglwysi dros Fudwyr yn Ewrop, a addaswyd ar gyfer ei ddefnyddio yng Nghymru gan Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru).

Ein dyfodol NI ydyw

Cynhelir etholiadau nesaf Senedd Ewrop o 23 i 26 Mai 2019. Trwy bleidlais uniongyrchol, bydd dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn ethol 750 Aelod o’r Senedd (ASE)  fydd yn ffurfio bywyd yn yr Undeb Ewropeaidd am eu tymor o bum mlynedd . . . a thu hwnt! 23 Mai yw diwrnod yr etholiad yn y DU (neu trwy bleidlais bost cyn y dyddiad hwnnw). Bydd y 73 ASE a etholir o’r DU (gan gynnwys 4 o Gymru) yn eistedd hyd nes y bydd y DU yn cwblhau’r broses o ymadael â’r UE. Byddant yn cyfrannu’n llawn at y dadleuon a’r pleidleisio yn y Senedd.

Trwy gymryd rhan mewn democratiaeth, yr ydym yn codi ein gobeithion am well Ewrop a gwell dyfodol. Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi ymrwymo i gyfiawnder, heddwch, cydsafiad, ac urddas dynol. Mae eglwysi yn rhannu’r gwerthoedd hyn ac yn credu bod agweddau economaidd, cymdeithasol, ysbrydol ac ecolegol ein bywydau wedi eu rhyngblethu ac na ellir eu trin ar eu pennau eu hunain. Mae pryderon a rennir yn cysylltu ein bywydau ar draws pob math o ffin. Mae’r argyfwng ecolegol byd-eang, trafferthion economaidd a diweithdra, dyfodiad ffoaduriaid a thwf cenedlaetholdeb oll yn ail-lunio bywyd yn Ewrop yn ddramatig heddiw.

Bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn ymboeni am y broses o adael yr UE a gychwynnwyd gan y bleidlais yn y refferendwm i adael ar 23 Mehefin 2016. Fodd bynnag, fel eglwysi Cristnogol rydym yn rhannu llawer o bryderon gyda’n cyd-Gristnogion ar draws yr UE  a dylai’r rhain hefyd ddylanwadu ar ein pleidleisiau, Ymysg y pynciau sydd fwyaf o bwys i’r eglwysi yn Ewrop heddiw mae mudo a lloches, newid hinsawdd a datblygu cynaliadwy, y model cymdeithasol Ewropeaidd a dyfodol gwaith, llywodraethiant economaidd, hawliau dynol a rhyddid crefyddol, a rôl Ewrop yn y byd.

Yr Undeb Ewropeaidd: Ardal o werthoedd sy’n cael eu rhannu

Mae urddas dynol, cyfiawnder, rhyddid, heddwch a chymod, goddefgarwch a chydsafiad yn werthoedd creiddiol sydd wrth galon y prosiect Ewropeaidd. Mae eglwysi wedi ymrwymo i weithio dros well Ewrop ac y mae’r rhai yn yr Undeb Ewropeaidd yn cefnogi ei sefydliadau er mwyn arddel gwerthoedd a rennir a lles pawb. Maent yn ceisio codi pontydd, goresgyn rhaniadau hanesyddol a chynyddu ymdeimlad o gyfrifoldeb i’r byd. Yn wyneb gwrthdaro, gelwir arnom i fod yn gyfryngwyr cymod ac i frwydro yn erbyn gorthrwm.

Ar sail ein ffydd Gristnogol, yr ydym yn gweithio tuag at Ewrop ddyngarol, gymdeithasol gydwybodol, lle’r arddelir hawliau dynol a gwerthoedd sylfaenol heddwch, cyfiawnder, rhyddid, goddefgarwch, cyfranogi a chydsafiad – Charta Œcumenica

 Yn 2001, cymerodd eglwysi yn Ewrop gam mentrus ar y cyd gan gyhoeddi’n ddiamwys gefnogaeth yn y Charta Œcumenica i ddod ag Ewrop yn agosach at ei gilydd. Y tu mewn neu y tu allan i’r UE, yr ydym yn parhau i ymateb i’r alwad hon trwy weithio gyda’n haelodau a’n partneriaid ar faterion sydd o bwys i ni oll, gan gynnwys deialog gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Cynhadledd yr Eglwysi Ewropeaidd a Chomisiwn yr Eglwysi dros Fudwyr yn Ewrop yn dychmygu Ewrop lle mae pobl yn cyfarfod ac yn parchu ei gilydd. Mae deall ein gilydd fel Cristnogion yn gosod cyfiawnder, heddwch, cydsafiad, ac urddas dynol wrth galon popeth a wnawn. Gyda’n gilydd, rydym eisiau creu Ewrop ddiogel, gymdeithasol gyfiawn ac agored. Yr ydym yn gobeithio am yr un ymrwymiad o du’r rhai sy’n llunio dyfodol Ewrop. 

Am Senedd Ewrop

Lansiodd Senedd Ewrop lwyfan mewn 24 iaith i helpu i ddwyn pobl i mewn a chael mwy i bleidleisio yn yr etholiadau sydd ar y gorwel. Ewch at thistimeimvoting.eu i ddeall mwy.

Senedd Ewrop yw offeryn allweddol democratiaeth gynrychioliadol a chyfranogol yn yr UE. Trwy ethol Aelodau Senedd Ewrop, mae dinasyddion yn cyfrannu eu llais ac yn cymryd rhan yng nghyfarwyddo ac arolygu’r Undeb Ewropeaidd yn gyhoeddus. Mae’r senedd yn chwarae rhan bwysig ym mywyd yr Undeb Ewropeaidd. Mae ganddi bwerau deddfwriaethol ac awdurdod cyllidebol, ac y mae’n bwrw golwg ddemocrataidd a gwleidyddol dros y Comisiwn Ewropeaidd a sefydliadau eraill yr Undeb Ewropeaidd.

Mae seddi yn Senedd Ewrop yn cael eu dyrannu yn ôl poblogaeth yr Aelod-Wladwriaeth, yn amrywio o chwech i 96 ASE i bob gwlad. 73 ASE sydd gan y DU. Tra cynhelir etholiadau ar linellau pleidiau gwleidyddol cenedlaethol, mae’r rhan fwyaf o gynrychiolwyr etholedig yn penderfynu cymryd rhan mewn grwpiau rhyng-genedlaethol gydag eraill sydd o’r un farn. Am fwy o wybodaeth am y senedd, gallwch fynd at http://www.europarl.europa.eu/portal/en.

Ein Pryderon

Fel gyda Christnogion unigol, mae gan eglwysi safbwyntiau a phryderon i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau gwleidyddol a’r sawl sy’n ceisio swyddi gwleidyddol. Yn ôl Cytundeb Lisbon (Erthygl 17, TFEU) dylai’r UE – gan gynnwys Senedd Ewrop – gynnal deialog agored, dryloyw a rheolaidd gydag eglwysi a chymunedau crefyddol, gan gydnabod eu cyfraniad penodol. Sail yr hyn sydd o bwys i eglwysi yw parch at urddas dynol, bywyd o ryddid a chyfiawnder, ac ymrwymiad i barch, heddwch, rhannu a chydweithredu.

Ymdrinnir â’r materion hyn yn y testun a ganlyn.

Dyfodol yr Undeb Ewropeaidd

Ffurfiwyd yr Undeb Ewropeaidd fel cymuned oedd yn rhannu’r un gwerthoedd o’i gychwyn cyntaf. Mae’r weledigaeth hon yn cael ei hymgorffori ymhellach yn erthyglau cyntaf y Cytundeb ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd. Yn ddiweddar, fodd bynnag, bu’r ddelfryd o bwrpas cyffredin dan bwysau cynyddol. Mae peryglon poblyddiaeth ac eithafiaeth wleidyddol wedi cyrraedd lefelau nas gwelwyd o’r blaen yn hanes modern yr UE. Serch hynny, un o dasgau cyson yr Undeb yw peidio ag ymgilio oddi wrth y cyfrifoldeb o gadw delfryd y gwerthoedd cyffredin yn fyw.

  • Sut y bydd yr UE yn cryfhau’r ddelfryd o werthoedd cyffredin, o gofio penderfyniad y DU i dynnu allan o’r undeb?
  • Sut y bydd yr UE yn cryfhau ei ymrwymiad i les pawb?
  • Sut y bydd yr UE yn ymateb i heriau’r twf mewn poblyddiaeth ac eithafiaeth wleidyddol?

Mudo, Ffoaduriaid a Lloches

Mae mudo yn rhan annatod o hanes Ewrop ac y mae’n rhan bwysig o fywyd ar y cyfandir heddiw. Mae dinasyddion Ewropeaidd yn symud ar hyd a lled Ewrop, tra bod mudwyr a ffoaduriaid o fannau eraill yn cyrraedd i adeiladu bywydau newydd mewn cartref Ewropeaidd. Er bod heriau yn bodoli, y mae mudwyr yn cyfrannu at les economaidd Ewrop ac yn cyfoethogi ei chymdeithas sydd eisoes yn amrywiol.

  • Sut y bydd yr UE yn estyn croeso i’r sawl sydd angen cymorth ac angen cael eu gwarchod?
  • Sut y bydd yr UE yn darganfod cyfleoedd mewn mudo, gan gynnwys ffyrdd o ymateb i boblogaethau sy’n heneiddio a bylchau yn y farchnad lafur?
  • Sut y bydd yr UE yn hyrwyddo cydsafiad mewn polisïau yn ymwneud â mudo?

Newid Hinsawdd a Datblygu Cynaliadwy

Mae’r heriau sy’n codi o’r argyfyngau economaidd diweddar, anghydraddoldeb ac anghyfiawnder economaidd sy’n bodoli yn awr, a  phroblemau ecolegol sy’n prysur waethygu, yn bynciau sy’n effeithio ar bob Ewropead. Mae’r ffydd Gristnogol yn galw arnom i ymdrin mewn ffordd radical â phatrymau defnyddio a chynhyrchu. Mae’r patrymau hyn yn arwain at fwy o alw ar adnoddau naturiol a dynol, ac yn codi cwestiwn ynghylch yr hyn sy’n ein digoni mewn bywyd. Er mwyn gwrthweithio newid hinsawdd, rhaid i ni newid y modd yr ydym yn byw fel unigolion a chymunedau.

  • Sut y bydd yr UE yn lleihau nwyon tŷ gwydr i gwrdd â thargedau Cytundeb Paris ar newid hinsawdd?
  • Sut y bydd yr UE yn anrhydeddu cyfrifoldeb Ewrop tuag at y rhai mwyaf bregus sy’n dioddef o ganlyniad i newid hinsawdd?
  • Sut y bydd yr UE yn hyrwyddo gweithredu’r Nodau Datblygu Cynaliadwy, yn gwneud mwy i gynhyrchu ynni adnewyddol, a hyrwyddo economi sy’n cynhyrchu ac yn defnyddio yn gynaliadwy?

Y Model Cymdeithasol Ewropeaidd a Dyfodol Gwaith

Mae eglwysi yn pwysleisio rhoi pobl wrth galon pynciau yn ymwneud â llafur a chyflogaeth trwy amodau gwaith teg, gwarchodaeth gymdeithasol, a chynhwysedd. Mae llafur yn fwy na dim ond lles materol: mae’n gyfle hefyd i ffynnu, i wasanaethu cymdeithas, ac i ofalu dros y Cread. Dylai gwaith, ynghyd â llafur yn y cartref a chan wirfoddolwyr, roi’r grym i bobl gymryd rhan mewn cymdeithas hyd eithaf eu dyheadau a’u gallu.

  • Sut y bydd yr UE yn gweithredu y Piler Hawliau Cymdeithasol Ewropeaidd ac yn gwarantu ei fod yn cael ei wreiddio ym mywyd pob dinesydd?
  • Sut y bydd yr UE yn gwrthweithio anghydraddoldeb cymdeithasol ac yn hyrwyddo  cydraddoldeb rhwng Aelod-Wladwriaethau ac ynddynt?
  • Sut y bydd yr UE yn gwarchod amser preifat ac amser i deuluoedd rhag gofynion digideiddio ac amodau gwaith cynyddol hyblyg?

Llywodraethiant Economaidd Ewropeaidd

Nod yr Undeb Ewropeaidd yw gwella ansawdd bywyd i’w ddinasyddion. Mae eglwysi yn ymwneud yn gynyddol â’r modd y mae datblygu economaidd a therfynau ecolegol ein planed yn gyd-gysylltiedig. Rhaid i lywodraethiant economaidd effeithiol weithio o’r safbwynt hwn a symud yn wastad tuag at Undeb sy’n talu sylw i’r byd naturiol sy’n ein cynnal ac yn gwneud popeth yn bosib.

  • Sut y bydd yr UE yn cymryd camau tuag at economi sydd yn cydbwyso ffyniant gydag ystyriaethau cymdeithasol ac ecolegol?
  • Sut y bydd yr UE yn gwella tryloywder a thegwch cyffredinol y sector bancio a chyllid?
  • Sut y bydd yr UE yn hyrwyddo dileu tlodi ac eithrio cymdeithasol ochr yn ochr â thwf economaidd?

Ewrop yn y Byd

Yr UE yw’r corff sy’n rhoi’r mwyaf o gymorth datblygu yn y byd. Er hynny, ni fydd talu am gymorth ar ei ben ei hun yn dileu tlodi byd-eang nac yn datrys yr argyfyngau sy’n golygu ei fod yn parhau.

  • Sut y bydd yr UE yn cydgordio polisïau datblygu ac yn eu gwneud yn fwy effeithiol?
  • Sut y bydd yr UE yn cyfrannu at bartneriaethau byd-eang teg sy’n cyfrannu at roi urddas a gobaith i fywydau pobl?
  • Sut y bydd yr UE yn ymateb i anghenion y mwyaf bregus yn uniongyrchol yn y gwledydd lle maent yn byw, yn hyrwyddo cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, ac yn cyrraedd y Nodau Datblygu Cynaliadwy?

Ewrop fwy Cyfartal a Chynhwysol

Mae eglwysi sy’n aelodau o CEE yn eiriol dros hyrwyddo a gwarchod hawliau dynol o’r safonau uchaf yn Ewrop a thu hwnt. Yr ydym yn rhoi sylw i nifer o bynciau penodol gan gynnwys rhyddid crefydd neu gred, deddfwriaeth yn erbyn camwahaniaethu, a datblygu adnoddau ar gyfer hyfforddi ac addysg mewn hawliau dynol.

  • Sut y byddwch yn gwneud yn siŵr bod yr UE yn hyrwyddo ac yn parchu hawliau dynol a rhyddid crefydd neu gred?
  • Sut y byddwch yn cyfrannu at y frwydr yn erbyn camwahaniaethu, yn enwedig fel y’i hamlinellir yn Siartr Hawliau Sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd?*
  • Sut y byddwch yn gofalu bod yr UE yn parchu cydraddoldeb rhwng y rhywiau?

* Dywed Erthygl 21 Siartr Hawliau Sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd y “Gwaherddir unrhyw gamwahaniaethu ar unrhyw sail megis rhyw, hil, lliw, tarddiad ethnig neu gymdeithasol, priodweddau genetig, iaith, crefydd neu gred, barn wleidyddol neu farn arall, aelodaeth o leiafrif cenedlaethol, eiddo, genedigaeth, anabledd, oedran neu gyfeiriadedd rhywiol.”

Beth fedrwch chi wneud?

Yr ydym yn annog pawb i fod yn rhan o’r etholiadau Ewropeaidd sydd ar y gorwel a chymryd rhan yn y ddadl am ddyfodol Ewrop. Dyma rai awgrymiadau am ffyrdd y gallwch CHI fod yn rhan o’r broses:

  • Cadwch mewn cof werthoedd Cristnogol heddwch, cyfiawnder, urddas dynol a chynaliadwyedd wrth i chi bleidleisio.
  • Anogwch eraill, yn enwedig pobl ifanc, i bleidleisio. Gallwch wneud cais am bleidlais bost ar https://www.yourvotematters.co.uk/how-do-i-vote/voting-by-post 
  • Dewch i wybod pwy yw eich ymgeiswyr a’u pleidiau cyn yr etholiad.
  • Rhannwch eich pryderon a’ch meddyliau gyda’r ymgeiswyr. Cofiwch fod pob croeso i chi ddefnyddio’r ystyriaethau a’r cwestiynau yn y daflen hon wrth ymwneud â’ch ymgeiswyr.
  • Dilynwch yr ymgeiswyr a’u pleidiau ac ymwneud â hwy ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Cymerwch ran mewn dadleuon lleol. Os bwriadwch drefnu cyfarfodydd hystings neu gyfarfod etholiadol yng Nghymru, rhowch wybod i ni trwy gethin@cytun.cymru er mwyn i ni allu rhoi cyhoeddusrwydd i’ch digwyddiad ar ein gwefan.
  • Dysgwch fwy am safbwynt eich eglwys chi ar bynciau allweddol. Hyrwyddwch drafodaeth a digwyddiadau’n ymwneud â’r etholiadau yn eich eglwys eich hun.
  • Anogwch ddadl ystyrlon. Gwiriwch ffeithiau a defnyddiwch iaith gytbwys, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol lle gall sylwadau ledaenu’n sydyn.

Cysylltwch â Ni

Cynhadledd yr Eglwysi Ewropeaidd  (Brwsel)
rue Joseph II, 174
BE-1000 Brussels
+32 2 230 17 32 
cec@cec-kek.be
Facebook  www.facebook.com/ceceurope
Twitter @ceceurope
www.ceceurope.org

Cynhadledd yr Eglwysi Ewropeaidd  (Strasbourg)
8, rue du Fosse des Treize 
FR-67000 Strasbourg
+33 3 88 15 27 60
cec-strasbourg@cec-kek.be

Comisiwn yr Eglwysi dros Fudwyr yn Ewrop

rue Joseph II, 174    
BE-1000 Brussels
+32 2 231 14 13        
www.ccme.eu           
Facebook: www.facebook.com/CCME-Churches-Commission-for-Migrants-in-Europe-354517817908638/  
info@ccme.be              

Cytûn – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales
58 Richmond Road, Caerdydd/Cardiff, CF24 3AT
Tel:  029 2046 4378  Mudol/mobile: 07889 858062
post@cytun.cymru
www.cytun.co.uk
@CytunNew